Tudalen 3 o 4

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Sad 08 Ion 2011 2:46 pm
gan ceribethlem
dawncyfarwydd a ddywedodd:
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Dawn C- dychwel i Blaned Daear! Hitler? Taleban? KKK?
Ai dyma dy ddadl:

Mae enghreifftiau o fudiadau hiliol eithafol sy'n asgell dde.
Felly mae hiliaeth yn asgell dde.

:?

Doedd Hitler ddim yn asgell dde, socialydd ffasgaidd, hiliol oedd e'.
http://democraticpeace.wordpress.com/2009/05/23/hitler-was-a-socialist/

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Sad 08 Ion 2011 3:02 pm
gan Josgin
O edrych ar bolisiau economaidd , yr oedd cynllunio a rheoli o'r canol yn elfen gref yn y trydydd Reich . Ni chredaf y buasai Mrs Thatcher a Hitler gyda llawer o dir cyffredin gyda'r farchnad rydd- yr oedd Hitler gyda drwgdybiaeth o gyfalafiaeth .Hiliaeth a difa'r Iddewon a'r Slafiaid oedd arwyddair Hitler ar hyd y daith. I'r diben yma, roedd yn rhaid iddo reoli'r economi Almaenaidd mewn dull sy'n gyson a rhai syniadau sosialaidd.
Nid oedd gan Winston Churchill, ychwaith, lawer o syniad am gynllunio economaidd , o ran hynny.

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Sad 08 Ion 2011 3:06 pm
gan ceribethlem
Josgin a ddywedodd:O edrych ar bolisiau economaidd , yr oedd cynllunio a rheoli o'r canol yn elfen gref yn y trydydd Reich . Ni chredaf y buasai Mrs Thatcher a Hitler gyda llawer o dir cyffredin gyda'r farchnad rydd- yr oedd Hitler gyda drwgdybiaeth o gyfalafiaeth .Hiliaeth a difa'r Iddewon a'r Slafiaid oedd arwyddair Hitler ar hyd y daith. I'r diben yma, roedd yn rhaid iddo reoli'r economi Almaenaidd mewn dull sy'n gyson a rhai syniadau sosialaidd.
Nid oedd gan Winston Churchill, ychwaith, lawer o syniad am gynllunio economaidd , o ran hynny.

Ie, 'na beth o'n i'n trial dweud :winc:

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Gwe 14 Ion 2011 4:02 am
gan Gwenci Ddrwg
Arosa...hiliaeth + homoffobia = adain dde? Diddorol, do'n i'm yn gwybod hynny. Felly o'r adain dde ydy Robert "Damn Whities" Mugabe? O'r adain dde oedd yr Undeb Sofietaidd (oedd yn banio gwrywgydiaeth ac oedd yn ystyried gwrywgydiaeth fel "effaith o gymdeithas y gyfalafwyr")?

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Gwe 14 Ion 2011 8:17 am
gan ceribethlem
Ymddengys fod dipyn o gytundeb fod hiliaeth ddim yn perthyn i un asgell mwy na'r llall te.

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Gwe 14 Ion 2011 6:24 pm
gan Seonaidh/Sioni
Mae hiliaeth yn ddull i rannu pobl oddi wrth ei gilydd ac felly yn beth gwrth-sosialaidd.

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Gwe 14 Ion 2011 9:27 pm
gan Josgin
Nid wyf yn credu fod hiliaeth yn gyfyngedig i'r adain dde - nac i Ewropeaid , o ran hynny. Teg yw dweud , foddbynnag , fod mudiadau adain chwith wedi chwarae mwy o ran mewn gwrth- hiliaeth - yn y 70au , fe wnaeth yr Anti-Nazi League chwarae rhan amlwg mewn gorchfygu'r NF . Buasai mudiadau sosialaeth gyda pwyslais cryf ar rhyngwladoldeb wedi cefnogi ymgyrchoedd Ghandi a brwydro yn erbyn gwladychu . Credaf i wr o Gymru chwarae peth rhan yn sefydlu'r ANC yn negawdau cynnar y ganrif ddiwethaf.
Yr wyt yn crynhoi'r cysylltiad yn dda iawn ,Sioni .
OND ! . Dim ond drwy bwyslesio hawl y Gymraeg i fodoli -ac yn wir , i fod flaenaf yn y Fro Gymraeg , y gwnaiff barhau. Addas yw cofio darlith J.R. Jones, lle mae'n gofyn 'A oes rhaid i'r iaith ein gwahanu ? ' . Dyna pam mae Sosialwyr Di-Gymraeg yn ei chael hi'n gyfleus i bardduo cenedlaetholdeb fel hiliaeth .

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Sad 15 Ion 2011 12:15 pm
gan Sioni Size
Pan wneir y joc am fod ci yn uffernol o adain dde, ai son am ei syniadau economaidd y maent?
Pam y mae'r BNP yn cael eu disgrifio fel plaid adain dde eithafol? Oherwydd eu bod yn coelio mewn gyn lleied o drethi a phosib?
Ai ffliwc yr yw fod y papurau a'r pleidiau adain dde yn cael eu hystyried fel y rhai mwyaf gwrth dramorwyr?

Pam oed Noam Chomsky, John Pilger a George Monbiot yn cael eu condemnio yma gan Boris, Ret, Newt Gringich a Pogon flynyddoedd yn ol fel 'arwyr y chwith'? Oherywdd eu bod yn coelio mewn rheolaeth economeg canolog?

Mae'n deg i chi ofyn paham fod y ffenomena o hiliaeth yn cael ei gysylltu a'r adain dde os y dymunwch, ond mae smalio nad yw'n bodoli oherwydd nad yw'n ffitio a'r dehongliad cul economaidd o'r termau hynny ychydig yn anonest.

Nawr wi'n gwybod na fyddai Cardis sy'n caru eu harian eisiau cael eu hystyried ar yr un ochr a'r hiliol, a dwi ddim yn cynnig fod hynny'n wir o gwbl, ond mae'n bosib fod cysylltiad rhwng y dehongliadau gwahanol o `asgell dde` fyddai'n esbonio hyn.

Mae gwrth-gyfalafwyr fwy neu lai oll yn wrth-hiliol drwy natur. Maent yn gwrthwynebu sefydliadau sy'n blaenoriaethu elw o flaen hawliau pobl. Mae sosialaeth ryngwladol yn ei hanfod yn wrth hiliol gan ei fod yn coelio mewn hawliau pob unigolyn i dderbyn iechyd ac addysg deg. Nid yw dod a Stalin a Hitler i fewn i'r ddadl yn profi dim gan nad oeddent yn sosialwyr rhyngwladol o unrhyw fath. 'State capitalist' yw un dehongliad, gan eu fod yn arddel cyfoethogi eu pobl a'u gwlad eu hunain ar draul pobl a gwledydd arall. Sefyldiadau imperialaidd oedden nhw, a mae imperialaeth yn ei hanfod yn adain dde yn ei natur gan mai creu cyfoeth i'w hun yw pwrpas pob un, o'r Rhufeiniaid i'r Anglo-Americaniaid heddiw yn Irac, boed beth eu polisi cartref.

Rwan cewch gwyno pam fod y rhai sy'n caru elw neu ffyniant i `ni, waeth bynnag be yw'r diffiniad o `ni`, yn fwy na thegwch i bawb, yn cael eu galw'n asgell asgell dde, ond ni fedrwch wadu ei fod yn bodoli.

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Sul 10 Ebr 2011 4:56 am
gan Gwenci Ddrwg
Sioni:

Yn union pam dydy'r syniad o "de - chwith" ddim yn gweithio. Mae na mwy nag un 'graddfa' gwleidyddol heblaw am polisi economaidd (dos chwilio am 'political compass' ar Google i weld be dwi'n golygu).

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Llun 11 Ebr 2011 5:54 am
gan Hen Rech Flin
MELOG a ddywedodd:Lle mae asgell chwith cymru heddiw?

Wedi ei foddi ym Mhydew Isaf Brwmstan Uffern, rwy'n gobeithio!

Ond wedi dweud hynny nid mater o ddadl chwith / de mo hiliaeth, na pharch at y gymdeithas mae un yn mewnfudo iddo. Mae dy rant yn awgrymu drwg o'r naill ochr a'r llall!

Ond ar y llaw arall, hwyrach mae perthynas y Cymry a SiƓn Barley yw'r broblem fwyaf, a methiant y Cymro meddw i ddangos parch i Gymro, Sais nac Iraci yn ei gwpan.