Tudalen 1 o 4

Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Sul 02 Ion 2011 7:50 pm
gan MELOG
Bues i yn gweithio yn kebab shop yn Llanberis am saibiadau rhwng coleg ers rhai blynyddoedd rwan. Sosialydd rhemp o Iran a Saesnes sosialaidd oedd y cyd berchenwraig. Tan yn ddiweddar oeddynt yn gweld agwedd y cymru lleol yn ffasgaidd (o weithio yno oedd dwds meddwol llanber yn ei alw'n paci a hitha'n ff*cin sais a pob math o bethau, rhei bygwth cwffio a.y.y.b.). O ganlyniad i hyn yr oeddynt yn credu fod y Cymru yn bethau hiliol asgell dde (dim gwahanol i ogledd lloeger efallai ond am gymru ni son am fama!) Efallai oedd o mwy amlwg a rhyfedd i'r saesnes wrth iddi fod ar begwn derbyn 'hiliaeth'.

Maent yn cyfadde eu bod yn ddiog heb ddysgu'r gymraeg ond i ddweud y gwir o drio cadw'r busnes i fynd o be dwi cofio o weithio yna doedd dim eiliad spar genynt a hwythau yn gwrithio 6 dydd yr wythnos.

Lle mae asgell chwith cymru heddiw? Lle mae na unrhyw un yn trio addysgu pobol gyffredin bod eu dywilliant efo hawl i fod ond hefyd bod hiliaeth byth yn adeiladol??? Doedd y ffordd oedd pobol Llanber yn siarad efo fy mos o Iran ddim yn iawn a ddim yn ei wneud o eisiau dysgu'r gymraeg o gwbwl! Syniadau asgell chwith tablods saesneg ydi hyn, lle mae'r petha cymraeg i adweithio yn eu herbyn? A dim yn y ffordd gor sefydliadol a meurig Plaid ond adwithio'n ffyrnig buasai'n pwysleisio pa mor bwysig ydi beidio trin pobol o'r tu allan fel ca*hu?

Ym mangor yr unig whiff o'r asgell chwith profais o fyw mewn pentref cyfagos oedd cyfarfodydd y 'Socialist Students'. Cyfarfodydd uniaeth saesneg am faterion oedd byth ynglun a chymru na'r asgell chwith gymraeg oeddwn i'n meddwl nad oeddi'n bodoli. Lle mae pobol enthiwsiastig buasai'n cynnal petha i ledeunu syniadau'r asgell chwith?

I fod yn deg o ddarllen maniffesto cymdeithas yn eu hegwyddor maent i'r dim yr asgell chwith radical, a bu fforwm ieuenctid i drafod syniadau ynghylch a hawliau pan oeddwn yn byw yn y gogs a roedd hynnu'n syniad gwych... ond heb bethau mwy amal faint o pobol ifanc efallai sydd am troi i dderbyn y norm gwleidyddol heb pethau felma i'w dangos bod yna modd amgen??
Rant drosodd! trafodwch os chisho! :)

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Llun 03 Ion 2011 9:38 pm
gan ap Dafydd
MELOG a ddywedodd:Bues i yn gweithio yn kebab shop yn Llanberis am saibiadau rhwng coleg ers rhai blynyddoedd rwan. Sosialydd rhemp o Iran a Saesnes sosialaidd oedd y cyd berchenwraig. Tan yn ddiweddar oeddynt yn gweld agwedd y cymru lleol yn ffasgaidd (o weithio yno oedd dwds meddwol llanber yn ei alw'n paci a hitha'n ff*cin sais a pob math o bethau, rhei bygwth cwffio a.y.y.b.). O ganlyniad i hyn yr oeddynt yn credu fod y Cymru yn bethau hiliol asgell dde (dim gwahanol i ogledd lloeger efallai ond am gymru ni son am fama!) Efallai oedd o mwy amlwg a rhyfedd i'r saesnes wrth iddi fod ar begwn derbyn 'hiliaeth'.

Maent yn cyfadde eu bod yn ddiog heb ddysgu'r gymraeg ond i ddweud y gwir o drio cadw'r busnes i fynd o be dwi cofio o weithio yna doedd dim eiliad spar genynt a hwythau yn gwrithio 6 dydd yr wythnos.

Rhywbeth fel hyn, felly?

Cymro: Shw mae?
Mrs White-Settler: I'll be obliged if you'll speak English in this establishment!
Cymro: Cer ff*cia'th hunan, blydi Sais...
Mrs White-Settler: How dreadfully racist these Welsh are.

Beth am ddysgu siarad iaith y bobl _cyn_ dechrau busnes yn eu plith?

Ffred

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Llun 03 Ion 2011 10:03 pm
gan osian
ap Dafydd a ddywedodd:

Ma' hynna'n bwynt hollol hurt, fedri di'm cymryd fod y bobl wedi deud rhywbath fel'na i ysgogi'r hiliaeth.
'Sna ddim byd yn esgusodi hiliaeth, ond ar y llaw arall ma g'neud casgliada' am y Cymry ar sail idiots meddw yn naif iawn. Ac mi ddyla' nhw fod wedi g'neud ymdrech i ddysgu Cymreg.

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Llun 03 Ion 2011 11:26 pm
gan MELOG
Dwi'n cytuno, ond pobol neis iawn oeddan nhw a i ddweud y gwir efo cyn gymaint o gymru efo'r amser a'r hamdden iw ddysgu a sydd ddim... allai weld sut dydi'r gymraeg ar top eu rhestr. Ella fi sydd efo tuedd am bod fi'n licio'r bobol ond oedd y saenes yn ddynes clen a rioed di deud fath beth, oedd yn parchu'r gymraeg a deud sori ei bod ddim yn ei ddeallt, ond hiliaeth oedd ei profiad yma rioed a mae hyna wedi gwneud yr iaith efallai fel ei fod yn rhywbeth elyniaethus ati. Pam buasai hi eisiau dysgu iaith pobol sydd yn trio smasho ei ffenestri ai galw enwa fela?

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Llun 03 Ion 2011 11:58 pm
gan Josgin
Efallai am ei bod wedi dewis symud yma. Mae arnaf ofn fod y Fro Gymraeg yn llawn pobl berffaith ddymunol, hoffus a deallus, nad ydynt wedi cael yr amser na'r awydd i ddysgu Cymraeg. Mae nifer ohonynt yn pobl o dueddiad 'adain-chwith' , ac yn bileri ymgyrchoedd teilwng fel y Palesteinaid,gwrth- apartheid ayb. Yn anffodus, nid oes ond angen darllen y 'Guardian' i sylweddoli beth yw gwir agwedd y chwith Brydeinig at Gymry Cymraeg a chenedlaetholdeb. Yr ydym i gyd weithiau yn canfod fod ein hegwyddorion sosialaidd a'n cenedlgarwch ddim bob tro'n cyfateb.
A wnest ti geisio cymodi mewn rhyw ffordd rhwng dy gyflogwyr a dy gyd-Gymry ?.

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Maw 04 Ion 2011 12:39 am
gan MELOG
Dwnim de mae'n eich rhoi mewn penbleth hyn dydi, dysa nw ddysgu cymraeg i ddeud y gwir ond mae hiliaeth plwmp ac yn blaen yno a dydi hynnu ddim yn iawn chwaith er efallai does dim bar arnynt fod yn amddiffynol, jest ma pobol angen addysg pedio gael o allan mewn ffyrdd negatif ??

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Maw 04 Ion 2011 8:16 am
gan Josgin
Mae arnaf ofn nad ydi'r holl addysg yn y byd ddim iws ar ol deg peint !

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Maw 04 Ion 2011 3:45 pm
gan ceribethlem
Os bosib fod galw rhywun yn ffycin sais yn hiliol? Mae perffaith hawl gweud unrhywbeth amdanom ni'r Cymry heb iddo fod yn hiliol.

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Maw 04 Ion 2011 5:30 pm
gan Nanog
Ydy nhw'n gallu siarad rhywfaint o Gymraeg? ' Diolch, Nesa', , Sut mae?, Croeso, Dwi'n dysgu Cymraeg'? Cyfrif a dweud y cyfanswm yn Gymraeg?

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Mer 05 Ion 2011 11:45 am
gan dil
ma hiliondeb a homoffobia yn anerbyniol.
ond dydi hi ddim yn bosib i ni fod yn hiliol yn ol ystyr y gair i saeson gan bod ni yn lleafrif yn prydain.
ma hune yn ffeithiol. ma saeson yn aml yn taflu y gair ogwmpas i amddiffyn ei hunen or lleafrif er nad ywr gair
yn gallu cael ei ddefnyddio i ddisgrifio y lleafrif.
dwin sicr bod ne lot o bobl yn llanber sy ddim di meddwl pethe drwadd yn llwyr ac ddim yn rhoi cyfle teg i pawb
ond yn sicr maen enghaifft da o le sy wedi cal i shaftio gan saeson lawer gwaith drosodd.

mar hiliondeb gath y boi o iran yn anerbyniol.
ond dwim yn derbyn fod y ffaith bod bobl di deud pethe cas yn golygu nad oes anghen iddo ddysgu cymraeg.
dylie pob person busnes call neud ymdrech i ddysgu iaith y cwsmer dylie?
di enghreifftiau o huliondeb ddim yn newid hun.
os fyse fo sut allai i rwsud anghofior gallu i siarad saesneg?

peth cas ydi bod yn rhan o gymdeithas syn ymddwyn felma.
peth cas hefyd ydi gweld ein cymdeithas ni yn marw.
pam ddim cysylltu gyda menter iaith sy ofewn y gyngor ne bwrdd yr iaith i weld be alla nhw neud i helpu.