RET79 a ddywedodd:Yn syml, mae merched yn ddigon hapus i gwmni inswrans roi cynnyrch rhatach i nhw ar sail eu rhyw felly dwi ddim yn meddwl fod ganddyn nhw hygrededd pan mae nhw'n honni fod nhw eisiau cydraddoldeb.
Sbia ar y peth cynta udish i Ret. Taswn i'n gwbod mod i'n mynd i gael fy nhalu yr un faint a dyn am neud swydd yr un mor dda a fo, swn i wrth fy modd. Sa talu mwy o yswirant im yn broblem achos swn i'n gallu fforddio fo!! Dwi'm yn ffeminist o gwbwl, cydraddoldeb llwyr swn i'n licio ei weld. Tasa merched yn cael eu talu gymaint a dynion yn y lle cynta, ella basa dy ddadl di bo ffeministiaid ddim yn cwyno fod yswiriant yn costio llai yn dal dwr ond ar hyn o bryd mae hi'n wallus.
Hefyd, os medri di ddeud fod o'n deg i beldroedwyr gael eu talu fwy am fod yn alluog yn eu maes, dio ddim yn deg fod merched yn gorfod talu llai am gael dreifio achos wedi'r cwbwl, mae ystadegau'n dangos mai nhw di'r rhai mwya gofalus...?