Tudalen 1 o 1

Moesoldeb Iechyd/Addysg Breifat

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 2:10 pm
gan Hogyn o Rachub
Yn syml, ydych chi o blaid neu'n erbyn?

Ydi hi'n iawn, mewn gymdeithas modern a theg, fod y cyfoethog yn gallu cael triniaeth gwell os ydynt yn sâl? Ydi hi'n iawn mewn gymdeithas 'rydd' nad oes gan y tlawd y rhyddid i fedru gyrru eu plant i ysgolion preifat, sy'n golygu fod y cyfoethog â mantais dros y gweddill?

Neu efallai eich bod yn credu fod y cyfoethog wedi gweithio'n galed am eu harian ac yn haeddu gwell?

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 6:31 pm
gan RET79
Os yw pobl sydd hefo'r arian yn mynd yn breifat, mae hyn yn rhoi llai o straen ar yr NHS a'r ysgolion. Felly gall un ddadlau fod nhw'n gwneud ffafr a'r wlad gan fod nhw yn tynnu allan o'r NHS ac felly gwneud y restr disgwyl yn llai i bawb arall.

PostioPostiwyd: Mer 05 Tach 2003 8:42 pm
gan ceribethlem
Fel athro ysgol gyfun dwi yn gryf yn erbyn ysgolion preifat. Pe bai'r rhieni am dalu am addysg i'w plant yna fe ellir defnyddio tiwtoriaid preifat. Mae ysgolion cyfun yn dysgu mwy nac academia yn unig, mae'n dysgu trawdoriad o fywyd, ac felly mae angen trawsdoriad o'r boblogaeth yn eu mynychu.

O ran iechyd, eto dwi yn erbyn iechyd preifat, mae gan bawb yr hawl i gael cymorth meddygol o'r safon orau.

Dylid gwario llai o arian ar bethau anfoesol megis rhyfel a mwy dros iechyd ac addysg.

PostioPostiwyd: Iau 06 Tach 2003 10:43 am
gan Cardi Bach
RET79 a ddywedodd:Os yw pobl sydd hefo'r arian yn mynd yn breifat, mae hyn yn rhoi llai o straen ar yr NHS a'r ysgolion. Felly gall un ddadlau fod nhw'n gwneud ffafr a'r wlad gan fod nhw yn tynnu allan o'r NHS ac felly gwneud y restr disgwyl yn llai i bawb arall.


Os chi'n folon talu fwy, pam ddim talu fwy o dreth?

Unwaith eto, fel dadl mewn edefyn arall, mae'r ddadl yma i weld ypseid-down.

Mae'n rhyfedd fod Ceidwadwyr (yn gyffredinol) yn fodlon talu am eu hiechyd, ac yn y ddadl yma yn gadel i'r bobl bach tlawd gael y gorau o'r NHS, ond pan ddaw hi i gynyddu trethi i dalu am yr NHS ma nhw yp-in-arms!!!!

Paradocsaidd.

Pam ddim jest gadel i'r bobol sy'n gallu fforddio i dalu fwy o dreth? Bydd hyn yn golygu mwy o wlai yn yr NHS, mwy o weithwyr ac adnoddau, a bydd dim rhaid 'rhyddhau gwlai' trwy fod rhai, bless their cotton..sorry, silk, socks, yn mynd yn breifat.

Gwendid sefyllfa fel caniatau ysbytai preifat i'r rhai sy'n gallu fforddio, a NHS i eraill, yw fod yr adnoddau a meddygon ac ati gorau yn mynd i fynd at y llefydd lle y can nhw fwy o gyflog - ysbytai preifat, gan adael iechyd y tlawd yn y fantol eto. Cadw'r cryf yn gryf a'r gwan yn wanach.

PostioPostiwyd: Iau 06 Tach 2003 5:45 pm
gan RET79
Cardi mae'r holl drethi ti eisiau ei godi ar bobl sydd yn gwneud yn dda o'u hunain yn beth drwg gan fod ti'n tynnu ffwrdd yr abwyd i bobl weithio'n galed.

Yn fy marn i mae gen pobl sydd yn llwyddiannus a wedi gweithio'n galed hyd eu bywyd resymau teilwng i gwyno os nad yw eu safon byw nhw yn lawer gwell na beth fuasen nhw'n gael am wneud dim llawer neu ddim gwaith.

Unwaith mae pobl wedi talu treth fel pawb arall yna mae fyny iddyn nhw beth i'w wneud hefo gweddill eu arian. Os yw nhw'n dewis talu yswiriant iechyd i gael mynd yn breifat ac osgoi ciwiau yna da iawn: mae hyn yn golygu byddan nhw ddim ar giw yr NHS. Os yw nhw yn dewis peidio mynd yn breifat a gwario eu arian ar geir crand yn lle hynny wel mae hyn yn iawn hefyd OND mae hyn yn golygu y bydd nhw'n mynd ar restr aros yr NHS: dim o'i le ar hyn wrth gwrs mae nhw'n haeddu eu lle gan eu bod wedi talu gymaint o drethi.

Mae'n ymddangos i fi fod ti eisiau trethu lot ar bawb sydd yn fwy llwyddiannus na joe bloggs. Felly ti'n annog pobl i aros yn 'mediocre' - dyna sosialaeth mewn gwaith i ti.

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2003 3:37 pm
gan Cwlcymro
Beth bynnag yw maint y dreth RET eitha byth mor uchal a fod pobl cyfoethog yn glanio allan gyda LLAI o bres na rhei 'mediocre'. Felly ma'r annogaeth i wneud pres dal yno.

Addysg breifat ydi un o fy 'pet hates' i. Dwi'n casau'r system. Fel dwi wedi dweud yn rhywle arall swn i byth yn meddwl gyrru'n mhlant i un. Swn i'n ei weld o fel cosb iddy nhw a dim bendith!

PostioPostiwyd: Gwe 07 Tach 2003 3:52 pm
gan Chris Castle
Prynu fantais yw addysg preifat.

Neidio ciw yw moddion preifat.


Ond heddiw mae rhai inni oddef y byd fel y mae. Felly rhaid talu weithiau.
Wnes i dalu i fy mab fynd i feithryn Gymraeg. Doedd dim modd cael mynd i ysgol Cymraeg heb fod mewn meithrin. Doedd meithrin Cymraeg o fewn y system llywodraethol ar gael.

Rhagrith neu fod yn ymarferol?