gan Josgin » Sad 08 Ion 2011 2:31 pm
Yn ninasoedd mawr Lloegr , cymeraf fod yr adain chwith yn flaengar iawn mewn ymgyrchoedd gwrth hiliol, a gyda lle anrhydeddus iawn mewn ymgyrchoedd . Cymeraf fod yr un peth yn wir yn Ne Cymru, sydd efallai gyda mwy o gymunedau ethnig. Mae'n anodd gennyf gredu nad ydynt ddim. Serch hynny, yn yr ardal yma, mae gwrth-hiliaeth yn cael ei droi ar ei ben fel esgus gan fewnfudwyr i wrthod a gwrthwynebu addysg Gymraeg, ac i'r Gymraeg fod yn hanfodol ar gyfer rhai swyddi . Mae mewnfudwyr adain dde yn yr un cwch - gwr o'r enw John Walker yn un amlwg , ond nid oes yr un math o fri i hybu'r Gymraeg ymysg ymgyrchwyr sosialaidd ac y buasai amddiffyn y Palesteiniaid , ymladd cyfalafiaeth, achub y morfil, ayb.
Cafodd meddylfryd o'r fath ei ladmerydd o fewn y mudiad cenedlathol - Yr "Arglwydd" Ellis Thomas, neb llai. Cyfeiriodd yn y 90au , ar adeg pan yr oedd llawer i genedlaetholwr yn pryderu am effeithiau dinistriol mewnfudo , at ' ffoaduriaid o Thatcheriaeth' yn ffoi o ddinasoedd Lloegr i'n cefn gwlad .
O feddwl yn galetach, yr oedd engreifftiau o hiliaeth o fath i'w cael ymysg mudiadau Sosialaidd eraill - i raddau. Yn ystod yr 80au a 90au, yr oedd hollt rhwng Pabyddion a Phrotestaniaid yn bod o fewn Plaid Lafur etholaeth Albanaidd yr arweinydd Llafur ar y pryd ( Y diweddar John Smith). Nid hiliaeth fel y cyfryw, ond gwahaniaethu go filain ( yr oedd dwy faesdref o fewn yr etholaeth os cofiaf yn iawn, a'r naill a'r llall o draddodiad crefyddol gwahanol ) .
Mae rhai mudiadau ffeministaidd ei chael hi'n anodd cysoni dau egwyddor - mae enwaedu merched yn 'draddodiad' ymysg rhai gwareiddiau, ac mae Jack Straw
yn cyfeirio heddiw at agwedd (Rhai) gwyr o Pakistan at ferched croenwyn . Mae tecwch a chyfiawnder un person yn aml yn orthrwm a sarhad un arall. Duw a wyr ein bod yn lwcus yng Nghymru i gymharu a'r arfodir Ifori, cofier.