Tudalen 5 o 5

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 10:36 pm
gan Aran
RET79 a ddywedodd:Yn syml, mae merched yn ddigon hapus i gwmni inswrans roi cynnyrch rhatach i nhw ar sail eu rhyw felly dwi ddim yn meddwl fod ganddyn nhw hygrededd pan mae nhw'n honni fod nhw eisiau cydraddoldeb.


dw i ddim yn meddwl bod yna unrhyw colled hygrededd o gwbl gan wragedd sydd yn brwydro'n erbyn anhegwch yn y gweithle, gan nad yw'n rhywiaethol iddynt talu'n llai am eu hyswyriant.

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 11:04 pm
gan RET79
Aran a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Yn syml, mae merched yn ddigon hapus i gwmni inswrans roi cynnyrch rhatach i nhw ar sail eu rhyw felly dwi ddim yn meddwl fod ganddyn nhw hygrededd pan mae nhw'n honni fod nhw eisiau cydraddoldeb.


dw i ddim yn meddwl bod yna unrhyw colled hygrededd o gwbl gan wragedd sydd yn brwydro'n erbyn anhegwch yn y gweithle, gan nad yw'n rhywiaethol iddynt talu'n llai am eu hyswyriant.


Pa anhegwch yn y gweithle ti'n siarad am?

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 11:20 pm
gan Macsen
O Ret, oes gen ti gof fel pysgodyn? Darllena nol dros be sydd wedi cael ei ysgrifennu, yn lle gofyn yr un cwestiynnau tro ar ol tro. Waeth i fi copy and pastio'r un ddadl. :rolio:

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 11:29 pm
gan RET79
Ifan Morgan Jones a ddywedodd:O Ret, oes gen ti gof fel pysgodyn? Darllena nol dros be sydd wedi cael ei ysgrifennu, yn lle gofyn yr un cwestiynnau tro ar ol tro. Waeth i fi copy and pastio'r un ddadl. :rolio:


Mae trio creu darlun o anhegwch yn y gweithle, drwy cymharu cyflog cyfartaledd dynion a merched, yn ffals.

Hefyd, mae trio gwneud allan dylai merched, sydd mewn job o'r un disgrifiad a dynion, gael eu talu yr un faint a dynion bob tro hefyd yn nonsens e.g. fy esiampl am bel-droedwyr.

Fel dwi wedi trio egluro dyw pobl ddim yn cael eu talu am eu bod yn ddynion neu'n ferched yn y byd yma: maent yn cael eu talu am y gwerth mae nhw i'r busnes, y sgiliau a'r profiad sydd ganddyn nhw yn ogystal a'r lefel o gyfrifoldeb o'u swydd. Dyw o ddim byd i'w wneud hefo bod yn ddyn neu ferch.

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 12:19 am
gan Chwadan
RET79 a ddywedodd:Yn syml, mae merched yn ddigon hapus i gwmni inswrans roi cynnyrch rhatach i nhw ar sail eu rhyw felly dwi ddim yn meddwl fod ganddyn nhw hygrededd pan mae nhw'n honni fod nhw eisiau cydraddoldeb.

Sbia ar y peth cynta udish i Ret. Taswn i'n gwbod mod i'n mynd i gael fy nhalu yr un faint a dyn am neud swydd yr un mor dda a fo, swn i wrth fy modd. Sa talu mwy o yswirant im yn broblem achos swn i'n gallu fforddio fo!! Dwi'm yn ffeminist o gwbwl, cydraddoldeb llwyr swn i'n licio ei weld. Tasa merched yn cael eu talu gymaint a dynion yn y lle cynta, ella basa dy ddadl di bo ffeministiaid ddim yn cwyno fod yswiriant yn costio llai yn dal dwr ond ar hyn o bryd mae hi'n wallus.

Hefyd, os medri di ddeud fod o'n deg i beldroedwyr gael eu talu fwy am fod yn alluog yn eu maes, dio ddim yn deg fod merched yn gorfod talu llai am gael dreifio achos wedi'r cwbwl, mae ystadegau'n dangos mai nhw di'r rhai mwya gofalus...?

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 1:34 am
gan RET79
Chwadan, beth sy'n gwneud i ti feddwl dy fod am gael dy dalu yn llai na dyn yn dy fywyd? Pan ti'n trio am swydd mae nhw fel arfer yn rhoi syniad o'r cyflog. Dy job di mewn cyfweliad yw profi i nhw mai ti yw'r gorau am y job ac wedyn negotiatio'r cyflog. Does dim rheswm i ti gael dy dalu llai na dyn hefo'r un cymwysterau.... neu wedi'r cyfan buasen nhw bob amser yn rhoi'r jobs i ferched (os buasai nhw'n talu llai i ferched fel ti'n honni!).

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 1:39 am
gan Macsen
RET a ddywedodd:Dy job di mewn cyfweliad yw profi i nhw mai ti yw'r gorau am y job ac wedyn negotiatio'r cyflog


Bob job interview dwi di bod iddi mae'r pres wedi cael ei setlo cyn i fi fynd mewn.