Dylan a ddywedodd:Ret, y rheswm bod angen i'r chwith fod mor 'swnllyd' ydi gan mai gwleidyddiaeth dilynol (progressive) ydyw, yn gwrthryfela yn erbyn y status quo. Gan fod 'y dde' yn cael eu ffordd beth bynnag, 'does dim angen iddynt dynnu sylw at eu barnau gymaint.
wedi dweud hynny, mae pobl meddw yn parablu ymlaen am wleidyddiaeth yn gallu mynd ar fy nerfau innau hefyd. Ddim yn hoff iawn o clichés a sloganau o gwbl. 'Dw i'n rhannu dy anniddigrwydd di â phobl sydd wedi darllen ambell beth gan Michael Moore ac sy'n meddwl eu bod yn gwybod y cyfan fel canlyniad.
Cytuno a dwi'n meddwl fod llawer o'r pobl hyn yn gwneud drwg a syniadau'r chwith.
Roeddwn yn teimlo biti dros y creadur yma ddydd Sul gan roedd o'n gwneud America allan i fod y wlad mwyaf drwg yn y byd. Roedd ei ddadleuon yn deillio o'r amgylchedd. Fe wnaeth un ddadl yn condemnio America am beidio arwyddo rhywbeth yn yr UN oedd yn gaddo dwr yfed glan i bawb yn eu gwlad. Roedd hyn yn chwerthinllyd yn fy marn i.
Fel chi'n gwybod dwi'n ffan mawr o America ond dwi ddim yn honni fod America yn berffaith mae gen America lot o broblemau. Ond os buaset ti'n gorfod rhoi 'rating' i wledydd y byd mae gen i ofn buasai America yn bell ar y blaen yn y pethau pwysig i gyd.