Maent yn cyfadde eu bod yn ddiog heb ddysgu'r gymraeg ond i ddweud y gwir o drio cadw'r busnes i fynd o be dwi cofio o weithio yna doedd dim eiliad spar genynt a hwythau yn gwrithio 6 dydd yr wythnos.
Lle mae asgell chwith cymru heddiw? Lle mae na unrhyw un yn trio addysgu pobol gyffredin bod eu dywilliant efo hawl i fod ond hefyd bod hiliaeth byth yn adeiladol??? Doedd y ffordd oedd pobol Llanber yn siarad efo fy mos o Iran ddim yn iawn a ddim yn ei wneud o eisiau dysgu'r gymraeg o gwbwl! Syniadau asgell chwith tablods saesneg ydi hyn, lle mae'r petha cymraeg i adweithio yn eu herbyn? A dim yn y ffordd gor sefydliadol a meurig Plaid ond adwithio'n ffyrnig buasai'n pwysleisio pa mor bwysig ydi beidio trin pobol o'r tu allan fel ca*hu?
Ym mangor yr unig whiff o'r asgell chwith profais o fyw mewn pentref cyfagos oedd cyfarfodydd y 'Socialist Students'. Cyfarfodydd uniaeth saesneg am faterion oedd byth ynglun a chymru na'r asgell chwith gymraeg oeddwn i'n meddwl nad oeddi'n bodoli. Lle mae pobol enthiwsiastig buasai'n cynnal petha i ledeunu syniadau'r asgell chwith?
I fod yn deg o ddarllen maniffesto cymdeithas yn eu hegwyddor maent i'r dim yr asgell chwith radical, a bu fforwm ieuenctid i drafod syniadau ynghylch a hawliau pan oeddwn yn byw yn y gogs a roedd hynnu'n syniad gwych... ond heb bethau mwy amal faint o pobol ifanc efallai sydd am troi i dderbyn y norm gwleidyddol heb pethau felma i'w dangos bod yna modd amgen??
Rant drosodd! trafodwch os chisho!
