Tudalen 1 o 1

Llyfr gorau am hanes Iwerddon

PostioPostiwyd: Sul 12 Gor 2009 5:37 pm
gan dawncyfarwydd
Fedar rhywun awgrymu pa lyfr fyddai'r gorau fel cyflwyniad i hanes Iwerddon? Yn nechrau'r ugeinfed ganrif mae gen i fwyaf o ddiddordeb, ond sa'n dda cael hynny efo cyflwyniad o gyfnod cynt ac o bosib olrhain dylanwad yr hanes at ddiwedd y G20.

Hm, teimlo chydig bach fel hwn...

Re: Llyfr gorau am hanes Iwerddon

PostioPostiwyd: Llun 13 Gor 2009 2:57 pm
gan Sioni Size
Un gwych cyffredinol sgen i ydi Ireland: a History gan Robert Kee. Mae'n rhoi dipyn o bwys ar y cyfnod hwnnw ac yn sbanio'r canrifoedd a mae'n ddarllen arbennig, lot haws i'w ddarllen na llyfrau Tim Pat Coogan (Michael Collins, The IRA, 1916 and the Easter Rising) er enghraifft. Mae'n rhoi pwys mawr ar fod yn 'niwtral' fel sa ti'n ddisgwyl ella gan Sais, a'i ymgais i gyfiawnhau gweithredoedd Lloegr yn Iwerddon adeg y newyn yn ochri ar ddoniolwch ("peidiwch a chondemnio Prydain/Lloegr o fod yn wrth-Wyddelig - mi fydda nhw wedi gwneud hyn i unrhyw wlad"). Ond ma'n sleifar o lyfr fel arall.

Ac ynmddiheuriadau, mi o'n i di bwriadu ateb dy neges Gweplyfr am hyn ond nes i ddim. Dyna ddysgu ti fynd ar y maes gynta.

Re: Llyfr gorau am hanes Iwerddon

PostioPostiwyd: Gwe 17 Gor 2009 10:29 pm
gan celt86
Ireland in the 20th Century (Paperback) - Tim Pat Coogan

Llyfr eithaf swmpys, ond yn hynod o dda. Fel rhywun sydd yn astudio hanes ar lefel academaidd uchel, mi allai ddweud nad yw Coogan yn rhy 'Republican/Nationalistic', sydd yn gwenud y llyfr yn fwy 'balanced.' Rwyf wedi darllen llyfrau am hanes Iwerddon lle mae 'agenda' y hanesydd yn rhoi sgiw a slant eithaf un ochrog i pethau, ac yn portreadu darlun anghywyr o Iwerddon.

Re: Llyfr gorau am hanes Iwerddon

PostioPostiwyd: Sad 18 Gor 2009 9:58 am
gan Cardi Bach
Cytuno gyda Sioni - cer am the Green Flag - hanes cenedlaetholdeb iwerddon gan Robert Kee - arbennig.

Re: Llyfr gorau am hanes Iwerddon

PostioPostiwyd: Sad 18 Gor 2009 12:29 pm
gan celt86
Cytuno. Mae Green Flag yn edrych ar y '1797 Rebellion' hyd at cyfnod De Vallera, os dwin cofio. Heb darllen o yn iawn. Os mae hanes cenedlaetholdeb yn Iwerddon ti eisiau, wel dyma'r llyfr.

Re: Llyfr gorau am hanes Iwerddon

PostioPostiwyd: Sad 18 Gor 2009 1:04 pm
gan Hazel
Beth am "Trinity" a "Redemption" gan Leon Uris? 'Saga' ffuglennol, yn wir, ond hanes cwbwl gywir. O ca 1845 i'r annihbyniaeth ydyn nhw.