Tudalen 1 o 5

Cyfartaledd i ddynion a merched

PostioPostiwyd: Sul 09 Tach 2003 7:07 pm
gan RET79
Gall cyfraith Ewrop olygu yn y dyfodol fydd cwmniau inswrans ddim yn cael codi mwy o premiwm ar ddynion na merched, er enghraifft hefo inswrans car, gan y bydd hyn yn enghraifft o anghyfarteledd ar sail rhyw.

Dwi'n cymeryd fod merched sydd o blaid cyfartaledd yn cytuno a hyn ?(bydd yn golygu fod eich inswrans yn uwch o gannoedd gyda llaw)

Yn fy marn i os yw merched yn anghytuno a hyn yna mae'n dangos i fi fod y merched hyn ond o blaid cyfartaledd pan mae'n siwtio nhw.

PostioPostiwyd: Sul 09 Tach 2003 7:16 pm
gan Macsen
Os fysai merch yn anghytuno credaf mai'r rheswm am hynny fysai am bod yr ystadegau yn dangos bod merched yn tueddu i gael llai o ddamweiniau car na dynion.

PostioPostiwyd: Sul 09 Tach 2003 8:11 pm
gan Chwadan
Wel o ystyried fod merched yn aml yn cael eu talu filoedd o bunoedd yn llai na dynion am wneud yn union yr un gwaith, swn i'n fodlon iawn talu rhai canoedd yn fwy am yswiriant tasa cyflogau'n gyfartal hefyd.

Ond na, dydi petha ddim yn gweithio felna...:rolio:

PostioPostiwyd: Sul 09 Tach 2003 9:01 pm
gan RET79
Chwadan a ddywedodd:Wel o ystyried fod merched yn aml yn cael eu talu filoedd o bunoedd yn llai na dynion am wneud yn union yr un gwaith, swn i'n fodlon iawn talu rhai canoedd yn fwy am yswiriant tasa cyflogau'n gyfartal hefyd.

Ond na, dydi petha ddim yn gweithio felna...:rolio:


Oes gen ti esiampl o hyn?

Felly ti'n hapus i dalu mwy o inswrans car felly?

PostioPostiwyd: Sul 09 Tach 2003 9:03 pm
gan RET79
Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Os fysai merch yn anghytuno credaf mai'r rheswm am hynny fysai am bod yr ystadegau yn dangos bod merched yn tueddu i gael llai o ddamweiniau car na dynion.


Mae hyn yn wir.

Felly, os ti'n derbyn yr egwyddor yna rhaid i ti hefyd dderbyn felly fod merched ar hyn o bryd yn cael cynyrch yn rhatach na dynion gan eu bod yn ferched - dyma beth mae'r ddeddf Ewropeaidd am ei stopio.

Beth yw dy farn?

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 12:10 am
gan Macsen
RET a ddywedodd:
Chwadan a ddywedodd:Wel o ystyried fod merched yn aml yn cael eu talu filoedd o bunoedd yn llai na dynion am wneud yn union yr un gwaith, swn i'n fodlon iawn talu rhai canoedd yn fwy am yswiriant tasa cyflogau'n gyfartal hefyd.


Ond na, dydi petha ddim yn gweithio felna...


Oes gen ti esiampl o hyn?

Felly ti'n hapus i dalu mwy o inswrans car felly?


Mae yna ganoedd o ystadgeau sy'n dangos bod merched yn cael ei talu llai na dynion. Gofyn i'r person cyntaf ti'n gweld ar y stryd. Oni'n meddwl bod pawb yn gwybod hyn?

RET a ddywedodd:Felly, os ti'n derbyn yr egwyddor yna rhaid i ti hefyd dderbyn felly fod merched ar hyn o bryd yn cael cynyrch yn rhatach na dynion gan eu bod yn ferched - dyma beth mae'r ddeddf Ewropeaidd am ei stopio.


Bydd hyn ddim yn newid y ffaith bod merched yn crashio ei ceir yn llai na dynion. Ta ydi paycheck rywun yn cyfateb i'w chwimder ar y lon?

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 12:52 am
gan RET79
Dwi eisiau esiampl o ferch yn cael ei talu llai na dyn am wneud yr un swydd.

Ifan, wyt ti'n cytuno neu anghytuno hefo merched yn talu'r un premium a dynion? Ti heb wneud dy hun yn glir hyd yn hyn.

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 1:34 am
gan Macsen
Pa mor glir sydd angen gwneud hyn:

NI DDYLSAI MERCHED DALU YR UN FAINT AM NAD YDYN NHW MOR DEBYGOL O GRASHIO EI CAR MEWN I GOEDEN MAWR.

Mae merched yn cael ei talu llai na dynion:

http://news.bbc.co.uk/1/hi/business/1488437.stm

Wrth gwrs, dwi'n berffaith bles os mae merched yn cael ei talu llai na dynion, am fy mod i'n ddyn, ond dyw hynny ddim yn ei wneud o'n iawn.

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 8:33 am
gan Chris Castle
Dwi eisiau esiampl o ferch yn cael ei talu llai na dyn am wneud yr un swydd.


Codi sgwarnog yw hynny. Gallai merched herio'r fath beth yn y llysoedd heddiw. Ond mae'n dal yn wir taw rhaid i ferched/pobl croenddu/hoywon agored gweithio'n ddwywaith yn fwy na dynion croenwyn strĂȘt er mwyn cael eu cymryd o ddifri yn y gweithle.

Nenfwd gwydr sydd y problem erbyn hyn.

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 11:17 am
gan Macsen
Fyswn i ddim yn meindio merched uwchben y nenfwd gwydyr, jyst bo nhw dal yn gwisgo sge... oops, sori, meddwl yn uchel. :wps: