Tudalen 1 o 3
Y teulu brenhinol
Postiwyd:
Sad 08 Tach 2003 5:09 pm
gan RET79
Os yw'r sibrydion am Carlo yn wir (well I ni beidio teipio nhw ar maes-e)... fydd yna ddyfodol i'r teulu brenhinol?
Postiwyd:
Sad 08 Tach 2003 9:57 pm
gan Leusa
be ydi'r sibrydion eniwe? Cwbwl dani yn glywed ar y teledu ydi hyn:
"Mae ysgrifennydd personol y tywysog wedi datgan nad yw'r sibrydion am y tywysog ei hun yn wir, o gwbwl, felly nid oes angen i neb eu credu"
Ond dydi'r newyddion ddim yn cael datgelu be ydi'r sibrydion, felly be di pwrpas y stori??!
Postiwyd:
Sad 08 Tach 2003 10:18 pm
gan eusebio
Mae'r sibrydion i'w cael ar y we os ydydch chi'n chwilio ...
Ond y sôn ydi mai nid y sibrydion yma yw'r sibrydion mae'r papurau newydd wedi bod yn sibrwd fyddai'n dod â'r teulu brenhinol i lawr ...
Postiwyd:
Sad 08 Tach 2003 10:20 pm
gan Macsen
Wel, wnai i ddim yn hadrodd nhw fama... os yna gyfraith yn erbyn teipio rhein wyneb i weired?
Ond dwin credu mai yn erbyn y papurau newydd y mae'r gyfraith yn ei bwyso. Mae yr stori dros bob man ar y we yn barod:
...rwal i ddetsie ih i nyc senihnerf y ddes ra noihsuc epoohw iohr ny ladd ie leac idew selrahC ecnirP eaM
GASP!
Postiwyd:
Sad 08 Tach 2003 11:05 pm
gan Leusa
yy dwi'n cymyd fod o'n rwbath mwy siriys na hynna? be oedd y sibrydion?!
Postiwyd:
Sad 08 Tach 2003 11:45 pm
gan Di-Angen
Surely os mae'r sibrydion yn wir, yr unig reaction yw "so what"?
Fe fyddai'n drist iawn os mae'r allegation specific hyn sy'n cael gwared ar y royal fucks yn lle'r allegation syml bod cael unrhyw fath o royalty yn ridiculous i ddechrau.
Postiwyd:
Sul 09 Tach 2003 8:28 am
gan nicdafis
Prince of Wales is Direct Descendant of Madoc ap Owain Gwynedd!
(Lleusa, os oes diddordeb 'da ti, cer i Google a theipio i mewn "prince charles rumours" a gweld beth sy'n dod lan. Y rheswm dydy pobl ddim wedi ateb dy gwestiwn yw fy mod i wedi brainwasho nhw gyda fy mharanoia am ail-adrodd pethau sy wedi eu gwahardd o'r wasg.)
Postiwyd:
Sul 09 Tach 2003 12:29 pm
gan Hogyn o Rachub
Mater pitw, deud y gwir. Pwy sydd gan ots, deud y gwir? Hoffwn i feddwl ein bod ni'n byw mewn cymdeithas sy'n derbyn straeon fel hyn heb fawr o ots gennym.
Er os mae'n dod a diwedd i'r teulu brenhinol, amdani!
Postiwyd:
Sul 09 Tach 2003 3:29 pm
gan Leusa
oo diflas. [hei nic, dim lleusa ydw i
]
Postiwyd:
Llun 10 Tach 2003 6:05 pm
gan pogon_szczec
Falle bod hwn yn perthyn i 'loywi iaith' ond beth yw "toss off" yn Gymraeg?
Dwi'n meddwl taw 'gwas' yw y cyfeithiad cywir am "male servant".