Tudalen 2 o 4

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Mer 05 Ion 2011 11:58 am
gan osian
Ella' dyla'r edefyn yma gael ei rannu'n ddau? Ma'r pwnc gwreiddiol wedi ei anghofio'n llwyr.

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Mer 05 Ion 2011 12:37 pm
gan dil
man bwnc cymleth dyna pam de.

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Mer 05 Ion 2011 1:43 pm
gan tommybach
Mae arnaf ofn nad ydi'r holl addysg yn y byd ddim iws ar ol deg peint !


Yn union. Rwy'n siŵr bod pethau tebyg yn digwydd ym mhobman. Mae'r asgell chwith dal yn gryf yng Nghymru (yn enwedig ynglŷn â materion economaidd) ond mae'r Cymry yn gallu fod yn geidwadol tu hwnt ar rai materion cymdeithasol.

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Mer 05 Ion 2011 2:31 pm
gan dawncyfarwydd
Sori, ydw i wedi camddeall? Ydi hiliaeth yn asgell dde a gwrthwynebu hiliaeth yn asgell chwith? :ofn: Sut ti'n gweithio hynna allan?

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Sad 08 Ion 2011 10:19 am
gan Seonaidh/Sioni
Dawn C- dychwel i Blaned Daear! Hitler? Taleban? KKK?

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Sad 08 Ion 2011 10:51 am
gan sian
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Dawn C- dychwel i Blaned Daear! Hitler? Taleban? KKK?


Cangen gref iawn o'r KKK yn Llanberis, medden nhw.

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Sad 08 Ion 2011 12:32 pm
gan Josgin
Mae'r adain chwith yn wrth-hiliol ymhobman ond Gogledd Orllewin Cymru. Yma, mae'r bobl mwyaf gwrth-Gymreig yn aml yn sosialwyr o Saeson.

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Sad 08 Ion 2011 2:01 pm
gan ceribethlem
Josgin a ddywedodd:Mae'r adain chwith yn wrth-hiliol ymhobman ond Gogledd Orllewin Cymru. Yma, mae'r bobl mwyaf gwrth-Gymreig yn aml yn sosialwyr o Saeson.

Fi ddim wostod yn gallu darllen pobl yn cymryd y piss ar y we, heb y busnes chwinci 'ma. Ti ddim o ddifri gyda'r rhan bold, wyt ti?

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Sad 08 Ion 2011 2:06 pm
gan dawncyfarwydd
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Dawn C- dychwel i Blaned Daear! Hitler? Taleban? KKK?
Ai dyma dy ddadl:

Mae enghreifftiau o fudiadau hiliol eithafol sy'n asgell dde.
Felly mae hiliaeth yn asgell dde.

:?

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Sad 08 Ion 2011 2:31 pm
gan Josgin
Yn ninasoedd mawr Lloegr , cymeraf fod yr adain chwith yn flaengar iawn mewn ymgyrchoedd gwrth hiliol, a gyda lle anrhydeddus iawn mewn ymgyrchoedd . Cymeraf fod yr un peth yn wir yn Ne Cymru, sydd efallai gyda mwy o gymunedau ethnig. Mae'n anodd gennyf gredu nad ydynt ddim. Serch hynny, yn yr ardal yma, mae gwrth-hiliaeth yn cael ei droi ar ei ben fel esgus gan fewnfudwyr i wrthod a gwrthwynebu addysg Gymraeg, ac i'r Gymraeg fod yn hanfodol ar gyfer rhai swyddi . Mae mewnfudwyr adain dde yn yr un cwch - gwr o'r enw John Walker yn un amlwg , ond nid oes yr un math o fri i hybu'r Gymraeg ymysg ymgyrchwyr sosialaidd ac y buasai amddiffyn y Palesteiniaid , ymladd cyfalafiaeth, achub y morfil, ayb.
Cafodd meddylfryd o'r fath ei ladmerydd o fewn y mudiad cenedlathol - Yr "Arglwydd" Ellis Thomas, neb llai. Cyfeiriodd yn y 90au , ar adeg pan yr oedd llawer i genedlaetholwr yn pryderu am effeithiau dinistriol mewnfudo , at ' ffoaduriaid o Thatcheriaeth' yn ffoi o ddinasoedd Lloegr i'n cefn gwlad .
O feddwl yn galetach, yr oedd engreifftiau o hiliaeth o fath i'w cael ymysg mudiadau Sosialaidd eraill - i raddau. Yn ystod yr 80au a 90au, yr oedd hollt rhwng Pabyddion a Phrotestaniaid yn bod o fewn Plaid Lafur etholaeth Albanaidd yr arweinydd Llafur ar y pryd ( Y diweddar John Smith). Nid hiliaeth fel y cyfryw, ond gwahaniaethu go filain ( yr oedd dwy faesdref o fewn yr etholaeth os cofiaf yn iawn, a'r naill a'r llall o draddodiad crefyddol gwahanol ) .
Mae rhai mudiadau ffeministaidd ei chael hi'n anodd cysoni dau egwyddor - mae enwaedu merched yn 'draddodiad' ymysg rhai gwareiddiau, ac mae Jack Straw
yn cyfeirio heddiw at agwedd (Rhai) gwyr o Pakistan at ferched croenwyn . Mae tecwch a chyfiawnder un person yn aml yn orthrwm a sarhad un arall. Duw a wyr ein bod yn lwcus yng Nghymru i gymharu a'r arfodir Ifori, cofier.