gan Sioni Size » Sad 15 Ion 2011 12:15 pm
Pan wneir y joc am fod ci yn uffernol o adain dde, ai son am ei syniadau economaidd y maent?
Pam y mae'r BNP yn cael eu disgrifio fel plaid adain dde eithafol? Oherwydd eu bod yn coelio mewn gyn lleied o drethi a phosib?
Ai ffliwc yr yw fod y papurau a'r pleidiau adain dde yn cael eu hystyried fel y rhai mwyaf gwrth dramorwyr?
Pam oed Noam Chomsky, John Pilger a George Monbiot yn cael eu condemnio yma gan Boris, Ret, Newt Gringich a Pogon flynyddoedd yn ol fel 'arwyr y chwith'? Oherywdd eu bod yn coelio mewn rheolaeth economeg canolog?
Mae'n deg i chi ofyn paham fod y ffenomena o hiliaeth yn cael ei gysylltu a'r adain dde os y dymunwch, ond mae smalio nad yw'n bodoli oherwydd nad yw'n ffitio a'r dehongliad cul economaidd o'r termau hynny ychydig yn anonest.
Nawr wi'n gwybod na fyddai Cardis sy'n caru eu harian eisiau cael eu hystyried ar yr un ochr a'r hiliol, a dwi ddim yn cynnig fod hynny'n wir o gwbl, ond mae'n bosib fod cysylltiad rhwng y dehongliadau gwahanol o `asgell dde` fyddai'n esbonio hyn.
Mae gwrth-gyfalafwyr fwy neu lai oll yn wrth-hiliol drwy natur. Maent yn gwrthwynebu sefydliadau sy'n blaenoriaethu elw o flaen hawliau pobl. Mae sosialaeth ryngwladol yn ei hanfod yn wrth hiliol gan ei fod yn coelio mewn hawliau pob unigolyn i dderbyn iechyd ac addysg deg. Nid yw dod a Stalin a Hitler i fewn i'r ddadl yn profi dim gan nad oeddent yn sosialwyr rhyngwladol o unrhyw fath. 'State capitalist' yw un dehongliad, gan eu fod yn arddel cyfoethogi eu pobl a'u gwlad eu hunain ar draul pobl a gwledydd arall. Sefyldiadau imperialaidd oedden nhw, a mae imperialaeth yn ei hanfod yn adain dde yn ei natur gan mai creu cyfoeth i'w hun yw pwrpas pob un, o'r Rhufeiniaid i'r Anglo-Americaniaid heddiw yn Irac, boed beth eu polisi cartref.
Rwan cewch gwyno pam fod y rhai sy'n caru elw neu ffyniant i `ni, waeth bynnag be yw'r diffiniad o `ni`, yn fwy na thegwch i bawb, yn cael eu galw'n asgell asgell dde, ond ni fedrwch wadu ei fod yn bodoli.