Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Gwe 12 Rhag 2003 2:23 pm
gan Rhys
Chris Castle a ddywedodd:
Gwladwriaeth Cyntaf fodern i fod yn Weriniaeth oedd Lloegr.
Gwladwriaeth Cyntaf fodern i fod yn Ddemocrataidd oedd Lloegr.



Pryd fuodd Lloegr yn weriniaeth?

Does dim yn ddemocrataidd mewn cael head of state wedi ei benderfynnu yn ol llinach. Pryd gafodd dinasyddion Lloegr bleidleisio ar hyn?

PostioPostiwyd: Gwe 12 Rhag 2003 2:42 pm
gan Chris Castle
Pryd fuodd Lloegr yn weriniaeth?

1649 - 1655

ac wedi 1688 roedd brenhiniaeth gyfansoddiadol 'da Prydain - Brenin heb rym. Grym go- iawn sydd gan y Senedd erbyn hynny.

PostioPostiwyd: Gwe 12 Rhag 2003 6:00 pm
gan Lowri Fflur
Petai disgynyddion amlwg Llywylyn ein Llyw olaf yn fyw byddwn o union yr un farn am na gredaf a all gwlad sy' n galw ei hyn yn ddemocrataidd gyfiawnhau rhoid statws uchel i bobl oherwydd pwy oedd ei teleu oherwydd na all neb helpu pwy yw ei teulu. Credaf bod teulu brenhinol Lloegr gam yn waeth na y rhanfwyaf o deleuoedd brenhinol am ei bod yn dweud ei bod yn deulu brenhinol arna ni y Cymry a tydi nw ddim byd i wneud efo ni.

PostioPostiwyd: Gwe 12 Rhag 2003 6:45 pm
gan Lowri Fflur
[
ac wedi 1688 roedd brenhiniaeth gyfansoddiadol 'da Prydain - Brenin heb rym. Grym go- iawn sydd gan y Senedd erbyn hynny.[/quote]

Beth ydi' r pwynt cael brenin heb rym beth bynag, mae o jysd yn wasd o arian ac yn seremonial. Ers stalwm roedd gan brenhinoedd pwynt i gwffio drost ei gwlad ond mae' r dyddiau yma drosodd. Os mae gan y senedd rym nid oes angen brenin.