Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 4:51 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Wel s'mo fi 'rioed wedi gweld trais yn yr un brotest heddwch, felly ner ner ner ner ner.

(sori i fod mor blentynaidd ond fi wedi blino)

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 4:53 pm
gan nicdafis
RET79 a ddywedodd:Felly pam mae nhw'n ymosod ar yr heddlu mor dreisgar?


Dyn nhw ddim. Mae unrhyw "protestwr heddwch" sy'n ymosod ar yr heddlu yn defnyddio'r protestiadau heddwch er mwyn rhyw bwrpas arall.

Dw i ddim yn gweld unrhywbeth ar newyddion Google am ymosodiadau ar yr heddlu. Wyt ti'n gwybod rhywbeth dyn ni ddim, RET?

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 5:08 pm
gan Cardi Bach
Pwy gartwn wyt ti wedi bod yn edrych arno RET? Neu ai breuddwyd cas gest ti nithwr?

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 7:33 pm
gan RET79
Roeddwn i'n gwylio'r newyddion neithiwr ac yn gweld protestwyr 'heddwch' yn fandaleiddio model o George Bush yn hynod o ffiaidd, llosgi lluniau o Bush a'r faner Americanaidd cyn mynd am punch up hefo'r heddlu. Roedd o'n dangos yn glir un proestiwr yn tynu cap heddwas ffwrdd a'i ddyrnu yn i gefn.

Heroes ynte.

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 8:19 pm
gan Macsen
RET a ddywedodd:Roeddwn i'n gwylio'r newyddion neithiwr ac yn gweld protestwyr 'heddwch' yn fandaleiddio model o George Bush yn hynod o ffiaidd, llosgi lluniau o Bush a'r faner Americanaidd cyn mynd am punch up hefo'r heddlu. Roedd o'n dangos yn glir un proestiwr yn tynu cap heddwas ffwrdd a'i ddyrnu yn i gefn.


Wel, mai yna wastad rhai syn hijackio protestiadau heddwch pobl eraill. Ac wrth gwrs, dyma'r bobl mae'r camerau yn concentratio arnyn nhw. Tydi'r pobl bob man arall sy'n cerdded yn araf ac ddim yn gwneud dim ddim mor ddoddorol i'r pobl syn gwylio'r newyddion.

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 9:16 pm
gan Hedd Gwynfor
RET79 a ddywedodd:Roeddwn i'n gwylio'r newyddion neithiwr ac yn gweld protestwyr 'heddwch' yn fandaleiddio model o George Bush yn hynod o ffiaidd, llosgi lluniau o Bush a'r faner Americanaidd cyn mynd am punch up hefo'r heddlu. Roedd o'n dangos yn glir un proestiwr yn tynu cap heddwas ffwrdd a'i ddyrnu yn i gefn. Heroes ynte.


Dim yn bod ar fandaleiddio model Bush. Gweithred symbolaidd gweledol hynod effeithiol!

Anghytuno'n llwyr gyda'r criw bach o idiots sydd ishe achosi trwbwl sy'n tagio ymlaen. Siwr o fod yn perthyn i'r blaid geidwadol! :winc:

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 9:24 pm
gan RET79
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Anghytuno'n llwyr gyda'r criw bach o idiots sydd ishe achosi trwbwl sy'n tagio ymlaen. Siwr o fod yn perthyn i'r blaid geidwadol! :winc:


Ymgais hynod o sal i roi'r bai ar bobl eraill. Dwi'n swir fod y toriaid i gyd yn brysur at eu gwaith yn cadw'r wlad yma fynd ddim wastio amser pawb yn cadw stwr tu allan i buckingham palace.

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 10:28 pm
gan Owain Llwyd
RET79 a ddywedodd:Diddorol iawn ond beth am fynd yn ol at y pwynt gwreiddiol: pam fod protestwyr heddwch yn ymddwyn mor dresigar tuag at y pobl sydd yn cael eu cyflogi i gadw cyfraith a threfn?


The Guardian, 6.45 pm a ddywedodd:The Metropolitan police's deputy assistant commissioner, Andy Trotter, said that the conduct of the march was good tempered and there had been no particular problems.


Hmm. Be'di hwn? Dirprwy gomisiynydd cynorthwyol y Met yn lledu propaganda ar ran y pinkos? Does ryfedd bod y wlad yn mynd rhwng y cwn a'r brain efo cymeriadau fatha hwnna yn gyfrifol am gadw trefn ar y plebs.

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 10:46 pm
gan RET79
Owain Llwyd a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Diddorol iawn ond beth am fynd yn ol at y pwynt gwreiddiol: pam fod protestwyr heddwch yn ymddwyn mor dresigar tuag at y pobl sydd yn cael eu cyflogi i gadw cyfraith a threfn?


The Guardian, 6.45 pm a ddywedodd:The Metropolitan police's deputy assistant commissioner, Andy Trotter, said that the conduct of the march was good tempered and there had been no particular problems.


Hmm. Be'di hwn? Dirprwy gomisiynydd cynorthwyol y Met yn lledu propaganda ar ran y pinkos? Does ryfedd bod y wlad yn mynd rhwng y cwn a'r brain efo cymeriadau fatha hwnna yn gyfrifol am gadw trefn ar y plebs.


Dwi'n wir meddwl dylsai pobl fentro darllen papur arwahan i'r guardian.

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 10:56 pm
gan ceribethlem
A'r Sun yn bapur o safon uchel ondywe RET.