Gennynau

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gennynau

Postiogan RET79 » Sul 09 Tach 2003 7:04 pm

Os fydd gwyddoniaeth yn gallu profi fod pobl sydd yn lladd neu yn treisio yn gwneud hynny gan fod ganddyn nhw gennynau arbennig yna ddylsen nhw gael eu cosbi gan y wlad os yw nhw'n gwneud hyn?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Sul 09 Tach 2003 7:17 pm

Be ydi hyn- natsiaith? Ydi fy ngwaed celtaidd yn cadw fi off y secs offenders list?

Bolycs llwyr ydi hyn, os gaf fi ddweud.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Sul 09 Tach 2003 9:06 pm

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Be ydi hyn- natsiaith? Ydi fy ngwaed celtaidd yn cadw fi off y secs offenders list?

Bolycs llwyr ydi hyn, os gaf fi ddweud.


Gofyn y cwestiwn ydw i os mai gennynau sy'n rhoi 'attributes' gwael i ti, yw hi wedyn yn deg cosbi pobl am dorri'r gyfraith os yw dy ennynau yn gwneud i ti wneud pethau felna?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Al Jeek » Sul 09 Tach 2003 9:29 pm

Mae'n hollol deg, i fewn i Jêl a nhw.
Dwi o'r farn fod yr amgylchedd mae rhywun yn byw ynddi, yn enwedig wrth dyfu fyny, a llawer mwy o effaith ar bersenoliaeth rhywun nac eu gennynau. Mi ydwi'n credu fod gennynau yn effeithio hefyd ond dwi ddim yn meddwl fod lle i ddweud fod rhywun yn haeddu llai o gosb achos ei ennynau.
Ddyla pobl felly sydd a gennynau neis neis gael ei cosbi'n fwy? :?

Pwrpas carchar, yn ogystal a bod yn gosb, yw i gadw pobl peryg rhag weddill cymdeithas rhag-ofn iddyn nhw ladd/treisio eto.
Rhaid i bobl fod llai parod i wneud esgusion am ei ffaeleddau a derbyn be sgynna nhw.
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Madrwyddygryf » Sul 09 Tach 2003 11:47 pm

Rhyw fath o gennyn sydd yn gwneud bobl lladd neu treisio pobl ? Swnio' fel plot allan o ffilm ffuglen wyddonol hollywood.

Ond ar y llaw arall, er mwyn y ddadl. Wel na, dylsai pob troseddwr sydd yn mynd o flaen cwrt am dorri gyfraith eu erlynu a'r sail y drosedd, pa mor wael oedd y drosedd a beth oedd cefndir ir drosedd.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan RET79 » Sul 09 Tach 2003 11:56 pm

OK ond os oes gen berson ennyn llofruddiol yna efallai buasen nhw'n gallu ffeindio fo allan pan mae'n cael ei eni. Wedyn byddan nhw'n gallu nabod y llofruddion cyn iddyn nhw bopio allan o'r groth a'u cloi fyny.

Er fod y topic yma'n eitha 'far fetched' mae o'n ddadl bwysig gan os nad oes gen bobl help eu bod yn droseddwyr yna sut mae cyfiawnhau eu rhoi mewn carchar?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Llun 10 Tach 2003 12:01 am

Ga'i wneud fy mwhwynt yn gliriach:

Syniad hollol stiwpid oedd bod rhai pobl hefo gennynau 'drwg', syniad a roddod ecsgiws i'r natisiaid roi pob criminal a'i teulu yn y gas chamber.

Beth yn union yw dy resymeg gwyddonol tu ol i hyn RET? Wyt ti'n teimlo dy fod ti dy hun yn geithwas i'r 'stupid gene'?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Leusa » Llun 10 Tach 2003 2:36 pm

na, ma ret wedi treulio'r noson yn gneud ymosodiadau homoffobic felly am drio cyfiawnhau ei ddadl drwy ddefnyddio engreifftiau gwahanol. Mae o am ymateb rwan drwy ddeud wrthai brofi'r ffaith...
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan RET79 » Llun 10 Tach 2003 6:35 pm

Dwi ddim eisiau trafod hoywon a bod yn onest, gawn ni symud yn ol at y pwynt canolog plis?

Y pwynt canolog yw sut alla ni gosbi pobl am fyhafio mewn ffordd sy'n anerbyniol i gymdeithas os na allan nhw help byhafio felna o achos eu gennynau?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Llun 10 Tach 2003 9:03 pm

Os pwynt ysgrifennu os nad wyt ti yn boddran ei darllen o RET?

A wnei di ateb fy nghwestiwn i am sail gwyddonol i'r syniad yma bod ein gennynau yn rheoli os ydym ni yn torri'r gyfraith ai peidio? Sail gwyddonol sydd ar ol Berlin tua 1936? :?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai