RET79 a ddywedodd:Owain Llwyd a ddywedodd:RET79 a ddywedodd:Diddorol iawn ond beth am fynd yn ol at y pwynt gwreiddiol: pam fod protestwyr heddwch yn ymddwyn mor dresigar tuag at y pobl sydd yn cael eu cyflogi i gadw cyfraith a threfn?The Guardian, 6.45 pm a ddywedodd:The Metropolitan police's deputy assistant commissioner, Andy Trotter, said that the conduct of the march was good tempered and there had been no particular problems.
Hmm. Be'di hwn? Dirprwy gomisiynydd cynorthwyol y Met yn lledu propaganda ar ran y pinkos? Does ryfedd bod y wlad yn mynd rhwng y cwn a'r brain efo cymeriadau fatha hwnna yn gyfrifol am gadw trefn ar y plebs.
Dwi'n wir meddwl dylsai pobl fentro darllen papur arwahan i'r guardian.
Pam? Ydi Andy Trotter yn dweud rhywbeth arall yn y rheina?
Mi oedd fy mhrif ddiddordeb yn y dyfyniad gynno fo, fel mae'n digwydd. Ta waeth, mi fydda i'n darllen unrhyw beth sy'n dod i law, felly paid ag ymhyfrydu yn dy ragfarnau yn ormodol.