Ifan Saer a ddywedodd:RET79 a ddywedodd:os mai felna mae nhw wedi eu geni yna yw hi'n iawn i ni eu barnu am eu genes a peidio rhoi rhyddid i nhw?
Os dwi'n cofio'n iawn RET, mi wnes di anghytuno'n llwyr efo fi pam wnes i gynnig, dro yn ol, efallai fod hoywon yn cael ei geni'n hoyw. U-turn?
Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Mae gan gennynau dim byd i wneud hefo unrhywbeth. Atalnod LLAWN.
Wyt ti'n gwybod rwbath da ni ddim? Wyt ti'n gweithio ar y genome theory neu rwbath? Achos r'on i dan yr argraff fod yr ymchwil yn mynd yn ei flaen rwan hyn...
I ateb y pwynt cyntaf, dwi'n meddwl ti wedi camddeall beth dwi'n ddweud. Dwi ddim yn gallu cael fy mherswadio fod rhywioldeb yn deillio o genes can dwi'n galw fo yn 'behaviour'. Does dim tystiolaeth allan yna fod 'gay gene' yn bodoli. Os buasai tystiolaeth felna yn dod allan coelia fi buasai gen y gay lobby lawer iawn mwy o hygrededd a buasent yn gallu hawlio hawliau di-ri heb unrhyw wrthwynediad dwi'n siwr.
Fy mhwynt olaf yw os ti'n credu fod genes yn penderfynnu rhywioldeb, neu yn penderfynnu os yw un am ladd, neu yn penderfynnu os yw un am fod yn leidr, yna rhaid i ti yn gyntaf ddangos tystiolaeth o hyn ac yn ail rhaid i ti ddelio hefo'r holl gwestiynnau anodd sydd yn deillio o'r dystiolaeth am ffordd gallai cymdeithas drin y bobl hyn sydd yn byhafio fel mae nhw... wel am fod yn nhw eu hunain heb ddim help am y ffordd mae nhw'n byhafio.