Tudalen 4 o 4

Re: Llwfdra asgell chwith Cymru

PostioPostiwyd: Maw 12 Ebr 2011 8:48 pm
gan Seonaidh/Sioni
Sosialaeth: credo ein bod ni i gyd ar yr un ddaear, credo am weithio ynghyd er budd pawb - ayyb. Felly, o'i natur, gwrth-hiliol. O ie, mae amrywiaeth fawr o fewn sosialaeth ar y sbectrwm "rhyddfrydol-awdurdodol" ond, gan mai'r gymdeithas sy'n safonol i bob sosialaeth, anodd byddai iddi fod yn hiliol o gwbl.

Ac dyna'r dichotomy: ar yr naill llaw, cydweithio efo pawb; ar y llall, cadw'r iaith yn byw. Ond ystyried hyn: petai aelodau' cymuned yr iaith fawr yn cydweithio fel y dylent, bydden nhw'n cefnogi'r iaith fach. Felly, beth bynnag eu plaid, os nad yn nhw'n fodlon cefnogi'r Gymraeg, dim sosialyddion mohonynt.