Cyfartaledd i ddynion a merched

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan RET79 » Llun 10 Tach 2003 7:28 pm

Ifan does dim angen i ti egluro i fi pam fod merched yn talu llai am inswrans dro ar ol tro dwi'n gweithio yn y sector ariannol a dwi'n deall sut mae inswrans yn gweithio diolch yn fawr.

Y ddadl fan hyn yw... ydi hi'n deg fod merched yn cael y cynnyrch yn rhatach... am eu bod nhw'n ferched? Yn ol cwrt Ewrop yr ateb yw na.

Os caiff Ewrop ei ffordd bydd cost inswrans dynion a merched yn gyfartal ac felly bydd cost inswrans dynion yn disgyn dybiwn i.

Ifan, mae'n ymddengys i fi fod feminists ond yn gweiddi 'sexism' pan mae ddim yn siwtio nhw. Mae hwn yn enghraifft o ferched yn cael mantais ariannol am eu bod yn ferched sydd yn ol Ewrop yn 'sexist' yn erbyn dynion.

Dyw yr honiad fod merched yn cael eu talu llai am wneud yr un swydd (dwi dal yn disgwyl am esiampl o hyn) ddim byd i wneud a'r pwnc yma - dechreuwch edefyn arall os gwelwch yn dda.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan RET79 » Llun 10 Tach 2003 7:33 pm

Chris Castle a ddywedodd: Ond mae'n dal yn wir taw rhaid i ferched/pobl croenddu/hoywon agored gweithio'n ddwywaith yn fwy na dynion croenwyn strêt er mwyn cael eu cymryd o ddifri yn y gweithle.


Eto, rho dystiolaeth am y datganiad yna os gweli di'n dda.

Fe ellir dadlau fod pobl o leiafrifoedd ethnig/rywiol yn cael mwy o fantais na dynion gwyn stret o achos 'positive discrimination' - dyna destun dadl arall... dwi'n cymryd ti o blaid 'positive discrimination'?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Llun 10 Tach 2003 8:34 pm

Pa bolycs ydi postive discrimination? Falle neith Micheal Moore heirio staff hollol groenddu, ond pryd oedd y tro dywytha i ti glywed MP du yn rhoi ei farn ar y teledu?

Does gan discrimination o unrhyw fath ddim lle o gwbwl yn ein byd ni, atalnod llawn.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dylan » Maw 11 Tach 2003 12:01 am

Mae 'positive discrimination', chwedl ti, yn anghyfreithlon. ;)

Os mai ti yw'r gorau am y job, ti sydd biau hi. Yr unig achos ble mae 'anffafriaeth bositif' (am derm gwirion) yn cael ei ddefnyddio ydi os, er enghraifft, 'rwyt ti'n dangos yr un gallu i wneud y job â merch 'o leiafrif ethnig' ac sy'n anabl. Mae'n llawn posib mai hi gaiff y swydd gan ei bod wedi gorfod gweithio mwy na ti i gyrraedd y safon yna oherwydd anffafriaeth ayyb
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Maw 11 Tach 2003 12:18 am

RET a ddywedodd:Ifan does dim angen i ti egluro i fi pam fod merched yn talu llai am inswrans dro ar ol tro dwi'n gweithio yn y sector ariannol a dwi'n deall sut mae inswrans yn gweithio diolch yn fawr.


Paid a bod mor ffycin patronising. Ti ofynodd i fi:

Ifan, wyt ti'n cytuno neu anghytuno hefo merched yn talu'r un premium a dynion? Ti heb wneud dy hun yn glir hyd yn hyn.


Mi wnesi fy hun mor glir ac oeddwn i'n gallu. Gan dy fod ti ddim i weld yn darllen hanner y pethau dwi'n ei ddeud cyn ymateb, mae rhaid i mi wneud fy hun yn fwy clir na'r arfer.

RET a ddywedodd:Dyw yr honiad fod merched yn cael eu talu llai am wneud yr un swydd (dwi dal yn disgwyl am esiampl o hyn) ddim byd i wneud a'r pwnc yma - dechreuwch edefyn arall os gwelwch yn dda.


Mae o bob dim i wneud gyda'r pwnc yma.

Dwi'n cael y teimlad weithiau RET dy fod ti yn creu edefyn, ac yna'n anwybyddu pob barn arall a declareio dy hyn yn enillydd ar diwedd y dydd. Gwranda ar be sydd gan bobl eraill i'w ddweud, myn uffar i. Wn i, bo ni'n 'Student Leftist Wancars', ond dau ochor i'r un geiniog yw chwith a dde.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Maw 11 Tach 2003 1:01 am

OK Ifan wel yn ol beth dwi'n ddeall ti'n ddweud ti'n ddigon hapus fod merched yn cael yswiriant yn rhatach na dynion. Felly mae nhw'n cael cynnyrch yn rhatach yn seiliedig ar eu rhyw.

Os buasai dynion yn cael cynnyrch yn rhatach na merched, am eu bod yn ddynion, buasai yna uffar o le a pawb yn eu cyhuddo o fod yn sexist a phob math o enwau.

Os yw'r feminists eisiau cydraddoldeb hefo dynion yna rhaid i nhw dderbyn dwy ochr y geiniog sef os yw nhw eisiau yr un hawliau hefo rhai pethau yna rhaid i nhw dderbyn fod nhw'n gorfod rhoi fyny rhai luxuries mae nhw'n ei gael, fel cael yswiriant yn rhatach.

Dwi ddim yn credu fod ti byth yn mynd i gael gwir gydraddoldeb rhwng dynion a merched gan fod y feminists eisiau pob mantais mae dynion yn gael heb roi fyny ddim o'u manteision eu hunain.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Maw 11 Tach 2003 1:07 am

Ond does yna ddim rheswm pam bod merched yn cael ei talu llai na dynion.

Mae yna reswm pam bod merched yn talu llai o yswiriant na dynion.

Dyw e ddim i neud hefo rhyw, ond rhesymau.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Maw 11 Tach 2003 1:34 am

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Ond does yna ddim rheswm pam bod merched yn cael ei talu llai na dynion.

Mae yna reswm pam bod merched yn talu llai o yswiriant na dynion.

Dyw e ddim i neud hefo rhyw, ond rhesymau.


Wel dwi ddim yn gwybod sut mae nhw'n gweithio allan fod merched yn cael eu talu llai na dynion yn y lle cyntaf. Er enghraifft mae edrych ar tal cyfartalog dynion a merched wedyn cymharu yn nonsens. Mae llawer o ferched yn dewis bod gartref neu cael gwaith llai caled er mwyn cael amser i godi eu teulu. Efallai nad yw merched yn gallu negotiatio eu cyflog mor effeithiol? Efallai nad yw merched yn gyffredinol yn tendio i fynd i weithio yn y sectorau lle mae'r cyflogau'n uwch? Efallai fod llawer llai o ferched yn dechrau busnes eu hunain?

Dwi dal yn disgwyl am enghraifft o ferch yn cael ei talu llai am yr un job na dyn.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Cardi Bach » Maw 11 Tach 2003 2:48 pm

RET, ma menywod yn dioddef disgrimineiddio o hyd yn ein cymdeithas.

Chwadan sydd wedi gweud hi ore, a symla, osgeith merched eu talu yr un faint a dynon am eu gwaith, yna fi'n siwr y byddant yn fwy na pharod i dalu'r un yswiriant.

Os wyt ti am dystiolaeth cer i fan hyn, fan hyn, fan hyn, neu fan hyn.

Ti wedi bod yn hiliol dychrynllyd ar y maes, wedyn homoffobic, a nawr ti'n lleisio dy ragfarne secsist :rolio:

Ti ffeili rhoi pob menyw yn yr un cwch, a honni fod pob un ohonyn nhw yn ragrithwyr. Os cael cydraddldeb, yna cael cydraddoldeb drwyddi draw. Rhagrith yw'r ffordd arall.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Aran » Maw 11 Tach 2003 3:54 pm

mae'n ymddangos bod y prif broblem yn hyn o beth ydy ymdrech RET i ddisgrifio yswiriant fel 'cynnyrch', ond wrth gwrs nad yw yswiriant yn gynnyrch yn yr un modd ag y mae bara a menyn.

mae yswiriant yn llawer tebycach i gamblo, felly mae'r awgrym y dylia genod talu'r un faint o yswiriant a hogia'n debycach i fynnu y dylid cael yr un 'odds' ar gyfer rownd derfynol Wimbledon boed hynny rownd derfynol y Gwragedd neu rownd derfyniol y Dynion.

gem ydy o, ac mae rhyw yn rhan o'r penderfyniad (tebyg iawn i fywyd, felly!), ond nid y penderfyniad gyfan - os ydy geneth yn dreifio'n wyllt ac yn cael damweiniau, yna y geith hi ei chosbi ar ran yswiriant, a dw i'n amau'n gryf iawn (er nad oes gen i'r ffigyrau) y byddai geneth a oedd wedi cael sawl damwain efo yswiriant ddrutach o lawer na hogyn sydd wedi cael degawd o 'no claims bonuses'...

hefyd, wrth gwrs, mae'n dibynnu ar y math o gar a dreifwyd... buasai geneth 18 oed yn dreifio ferrari yn talu mwy o yswiriant na dyn 40 oed yn dreifio mini, tybiaf i...

hynny yw, dyw yswiriant ddim yn cael ei penderfynu seiliedig ar ryw - mae rhyw yn ffactor mewn gem gymhleth, a dim mwy nag hynna. hyd yn oed pe bai'r rheolau yn gwneud o'n anghyfreithlon i ystyried rhyw ar ran cynnig yswiriant, mi fuasai gwragedd yn tueddu i dalu'n llai beth bynnag oherwydd iddynt fod yn llai tebycach i golli noclaims bonus, ac yn llai tebycach i ddreifio ceir mawrion gyflym ayyb ayyb...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai