Sai'n gweld lle i ddadle'n hunan.
Ddoth adroddiad mas yn ystod rhyfel Irac (ai o ysgol newyddiaduraeth Caerdydd, neu rwle arall
?) yn dangos fod Al Jazeera (neu be bynnag yw enw'r sianel) yn darlledu mwy o newyddion o ddioddefaint pobol gyffredin ac o'r rhyfel yr oedd pobl Irac yn weld nag unrhyw sianel newyddion Eingl-Americanaidd. Roedd eu darllediadau yn llawer mwy credadwy.
Profwyd fod y rhan fwyaf o newyddion am Irac ar sianelu megis ITN ym Mhrydain, ac yn enwedig FOX ac ati yn America, yn dod o Gynhadleddau i'r Wasg a wnaed yn Qatar gan y fyddin Americanaidd. Rodd hyd yn oed byddin Prydain yn cwyno am hyn, a'u bont yn cam-lywio y gwir
Nid dadlau lein Saddam oedd Al-Jazeera chwaith, roedden nhw'n rhedeg rhai clipiau ohono ar ol ei ddymchwel- newyddion wedi'r cwbwl, ac yn 'exclusive' - ond newyddion o berspectif y dioddefwr a gafwyd fwyaf.
Ac o ran pwynt RET ei fod ond yn deg i bobl America glywed beth sy'n digwydd ar eu stepen drws (neu ai mewn edefyn arall ma hynny?)- mae e ond yn deg iddyn nhw gael gwbod beth mae eu llywodreth nhw yn wneud yn eu henw nhw. Falle pe bydden nhw'n cal clywed y gwir am weithredoedd y CIA a'u llywodraeth y bydden nhw'n deall achosion 9/11.