Tudalen 3 o 5

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 5:34 pm
gan RET79
Cardi Bach a ddywedodd:RET, ma menywod yn dioddef disgrimineiddio o hyd yn ein cymdeithas.

Chwadan sydd wedi gweud hi ore, a symla, osgeith merched eu talu yr un faint a dynon am eu gwaith, yna fi'n siwr y byddant yn fwy na pharod i dalu'r un yswiriant.

Os wyt ti am dystiolaeth cer i fan hyn, fan hyn, fan hyn, neu fan hyn.

Ti wedi bod yn hiliol dychrynllyd ar y maes, wedyn homoffobic, a nawr ti'n lleisio dy ragfarne secsist :rolio:

Ti ffeili rhoi pob menyw yn yr un cwch, a honni fod pob un ohonyn nhw yn ragrithwyr. Os cael cydraddldeb, yna cael cydraddoldeb drwyddi draw. Rhagrith yw'r ffordd arall.


Mae'r links ti wedi ddangos yn dangos y rhesymau wnes i ei cynnig pam fod 'average wage' merched yn llai na dynion.

Dwi ddim yn cwyno am y peth gan yn syml mae o'n non-issue. Os oes enghraifft o ddyn a merch yn gwneud yn union yr un swydd hefo'r un perfformiad a dyn yn cael ei dalu mwy na merch yna buasai hynna yn anghywir. Dwi dal yn disgwyl am enghraifft o sefyllfa felna.

Mae cymharu cyfartaledd cyflog dynion a merched yn 'flawed'.

Beth wyt ti'n cynnig i'w wneud am y sefyllfa gan dwi'n meddwl ei fod yn non-issue onibai fod cyflogwr yn talu merched llai na dynion am yr un swydd a pherfformiad.

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 5:45 pm
gan RET79
Aran a ddywedodd:hynny yw, dyw yswiriant ddim yn cael ei penderfynu seiliedig ar ryw - mae rhyw yn ffactor mewn gem gymhleth, a dim mwy nag hynna. hyd yn oed pe bai'r rheolau yn gwneud o'n anghyfreithlon i ystyried rhyw ar ran cynnig yswiriant, mi fuasai gwragedd yn tueddu i dalu'n llai beth bynnag oherwydd iddynt fod yn llai tebycach i golli noclaims bonus, ac yn llai tebycach i ddreifio ceir mawrion gyflym ayyb ayyb...


Felna mae inswrans yn gweithio yn y bon - mae nhw'n edrych ar y ffactorau sydd yn effeithio digwyddiad fel er enghraifft cael crash car ac wedyn yn asesu os oes patrymau o achos amryw o ffactorau fel rhyw, math o gar, lliw y car hyd yn oed(!).

Y cwestiwn i ti Aran, yw os buasai tystiolaeth gan gwmni inswrans fod pobl o leiafrif ethnig arbennig yn cael mwy o ddamweiniau ceir, ti'n meddwl fuasai o'n deg i godi cost eu inswrans nhw? Yr ateb gan ran fwyaf fuasai "Na, ddim o gwbl! Buasai hynna yn hiliol! Dyw hi ddim yn deg fod pobl o hil arbennig yn cael eu 'cosbi' fwy".

Ond eto i gyd, mae dynion yn cael eu cosbi ar sail eu rhyw, na allan nhw help, sydd yn gwneud i'r peth ddrewi o 'sexism'. Mae'n ymddangos nad yw pobl yn hoffi dweud fod rhywbeth yn 'sexist' os yw dynion yn cael cam, dim ond os yw merched yn cael cam.

A mae dy bwynt di yn y dyfyniad yn bwynt arbennig o dda gyda llaw. Os buasai premiums dynion a merched yn hafal ynd buasai merched yn elwa o gael no-claims bonus yn fwy na dynion os yw nhw yn cael llai o ddamweiniau! Yn fy marn i mae hyn yn ffordd lawer tecach gan wedyn ti ddim yn gwerthu cynnyrch yn rhatach i rywun am ei bod yn ferch, sydd yn sexist.

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 7:07 pm
gan Macsen
RET a ddywedodd:Y cwestiwn i ti Aran, yw os buasai tystiolaeth gan gwmni inswrans fod pobl o leiafrif ethnig arbennig yn cael mwy o ddamweiniau ceir, ti'n meddwl fuasai o'n deg i godi cost eu inswrans nhw?


Paid a bod yn wirion RET, mae pawb yn gwybod bod gan lliw ddim effaith ar allu dreifio!

Ond gan bod dynion yn meddwl eo bod nhw'n cwl yn dreifio dros 80 milltir yr awr, mae dynion yn fwy tebyg o gael crash.

Dwi'n siwr bod gwryw gydwyr. er ei rhywioldeb, yn ddigon abl i ddreifio mewn llinell syth.

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 7:08 pm
gan Chwadan
RET, faint o enghreifftiau wyt ti isho?! Yli, ma na wahaniaeth:

BBC a ddywedodd:On average the difference between the hourly wage of a female worker in the UK compared to a man doing a similar job is the fourth biggest in Europe.


Wyt ti'n darllen y lincs ma pobol yn roid i ti o gwbwl? Darllena nhw'n iawn a mi weli di mai nid son am average wage yn unig ma nhw.

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 9:37 pm
gan RET79
Chwadan a ddywedodd:RET, faint o enghreifftiau wyt ti isho?! Yli, ma na wahaniaeth:

Wyt ti'n darllen y lincs ma pobol yn roid i ti o gwbwl? Darllena nhw'n iawn a mi weli di mai nid son am average wage yn unig ma nhw.


Siarad am average wage mae nhw. Fel dwedais i o'r blaen rhaid cwestiynu pam fod merched yn gwneud llai mewn swyddi tebyg (mae hwnna'n ddiffiniad eitha gwan gyda llaw).

Efallai nad yw merched yn perfformio mor dda a dynion yn y swyddi ac yn llai effeithiol pan mae'n dod i negotiatio cyflog. Felly mae nhw'n cael llai.

Fe rof enghraifft i ti o ddynion yn cael eu talu lawer mwy na merched am yr un gwaith - pel-droed. Mae hyn yn deg gan fod pel droed dynion lawer iawn yn fwy poblogaidd na pel droed merched. Felly mae'r chwaraewyr yn gwneud lot mwy o arian na'r merched am wneud yr un 'job'.

Yw hyn yn anheg? Ddim o gwbl! Os yw chwaraeon dynion yn lawer mwy poblogaidd na chwaraeon merched yna mae'r dynion yn haeddu cael eu talu lawer iawn mwy, dyna'r farchnad rydd ar waith.

Ond mae'n un enghraifft o pam fod gwneud cymhariaeth yn 'flawed'.

Yn syml os yw dynion ar y cyfan yn perfformio'n well na merched yn eu gwaith yna maent yn haeddu cael eu talu mwy a cael eu promotio o'u blaen.

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 9:45 pm
gan RET79
Mae'n ymddangos fod pobl ar y maes yn trio gwneud allan fod conspiracy mawr yn erbyn merched eu bod yn cael eu talu llai na beth mae nhw fod o'i gymharu a dynion.

Mae fel cymharu afal ac oren, non-issue llwyr.

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 9:46 pm
gan Macsen
RET a ddywedodd:Efallai nad yw merched yn perfformio mor dda a dynion yn y swyddi ac yn llai effeithiol pan mae'n dod i negotiatio cyflog.


Ie, dwi'n cytuno. Mae merched i gyd yn incompotent mewn unrhyw swydd mae nhw'n ei wneud.

Delwedd Deffra RET! Wyt ti'n dweud y pethau yma i wylltio pobl? Me merched yn debyg o berfformio yn well na dynion mewn swyddi, fel mae nhw'n ei wneud yn yr ysgol. Institiwsanalised sexism ydi'r unig reswm da ni yn cael look in. :winc:

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 9:48 pm
gan Aran
RET79 a ddywedodd:Y cwestiwn i ti Aran, yw os buasai tystiolaeth gan gwmni inswrans fod pobl o leiafrif ethnig arbennig yn cael mwy o ddamweiniau ceir, ti'n meddwl fuasai o'n deg i godi cost eu inswrans nhw? Yr ateb gan ran fwyaf fuasai "Na, ddim o gwbl! Buasai hynna yn hiliol! Dyw hi ddim yn deg fod pobl o hil arbennig yn cael eu 'cosbi' fwy".


diddorol. dw i'n amau'n gryf iawn na fuasai'r un cwmni yswiriant yn cael gwahaniaethu fel 'na'n seiliedig ar hil. hmmmm. ond eto, pe bai'n bosib i ddangos bod yna cysylltiad rhwng hil a phatrymau dreifio, yna mi fuasai'n gwneud synnwyr (o fewn canllawiau cwmniau yswiriant) i addasu prisiau'n seiliedig ar hynna. a fyddai hynny'n hiliol? dw i'n amau na fyddai fo, ond oherwydd bod yna gymaint o broblemau efo hilaeth wedi bod dros y canrifoedd, fyddai fo ddim yn dderbyniol yn gymdeithasol i gwmniau yswiriant gweithredu fel'na.

felly na, dw i ddim yn meddwl ei fod o'n rhywiaethol (brenin alltud?!) i godi ychwanegol ar gyfer dynion, a dw i ddim 'chwaith yn meddwl y byddai fo'n hiliol i wneud o pe bai cysylltiad amlwg wedi'i phrofi'n ddigon da rhwng hil penodol a phatrymau dreifio.

mae'r ymateb hon wedi'i lliwio i ryw raddau gan fy amser yn Nubai, lle heb eithriad oedd patrymau dreifio yn wahanol ar gyfer gwahanol hil. ar y prif-ffordd wyth lôn, pe bai yna rhywun yn dreifio'n beryglus o araf yn y lôn araf, byddai'r person hynna yn troi allan i fod o India neu Bakistan, a phe bai rhywun yn dod i fyny y tu ôl i chdi yn y lôn gyflym yn gwneud 220kmh ac yn fflashio goleuadau i ddeud 'Allan o fy ffordd!', mi fyddai'r person hynna yn troi allan i fod yn lleol - nid yn Arab yn gyffredinol, ond yn benodol yn ddinasyddion Dubai - 'ti'n meddwl bo chdi'n blydi biau'r lôn?!' 'sai rhywun yn gweiddi, cyn cofio... 'wps, sori, wrth gwrs mi wyt... :winc: '

buaswn i'n disgwyl bod yna rhai eithriadau i hyn (o'n i'n dreifio'n eithaf gyflym fy hun, pryd 'ny, ond dim yn fflashio goleuadau'n aml!), ond nes i ddim gweld yr un eithriad fy hun mewn pum mlynadd a hanner, sydd yn fy nhyb i'n dangos bod yna patrwm. ac mae cwmniau yswiriant, wrth gwrs, yn delio mewn patrymau...

yn ffodus, mae erbyn hyn yn annerbyniol i ddechrau meddwl hyd yn oed am wneud y gwaith ymchwil i ddarganfod a fyddai patrymau tebyg yn bod seiliedig ar hil, a dwi'n gweld hyn yn beth iach - digon hawdd i agweddau hiliol effeithio ar 'ymchwil' tebyg. mae gormod o niwed wedi'i wneud, ac yn dal i gael ei wneud, oherwydd natur hiliol dynol ryw, felly peth da i'w ein bod yn ymwrthod hyd yn oed creu'r peryg.

ac ar y llaw arall, petasai hi'n rhywiaethol yn erbyn dynion bod ni'n talu yswiriant uwch, fyddwn i ddim yn bersonol yn colli gormod o gwsg drosti - digon teg i'r genod cael rhywbath yn ôl wedi'r holl anfanteision eu bod wedi dioddef ac yn dal i ddioddef.

ond fel dw i 'di esbonio uchod, dw i ddim yn credu ei bod hi...

ar nodyn arall ond yn gysylltiedig, mae'n ddiddorol i weld agweddau tuag at ddioddefwyr gwrywaidd pan sôn am drais teuleol neu dreisio... mae'n ymddangos bod yna hyd yn oed llai o gydymdeimlad na sydd i wragedd (nid bod y cydymdeimlad yn hael ar gyfer gwragedd bob tro, 'chwaith) - elfen o 'paid â bod yn wirion, mae dy wraig yn dy guro di? twt lol...'

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 9:49 pm
gan RET79
Ifan Morgan Jones a ddywedodd:
RET a ddywedodd:Efallai nad yw merched yn perfformio mor dda a dynion yn y swyddi ac yn llai effeithiol pan mae'n dod i negotiatio cyflog.


Ie, dwi'n cytuno. Mae merched i gyd yn incompotent mewn unrhyw swydd mae nhw'n ei wneud.

Delwedd Deffra RET! Wyt ti'n dweud y pethau yma i wylltio pobl? Me merched yn debyg o berfformio yn well na dynion mewn swyddi, fel mae nhw'n ei wneud yn yr ysgol. Institiwsanalised sexism ydi'r unig reswm da ni yn cael look in. :winc:


Wnes i erioed wneud y fath ddatganiad, plis paid a rhoi geiriau yn fy nheg na wnes i ei dweud.

Dyw perfformio'n well yn yr ysgol ddim yn golygu ti'n perfformio'n well yn y byd real.

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 9:55 pm
gan Macsen
Aran a ddywedodd:mae'r ymateb hon wedi'i lliwio i ryw raddau gan fy amser yn Nubai, lle heb eithriad oedd patrymau dreifio yn wahanol ar gyfer gwahanol hil. ar y prif-ffordd wyth lôn, pe bai yna rhywun yn dreifio'n beryglus o araf yn y lôn araf, byddai'r person hynna yn troi allan i fod o India neu Bakistan, a phe bai rhywun yn dod i fyny y tu ôl i chdi yn y lôn gyflym yn gwneud 220kmh ac yn fflashio goleuadau i ddeud 'Allan o fy ffordd!', mi fyddai'r person hynna yn troi allan i fod yn lleol - nid yn Arab yn gyffredinol, ond yn benodol yn ddinasyddion Dubai - 'ti'n meddwl bo chdi'n blydi biau'r lôn?!' 'sai rhywun yn gweiddi, cyn cofio... 'wps, sori, wrth gwrs mi wyt... '


Hmmm... swn i'n dweud bod gan hynny mwy i wneud gyda diwylliant na hil?

RET a ddywedodd:Wnes i erioed wneud y fath ddatganiad, plis paid a rhoi geiriau yn fy nheg na wnes i ei dweud.


RET a ddywedodd:Efallai nad yw merched yn perfformio mor dda a dynion yn y swyddi ac yn llai effeithiol pan mae'n dod i negotiatio cyflog.


Dyna be ddudest ti. :?