Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 11:16 pm
gan Macsen
RET a ddywedodd:Ti'n trolio a dwi ddim yn bachu heno sori.


'Trolio?' Mi rwyt ti a gymaint o ffydd mewn newyddion Amercanaidd nad wyt ti am wrando ar ddadl yn eu herbyn nhw? Dw i ddim am dy 'fachu' di RET, jyst am gael trafodaeth gyda unrhyw un sydd eisiau un.

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 11:20 pm
gan RET79
Ifan Morgan Jones a ddywedodd:
RET a ddywedodd:Ti'n trolio a dwi ddim yn bachu heno sori.


'Trolio?' Mi rwyt ti a gymaint o ffydd mewn newyddion Amercanaidd nad wyt ti am wrando ar ddadl yn eu herbyn nhw? Dw i ddim am dy 'fachu' di RET, jyst am gael trafodaeth gyda unrhyw un sydd eisiau un.


A beth sy'n gwneud i ti feddwl fod al jazeer yn dweud y gwir a'r newyddion americanaidd ddim?

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 11:24 pm
gan Macsen
Dw i wedi rhoi rhai dadleuon am newyddion americanaidd ar dop y tudalen, a does neb wedi ymateb iddyn nhw felly dw i ddim yn gweld unrhyw bwrpas i restru mwy tan bod rywun yn gwneud hynny.

PostioPostiwyd: Gwe 14 Tach 2003 10:18 am
gan Cardi Bach
Sai'n gweld lle i ddadle'n hunan.

Ddoth adroddiad mas yn ystod rhyfel Irac (ai o ysgol newyddiaduraeth Caerdydd, neu rwle arall :? ?) yn dangos fod Al Jazeera (neu be bynnag yw enw'r sianel) yn darlledu mwy o newyddion o ddioddefaint pobol gyffredin ac o'r rhyfel yr oedd pobl Irac yn weld nag unrhyw sianel newyddion Eingl-Americanaidd. Roedd eu darllediadau yn llawer mwy credadwy.

Profwyd fod y rhan fwyaf o newyddion am Irac ar sianelu megis ITN ym Mhrydain, ac yn enwedig FOX ac ati yn America, yn dod o Gynhadleddau i'r Wasg a wnaed yn Qatar gan y fyddin Americanaidd. Rodd hyd yn oed byddin Prydain yn cwyno am hyn, a'u bont yn cam-lywio y gwir :ofn:

Nid dadlau lein Saddam oedd Al-Jazeera chwaith, roedden nhw'n rhedeg rhai clipiau ohono ar ol ei ddymchwel- newyddion wedi'r cwbwl, ac yn 'exclusive' - ond newyddion o berspectif y dioddefwr a gafwyd fwyaf.

Ac o ran pwynt RET ei fod ond yn deg i bobl America glywed beth sy'n digwydd ar eu stepen drws (neu ai mewn edefyn arall ma hynny?)- mae e ond yn deg iddyn nhw gael gwbod beth mae eu llywodreth nhw yn wneud yn eu henw nhw. Falle pe bydden nhw'n cal clywed y gwir am weithredoedd y CIA a'u llywodraeth y bydden nhw'n deall achosion 9/11.

PostioPostiwyd: Gwe 14 Tach 2003 4:34 pm
gan RET79
Cardi wyt ti'n credu fod America wedi ymosod yn bwrpasol ar bobl gyffredin Iraq? Neu ti'n meddwl mai soldiwrs Iraq oedd y targed.

Yn anffodus ti'n dechrau fy atgoffa o'r boi oeddwn yn dadlau hefo mewn tafarn ar y benwythnos: roedd o'n cyhuddo America o ladd merched a plant Iraq. Roedd rhaid i mi bwyntio allan i'r lembo mai y gelyn i America mewn rhyfel yw y soldiwrs nid y bobl ddiniwed.

A tybed faint o'r suicide bombs roedd Al Jazeer yn reportio?

PostioPostiwyd: Gwe 14 Tach 2003 4:41 pm
gan Mr Gasyth
RET79 a ddywedodd:roedd o'n cyhuddo America o ladd merched a plant Iraq.


Be, wyt ti'n deud na laddon nhw ddim merched a phlant yn Irac? Ti'n gwylio Fox news ma'n amlwg.

PostioPostiwyd: Gwe 14 Tach 2003 4:43 pm
gan RET79
Aled a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:roedd o'n cyhuddo America o ladd merched a plant Iraq.


Be, wyt ti'n deud na laddon nhw ddim merched a phlant yn Irac? Ti'n gwylio Fox news ma'n amlwg.


Ti'n amlwg ddim yn deall y gwahaniaeth rhwng 'collateral damage' mewn rhyfel a mynd allan hefo agenda i ladd pobl diniwed, yn union fel mae terfysgwyr al qaeda wedi ei wneud.

Ac os buasai Saddam dal mewn grym, fel fyddai hi os buasai dy deip di yn rhedeg y byd, buasai o'n dal i ladd pobl ddiniwed yn ei wlad. Mae gan Iraq rwan ddyfodol i edrych ymlaen ato diolch i ni o'r Gorllewin.

PostioPostiwyd: Gwe 14 Tach 2003 4:53 pm
gan Mr Gasyth
Ar ddiwedd y dydd RET, ma rhywyn sydd wedi colli gwr/gwraig/mab/merch oherwydd be wyt ti ac eraill yn ei alw'n 'collateral damage' yn galaru yn union yr un faint a rhywyn sydd wedi colli rhywyn oherwydd ymosodiad bwriadol arnyn nhw. A ma'r person marw yn union yr un mor farw a'i farwolaeth yn haeddu yr un sylw.
diolch i 'ni'r Gorllewin', ma gynnon ni ddegawdau o wrthdaro rhyng-grefyddol a rhyng-ddiwylliannol i edrych ymlaen ato fo. A lot mwy o feirw, 'collateral' a fel arall.

PostioPostiwyd: Gwe 14 Tach 2003 5:11 pm
gan RET79
Aled a ddywedodd:Ar ddiwedd y dydd RET, ma rhywyn sydd wedi colli gwr/gwraig/mab/merch oherwydd be wyt ti ac eraill yn ei alw'n 'collateral damage' yn galaru yn union yr un faint a rhywyn sydd wedi colli rhywyn oherwydd ymosodiad bwriadol arnyn nhw. A ma'r person marw yn union yr un mor farw a'i farwolaeth yn haeddu yr un sylw.
diolch i 'ni'r Gorllewin', ma gynnon ni ddegawdau o wrthdaro rhyng-grefyddol a rhyng-ddiwylliannol i edrych ymlaen ato fo. A lot mwy o feirw, 'collateral' a fel arall.


Felly ti ddim yn meddwl ddylai'r gorllewin fynd i ryfel o gwbl gan mae collateral damage yn rywbeth fedri di ddim ei osgoi, er fod ni'n trio ein gorau i'w osgoi am resymau amlwg.

Tybed wyt ti yr un mor feirniadol o'r pobl wnaeth ymosod ar y WTC?

PostioPostiwyd: Sul 16 Tach 2003 5:35 am
gan Macsen
RET a ddywedodd:Tybed wyt ti yr un mor feirniadol o'r pobl wnaeth ymosod ar y WTC?


Paid a bod yn wirion, RET. Does neb yn ei meddwl cywir yn dweud bod y pobl a grashiodd y awyrennau mewn i'r WTC yn gwneud y peth iawn.

A beth sydd gan hynny i wneud a Iraq? Dyw'r Taliban ddim ar gyfyl y lle.

Ac, beth bynnag, be sydd gan hyn i wneud gyda'r cwestiwn ddechreuol? :?