Tudalen 1 o 4

Pam bod y newyddion yn America mor sal?

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 2:52 pm
gan Macsen
Mae'r newyddion yn America yn uffernol o fewnol-edrych, heblaw ei bod nhw'n ymyrrid mewn gwledydd eraill. A pam mae nhw'n reportio pethau o wledydd eraill, mae o'n anhygoel o un ochrog i lein y Ty Gwyn. Mae nhw hefyd yn dioeddef o gof fel pysgodyn aur, yn anghofio ffactorau pwysig iawn sy ddim yn diddordeb eliteists America a'r llywodraeth.

Cymeraf fel esiampl Indonesia. Mi roedd yna fwy o newyddion ar Indonesia cyn i nhw invadio East Timor nag ar ol, gan glosio drosodd y ffaith bod Regan wedi rhoi yr go ahead iddyn nhw fynd i mewn. Tachwedd 1991- Activist adain chwith yn cael ei ladd yn East Timor. Mae'r fyddin yn mynd i'r angladd ac yn mowio lawr yr pobl yno gyda machine gun. Mae yna griw camera o Brydain yn ffilmio'r holl beth. Newyddion anferth! Mae'r newyddion yn America yn ignorio y stori a'r ffilm.

Eisiampl o'r effaith 'pysgodyn aur'. Mae'r UD yn gwneud i El Salvador gynnael election. Ddim yn hapus gyda'r canlyniad, mae'r Americanwyr yn rhoi boi oedd ddim hyd yn oed wedi rhedeg mewn pwer. Does dim candidate adain chwith o gwbwl. Blynyddoedd yn ddiweddarach, mae nhw'n cael election arall. Mae'r newyddion yn America yn ei alw fo'n ei election cyntaf, gan anghofio yn hollol am y cyntaf.

Y chydig o resymau dros ddifyg safon newyddion yn America.

1)O ran arian, mae America mor fawr tydyn nhw ddim wir angen boddran hefo gwledydd eraill.

2) Cwmniau mawr sydd biau nhw i gyd, cwmniau sydd a diddordebau mewn gwledydd eraill, ac sydd yn lot hapusach gweld dictator yn gadael i nhw ei dalu fo am bethau rhad na boi wedi ei electio eisiau'r gorau i'w bobl ei hun.

3) Am y rheswm yma hefyd mae'r newyddion mor big-business ac adain dde.

4) Gwerthu pobl i'r advertisers ydi prif bwynt unrhyw raglen yn America. Bydd newyddion drwg yn lleihau tebygrwydd o'r pobl yma'n prynu stwff o Ikea neu lle bynnag.

5) Lot mwy patriotic, yn enwedig ar ol 9/11. Dim lle i gwestiynnu y Ty Gwyn, neb yn cael grillio y Gwrych am ei bolesiau.

Y problem mwyaf gyda hyn ydi ei fod o'n syndod pa mor ignorant ydi Americanwyr am y byd o'i cwmpas. A pwy all feio nhw gyda newyddion mor sal? Mae y rhan fwyaf yn meddwl bod gan Sadamm rywbeth i wneud a 9/11 heb gonsidro bod fingerprints Saudi Arabia dros bob man, a ddim yn deall pam fysai rhywun ddim yn ei hoffi nhw, achos i nhw prif bwynt American Foreign Policy ydi ryw fath o moral code, dim cadw upper crust America yn nofio mewn arian.

Dyna fy marn i, beth bynnag. :winc:

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 5:00 pm
gan eusebio
Look Out! ... mae Pogon a Ret ar y ffordd ;)

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 5:09 pm
gan RET79
Gosh dwi ddim yn gwybod lle i ddechrau. Wel beth am roi safon newyddion America yn ei gyd destun gan ei gymharu hefo newyddion gwledydd muslim y dwyrain canol fel Al-Jhazeer neu beth bynnag.

Ers pryd mae rhaid i newyddion America ganolbwyntio gymaint ar bawb arall yn y byd? Does dim o'i le ar Americanwyr yn cymryd y rhan fwyaf o ddiddordeb yn nigwyddiadau ar eu stepen drws.

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 5:10 pm
gan eusebio
DWI'N BROFFWYD :lol:

9 munud yn unig wedi i mi bostio'r rhybudd ...

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 5:12 pm
gan RET79
eusebio a ddywedodd:DWI'N BROFFWYD :lol:

9 munud yn unig wedi i mi bostio'r rhybudd ...


lol

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 5:20 pm
gan Macsen
RET a ddywedodd:Wel beth am roi safon newyddion America yn ei gyd destun gan ei gymharu hefo newyddion gwledydd muslim y dwyrain canol fel Al-Jhazeer neu beth bynnag.


Mi oeddwn i yn siarad a'r advisor i'r british government am arab news wythnos dwytha. Prif bwrpas newyddion yw i ddweud y gwir wrth y gwylwyr. Mae Al-Jazeera yn fwy tueddol o ddweud y gwir. Mae y gwir yn mynd trwy gymaint o filters a lensys gwahanol, heb son am y ffordd mae'n cael ei fframio, bod y gwir sydd yn cyraedd pobl America ddim ond yn gysgod o beth oedd o i ddechrau. Gweler, er engraifft, sut y fframio nhw protest Ffrainc yn erbyn y rhyfel:

FOX News a ddywedodd:France, recently branded part of the Axis of Weasel, held protests today against the War in Iraq...

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 11:04 pm
gan Macsen
Oes does neb am amteb, dwi'n cymeryd fy mod i yn iawn. 8)

O, wel. Mae pawb yn cytuno am unwaith. :)

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 11:08 pm
gan RET79
Ifan Morgan Jones a ddywedodd: Mae Al-Jazeera yn dweud y gwir.


Sori, gollaist ti dy hygrededd yn y drafodaeth hyn ar ol gwneud y datganiad yma felly wnes i ddim ymateb.

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 11:11 pm
gan Macsen
:rolio: Pam bo nhw ddim yn dweud y gwir RET? Am eu bod nhw ddim yn wyn? Bacia fyny dy ddadl, plis. :winc:

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 11:13 pm
gan RET79
Ifan Morgan Jones a ddywedodd::rolio: Pam bo nhw ddim yn dweud y gwir RET? Am eu bod nhw ddim yn wyn? Bacia fyny dy ddadl, plis. :winc:


Ti'n trolio a dwi ddim yn bachu heno sori.