Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 12:20 pm
gan Cwlcymro
Wel deud gwir ma siarad efo'r bobl o'r farn arall yn well os wbath. Ti'n dysgu dim os ti jusd yn siarad a rheini efo'r un barn a chdi, ma hynnu just yn gyrru riwun yn fwy a mwy eithafol yn ei gred.
Cyn belled a bo hi'm yn slanging match, ma dalda efo riwun o farn gwahanol i chdi'n hwyl ac addysgiadol.

A dwi dal yn meddwl ma tafarn ydi'r lle GORA i drafod gwleidyddiaeth.

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 5:04 pm
gan RET79
Y trueni yw fod rhai pobl yn cymryd y peth yn bersonol pan ti'n chwalu eu dadleuon a ddim yn cael dy berswadio gan eu 'tystiolaeth'.

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 5:22 pm
gan Macsen
Dw i'n agored iawn i ddadleuon, ond dyw'r rhan fwyaf ohonan nhw ddim yn newid fy meddwl am ei bod nhw'n wallog.

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 5:28 pm
gan Garnet Bowen
Problem pobl ar y chwith (neu un ohonyn nhw, oherwydd mae 'na lot) yw eu bod nhw'n rhy barod i fynegi safbwynt, heb ddeallt pam eu bod nhw'n credu'r safbwynt hwnw. Fel ti'n deud, mae pobl yn darllen rhywbeth yn y Guardian neu'r Independent, ac yna jyst yn ail-adrodd y safbwynt hwnw'n ddi-feddwl. Yn hytrach na trin dadl yn rhesymegol, mae bob dim yn cael ei leihau yn sloganau di-feddwl (America/Israel is evil).

(Gyda llaw, dwi'n darllen y Guardian bob diwrnod, yn America-sceptic, neu'n Bush-sceptic, ac yn ddyn y chwith. Ond tydi hynnu ddim yn newid y ffaith mod i'n casau'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n rhannu'r un syniadau a fi.)

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 6:15 pm
gan Macsen
Bowen a ddywedodd:Fel ti'n deud, mae pobl yn darllen rhywbeth yn y Guardian neu'r Independent, ac yna jyst yn ail-adrodd y safbwynt hwnw'n ddi-feddwl.


Fyswn i'n dweud bod hynny'n ddigon gwir am y dde hefyd. Os rywbeth, mae nhw yn fwy caeth i'r rybish mae pobl yn dweud wrtha nhw 'na ni'n chwith.

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 9:41 am
gan Garnet Bowen
Ifan Morgan Jones a ddywedodd: Fyswn i'n dweud bod hynny'n ddigon gwir am y dde hefyd. Os rywbeth, mae nhw yn fwy caeth i'r rybish mae pobl yn dweud wrtha nhw 'na ni'n chwith.


Wyddost ti be Ifan? Dwi erioed wedi cylwed neb asgell dde yn deud dim byd mor hollol dwp a be wyt ti wedi ei sgwenu yn y seiat 'Digwyddiadau Gwleidyddol - George Bush yn Llundain'. Fedrai ddim coeli fod unrhwyun sy'n trio deud fod George Bush yn waeth arweinydd na Saddam Hussein yn disgwyl cael ei gymeryd o ddifrif mewn trafodaeth wleidyddol.

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 1:47 pm
gan Macsen
Bowen a ddywedodd:Wyddost ti be Ifan? Dwi erioed wedi cylwed neb asgell dde yn deud dim byd mor hollol dwp a be wyt ti wedi ei sgwenu yn y seiat 'Digwyddiadau Gwleidyddol - George Bush yn Llundain'. Fedrai ddim coeli fod unrhwyun sy'n trio deud fod George Bush yn waeth arweinydd na Saddam Hussein yn disgwyl cael ei gymeryd o ddifrif mewn trafodaeth wleidyddol.


:rolio: Dyma pam mae'n bywsig darllen be mae pobl wedi ysgrifennu cyn ymateb. Dim dweud bod Bush yn waeth arweinydd 'na Sadamn wnes i. Dywedais fod well gen i Sadamn yn rheoli Iraq na Bush yn cael ymosod ar unrhyw wlad mae o eisiau heb reswm.

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 2:11 pm
gan Garnet Bowen
Ifan Morgan Jones a ddywedodd:
Bowen a ddywedodd:Wyddost ti be Ifan? Dwi erioed wedi cylwed neb asgell dde yn deud dim byd mor hollol dwp a be wyt ti wedi ei sgwenu yn y seiat 'Digwyddiadau Gwleidyddol - George Bush yn Llundain'. Fedrai ddim coeli fod unrhwyun sy'n trio deud fod George Bush yn waeth arweinydd na Saddam Hussein yn disgwyl cael ei gymeryd o ddifrif mewn trafodaeth wleidyddol.


:rolio: Dyma pam mae'n bywsig darllen be mae pobl wedi ysgrifennu cyn ymateb. Dim dweud bod Bush yn waeth arweinydd 'na Sadamn wnes i. Dywedais fod well gen i Sadamn yn rheoli Iraq na Bush yn cael ymosod ar unrhyw wlad mae o eisiau heb reswm.


Mae gen i ofn bo fi ddim yn gweld sut bo hynnu'n wahanol. Y geiriau a ddefnyddist ti oedd bod Saddam yn "Lesser or two evils". H.Y. Mae George Bush yn waeth. :drwg:

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 4:14 pm
gan Macsen
Be sydd gan hyn i wneud hefo'r edefyn yma? Mi wnawn ni drafod hyn nol yn yr un gwreiddiol.