taflegryn a ddywedodd:Os buaswn i yn cael 100 carcharor gyryw ac yn edrych ar ei cromosomau dwi'n mwy tebygol o ffeindio canran uwch ohonynt gyda 'nam' gyda'r parau rhyw (XY yw gyrywod a XX yn benywod) yn aml iawn ceir cromoson ychwanegol yn nuclews llofruddwyr a repists(be di'r gair cymraeg am rep?) sef XYY neu hyd yn oed XYYY, oi gymharu a chant o gyrywod sydd heb troseddu. Mae gan bioleg ei ran yn sut mae unigolyn yn mynd i ymddwyn, felly hefyd ei amgylchedd.
Rwtsh yw hyn mae arna i ofn. Damcaniaeth oedd hyn a ddaeth mas yn y 60au/70au yn America. Wrth ymchwilio un o garcarorion
death rowyn feddygol sylweddolwyd ei fod yn "miwtant" o ran ei gromosomau. Roedd e'n XYY yn hytrach nac XY.
Ffurfiwyd damcaniaeth ar sail hyn fod y cyflwr XYY yn creu pobl mwy
aggressive am eu bod yn "rhy" ddynol, gormodedd o Y fel petai. Penderfynwyd ar sail y ddamcaniaeth hyn i astudio'r peth yn fanylach.
Pan cymharwyd y canran o garcharorion
death row oedd a'r nam XYY gyda'r canran o'r boblogaeth "cyffredin" yn America fe sylwyd fod y canran yma yr un peth (+/- o fewn rheswm ystadegol). Penderfynwyd felly nad oedd y nam yma yn gyfrifol.
RET i ateb dy bwynt di, gweler fy mhwynt gwreiddiol. Un pwrpas sydd i enynnau, a'r pwrpas hwnnw yw i rhoi cod am protin. Yn amlwg mae pethau'n mynd yn anghywir, e.e. cancr. Ni ellir rhoi bai ar genynnau am hyn.
Mae genynnau yn y bon yn bethau llawer rhy syml i fedru cynrychioli pethau megis "gay gene", "murdering gene" ac yn y blaen. Mae angen cyfuniad mawr o enynnau er mwyn cael hyd yn oed un peth syml.
Er enghraifft mae taldra yn cael ei "reoli" gan tua 26 gene gwahanol (yn ogystal a ffactorau amgylcheddol). Mae taldra yn beth syml ffisiolegol, mae peth megis ysfa dipyn mwy cymleth ac ni fydd digon o enynnau yn bodoli i reoli bob chwant sydd i'w cael.
Mae'r frawddeg canlynol yn un defnyddiol (sori ri fod yn Saesneg):
Genetics affects behavior at many levels. While we might be tempted to think of genes as guiding behavior ("my genes made me do it"), examples of direct genetic instructions for behavior are rare. Instead, the most prevalent effect of genes on behavior is to set limits, or restraints, on the range of behavior expressed by animals. Thus behavioral options are limited by genes, rather than genes directing behavior.