Gennynau

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Taflegryn » Mer 03 Rhag 2003 11:37 pm

Os buaswn i yn cael 100 carcharor gyryw ac yn edrych ar ei cromosomau dwi'n mwy tebygol o ffeindio canran uwch ohonynt gyda 'nam' gyda'r parau rhyw (XY yw gyrywod a XX yn benywod) yn aml iawn ceir cromoson ychwanegol yn nuclews llofruddwyr a repists(be di'r gair cymraeg am rep?) sef XYY neu hyd yn oed XYYY, oi gymharu a chant o gyrywod sydd heb troseddu. Mae gan bioleg ei ran yn sut mae unigolyn yn mynd i ymddwyn, felly hefyd ei amgylchedd.
Rhithffurf defnyddiwr
Taflegryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Maw 14 Hyd 2003 8:45 pm

Postiogan RET79 » Mer 03 Rhag 2003 11:57 pm

Y peth yw, os mai bioleg yw'r eglurhad yna yw hi'n iawn i ni gosbi pobl os yw nhw ddim yn gallu help y ffordd mae nhw'n byhafio? Fedra ni esgusodi pobl os gall nhw brofi fod y rheswm mae nhw wedi eu lladd yw o achos eu gennynau?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Cardi Bach » Iau 04 Rhag 2003 9:54 am

RET79 a ddywedodd:Y peth yw, os mai bioleg yw'r eglurhad yna yw hi'n iawn i ni gosbi pobl os yw nhw ddim yn gallu help y ffordd mae nhw'n byhafio? Fedra ni esgusodi pobl os gall nhw brofi fod y rheswm mae nhw wedi eu lladd yw o achos eu gennynau?


Odi'r un esgus am gael ei roi am bobol hiliol a homoffobig?
"Not me guv, y cromosons yw e".
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Mr Gasyth » Iau 04 Rhag 2003 10:24 am

Ma'r drafodaeth yma'n ddiddorol a brawychus ar yr un pryd.
Yn bersonnol dwi'm yn credu y gnan nhw byth ganfod fod yna ennyn sy'n chosi bobl i lofruddio neu dreisio neu beth bynnag. Petai hyn yn wir byddai'n golygu bod llofruddio'n rhedeg yn y teulu, ac o ran efeilliad 'identical' petai un yn llofrydd byddai'n anochel fod y llall yn hefyd sydd jest yn wirion a ddim yn wir. OND, i ateb y cwestiwn rhethregol sy'n sail i'r edefyn yma, petai nhw'n canfod hyn, siwr iawn y dylen nhw dal gael eu cloi i fyny achos ma nhw'n berygl i gymdeithas. Yr ateb arall ydi gadel nhw'n rhydd i ladd eto a di hynny'n gneud dim synnwyr o gwbl o ran diogelwch cymdeithas.
Ma hyn yn digwydd yn barod wrth i bobl sydd a salwch meddyliol, rhywbeth sydd yn dueddol o redeg mewn teulu neu o leiaf nad oes gan y sawl sy'n dioddef ohono fo unrhyw reolaeth drosto, gael eu cloi fyny er diogelwch eu hunain ac eraill a dwi'n gweld dim problem efo hynny os mai dyne sy'n angenrheidiol.
RET, sut wyt ti'n gallu ei hystyried hi'n bosib fod gennyn yn achosi i bobl ladd ond nid yn eu hachosi i fod yn hoyw? Ma gennynau yn llawer mwy tebygol o effeithio ymddygiad tymor hir pobl drwy hormonau ac ati nag ydyn nhw o effeithio ar ddigwyddiadau unigol yn ein bywydau ni (fel llofruddiaeth!) sydd yn llawer mwy dibynnol ar yr amgylchaide ar y pryd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan RET79 » Iau 04 Rhag 2003 5:34 pm

Aled a ddywedodd:RET, sut wyt ti'n gallu ei hystyried hi'n bosib fod gennyn yn achosi i bobl ladd ond nid yn eu hachosi i fod yn hoyw? Ma gennynau yn llawer mwy tebygol o effeithio ymddygiad tymor hir pobl drwy hormonau ac ati nag ydyn nhw o effeithio ar ddigwyddiadau unigol yn ein bywydau ni (fel llofruddiaeth!) sydd yn llawer mwy dibynnol ar yr amgylchaide ar y pryd.


Wnes i ddim dweud fod dim gennyn hoyw yn bodoli: dweud wnes i dwi heb weld tystiolaeth fod gennyn hoyw yn bodoli felly sut allaf i dderbyn ei fod o'n rywbeth mae pobl yn cael eu geni hefo. Beth bynnag, os buasai tystiolaeth o'r fath yn bodoli yna dyna fyddai sail pobl dadl dros hawliau hoyw os buasai prawf ganddyn nhw fod y 'gay gene' yn bodoli gan buasai o'n ddadl gref dros ben.

Dweud ydw i, tan mae tystiolaeth fod 'gay gene', 'murdering gene', 'superstar footballer gene' neu beth bynnag yn bodoli yna allan ni ddim dweud yn sicr fod pobl wedi cael eu geni i fod felna. Felly y casgliad synhwyrol yw mae'r ffordd mae nhw'n byhafio yn deillio o'u amgylchedd.

Os buasai 'murderer gene' yna fel ti'n dweud byddai hyn yn frawychus gan os buasai'n bosib canfod y gene yma tra mae'r person yn fabi neu yn y groth yna fyddai ti ddim yn gallu gadael y person yma'n rhydd mewn cymdeithas gan fod tebygolrwydd lot rhy uchel fod y person am ladd rhywun. Felly unai bydd cymdeithas yn cloi y person fyny am oes neu yn ei ladd cyn cael ei eni - dwi ddim yn gweld cymdeithas o'r fath yn barod i gymryd y cyfle o adael person hefo 'mudering gene' yn rhydd.

Mae hyn yn codi cwestiwn moral enfawr sef sut fath o bobl/gymdeithas ydym ni ein bod ni'n barod i stopio rhyddid neu bywyd i berson o achos ei genes pan mewn gwirionedd all person ddim help ei genes a allai achosi i'r person fyhafio mewn ffordd anti-social a pheryglus.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan ceribethlem » Iau 04 Rhag 2003 6:40 pm

taflegryn a ddywedodd:Os buaswn i yn cael 100 carcharor gyryw ac yn edrych ar ei cromosomau dwi'n mwy tebygol o ffeindio canran uwch ohonynt gyda 'nam' gyda'r parau rhyw (XY yw gyrywod a XX yn benywod) yn aml iawn ceir cromoson ychwanegol yn nuclews llofruddwyr a repists(be di'r gair cymraeg am rep?) sef XYY neu hyd yn oed XYYY, oi gymharu a chant o gyrywod sydd heb troseddu. Mae gan bioleg ei ran yn sut mae unigolyn yn mynd i ymddwyn, felly hefyd ei amgylchedd.


Rwtsh yw hyn mae arna i ofn. Damcaniaeth oedd hyn a ddaeth mas yn y 60au/70au yn America. Wrth ymchwilio un o garcarorion death rowyn feddygol sylweddolwyd ei fod yn "miwtant" o ran ei gromosomau. Roedd e'n XYY yn hytrach nac XY.
Ffurfiwyd damcaniaeth ar sail hyn fod y cyflwr XYY yn creu pobl mwy aggressive am eu bod yn "rhy" ddynol, gormodedd o Y fel petai. Penderfynwyd ar sail y ddamcaniaeth hyn i astudio'r peth yn fanylach.
Pan cymharwyd y canran o garcharorion death row oedd a'r nam XYY gyda'r canran o'r boblogaeth "cyffredin" yn America fe sylwyd fod y canran yma yr un peth (+/- o fewn rheswm ystadegol). Penderfynwyd felly nad oedd y nam yma yn gyfrifol.



RET i ateb dy bwynt di, gweler fy mhwynt gwreiddiol. Un pwrpas sydd i enynnau, a'r pwrpas hwnnw yw i rhoi cod am protin. Yn amlwg mae pethau'n mynd yn anghywir, e.e. cancr. Ni ellir rhoi bai ar genynnau am hyn.
Mae genynnau yn y bon yn bethau llawer rhy syml i fedru cynrychioli pethau megis "gay gene", "murdering gene" ac yn y blaen. Mae angen cyfuniad mawr o enynnau er mwyn cael hyd yn oed un peth syml.
Er enghraifft mae taldra yn cael ei "reoli" gan tua 26 gene gwahanol (yn ogystal a ffactorau amgylcheddol). Mae taldra yn beth syml ffisiolegol, mae peth megis ysfa dipyn mwy cymleth ac ni fydd digon o enynnau yn bodoli i reoli bob chwant sydd i'w cael.

Mae'r frawddeg canlynol yn un defnyddiol (sori ri fod yn Saesneg):
Genetics affects behavior at many levels. While we might be tempted to think of genes as guiding behavior ("my genes made me do it"), examples of direct genetic instructions for behavior are rare. Instead, the most prevalent effect of genes on behavior is to set limits, or restraints, on the range of behavior expressed by animals. Thus behavioral options are limited by genes, rather than genes directing behavior.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Taflegryn » Gwe 05 Rhag 2003 12:15 am

ceribethlem a ddywedodd:
taflegryn a ddywedodd:Os buaswn i yn cael 100 carcharor gyryw ac yn edrych ar ei cromosomau dwi'n mwy tebygol o ffeindio canran uwch ohonynt gyda 'nam' gyda'r parau rhyw (XY yw gyrywod a XX yn benywod) yn aml iawn ceir cromoson ychwanegol yn nuclews llofruddwyr a repists(be di'r gair cymraeg am rep?) sef XYY neu hyd yn oed XYYY, oi gymharu a chant o gyrywod sydd heb troseddu. Mae gan bioleg ei ran yn sut mae unigolyn yn mynd i ymddwyn, felly hefyd ei amgylchedd.


Rwtsh yw hyn mae arna i ofn. Damcaniaeth oedd hyn a ddaeth mas yn y 60au/70au yn America.


Diolch am gywiro fi - newydd daflu Stryer ac Voet & Voet ar y tan. Blydi darlithwyr yn dysgu clwyddau noeth i ni fyfyrwyr.Baaa
Rhithffurf defnyddiwr
Taflegryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Maw 14 Hyd 2003 8:45 pm

Postiogan Chris Castle » Gwe 05 Rhag 2003 10:36 am

Mae RET yn codi pwnc pwysig.

Dwi ddim yn gwybob y drefn erbyn hyn, ond roedd problem gyda Llofruddwyr oedd gan "personality disorders" a achoswyd nhw i fod yn dreisiol. Doedd modd carcharu nhw am nad oeddent yn gyfrifol am eu hymddygiad. Ond doedd dim modd i'w rhoi nhw mewn ysbyty am nad oeddynt yn "Sal" mewn ystyr meddygol a felly'n amhosib i'w trin nhw.

Er bydd yn anghywir COSBI nhw am pethau sy'n mas o'u rheolaeth. Mae rhaid amddiffyn pawb arall.

Felly gartref gofal iddynt ydy'r ymateb.
Carchar NEIS. :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Nôl

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron