Tudalen 3 o 4

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 11:32 pm
gan Owain Llwyd
RET79 a ddywedodd:
Owain Llwyd a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Diddorol iawn ond beth am fynd yn ol at y pwynt gwreiddiol: pam fod protestwyr heddwch yn ymddwyn mor dresigar tuag at y pobl sydd yn cael eu cyflogi i gadw cyfraith a threfn?


The Guardian, 6.45 pm a ddywedodd:The Metropolitan police's deputy assistant commissioner, Andy Trotter, said that the conduct of the march was good tempered and there had been no particular problems.


Hmm. Be'di hwn? Dirprwy gomisiynydd cynorthwyol y Met yn lledu propaganda ar ran y pinkos? Does ryfedd bod y wlad yn mynd rhwng y cwn a'r brain efo cymeriadau fatha hwnna yn gyfrifol am gadw trefn ar y plebs.


Dwi'n wir meddwl dylsai pobl fentro darllen papur arwahan i'r guardian.


Pam? Ydi Andy Trotter yn dweud rhywbeth arall yn y rheina?

Mi oedd fy mhrif ddiddordeb yn y dyfyniad gynno fo, fel mae'n digwydd. Ta waeth, mi fydda i'n darllen unrhyw beth sy'n dod i law, felly paid ag ymhyfrydu yn dy ragfarnau yn ormodol.

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2003 2:55 pm
gan Cwlcymro
RET79 a ddywedodd:
The Guardian, 6.45 pm :
The Metropolitan police's deputy assistant commissioner, Andy Trotter, said that the conduct of the march was good tempered and there had been no particular problems.


Dwi'n wir meddwl dylsai pobl fentro darllen papur arwahan i'r guardian.


Be??? Gwneud dim sens RET. Quote gan heddwas ydi quote gan heddwas, dim ots pa bapur ti'n ei ddarllen o yn.

Oh a RET

Sky News

'Metropolitan Police Deputy Assistant Commissioner Andy Trotter said: "We've had a very good-tempered march and there have been no particular problems."'

So na ni, ma Sky yn cytuno!!

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2003 3:52 pm
gan Sioni Size
Paid poeni Ret, dwi'n siwr gei di dy gyfle i roi'r sgym lefftis heddychwyr ffiaidd ma yn eu lle eto'n fuan.
:lol: :lol: :lol: :rolio:

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2003 5:16 pm
gan RET79
Ar SKY news welais i'r lluniau o'r protestwyr yn ymosod yn gas ar yr heddlu. Wrth gwrs does gan yr un leftie hunan barchus ddim SKY...

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2003 5:25 pm
gan Garnet Bowen
RET79 a ddywedodd:Ar SKY news welais i'r lluniau o'r protestwyr yn ymosod yn gas ar yr heddlu.


Be ydi'r dywediad Saesneg? One swallow does not a summer make? Mi oedd y mwyafrif llethol o brotestwyr yn heddychlon. Ond, yn anffodus, mae 'na rentamob eithafol sy'n mynd i bob protest, ac yn pardduo'r gweddill.

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2003 5:33 pm
gan Boris
Garnet Bowen a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Ar SKY news welais i'r lluniau o'r protestwyr yn ymosod yn gas ar yr heddlu.


Be ydi'r dywediad Saesneg? One swallow does not a summer make? Mi oedd y mwyafrif llethol o brotestwyr yn heddychlon. Ond, yn anffodus, mae 'na rentamob eithafol sy'n mynd i bob protest, ac yn pardduo'r gweddill.


Duw, sbia Ifan Morgan, dau honedig right wing yn anghytuno!

Dwi'n gwybod nad yw Garnet yn 'right wing' ond dyna ddisgrifiad Ifan o bawb sy'n anghytuno efo fo. O leiaf mae Garnet a Ret yn trio cyflwyno ffeithiau ddim gwneud nhw fyny fel Ifan Morgan.

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2003 5:44 pm
gan Hedd Gwynfor
Boris a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Ar SKY news welais i'r lluniau o'r protestwyr yn ymosod yn gas ar yr heddlu.


Be ydi'r dywediad Saesneg? One swallow does not a summer make? Mi oedd y mwyafrif llethol o brotestwyr yn heddychlon. Ond, yn anffodus, mae 'na rentamob eithafol sy'n mynd i bob protest, ac yn pardduo'r gweddill.


Duw, sbia Ifan Morgan, dau honedig right wing yn anghytuno!

Dwi'n gwybod nad yw Garnet yn 'right wing' ond dyna ddisgrifiad Ifan o bawb sy'n anghytuno efo fo. O leiaf mae Garnet a Ret yn trio cyflwyno ffeithiau ddim gwneud nhw fyny fel Ifan Morgan.


Cytuno gyda llawer mae Garnet yn ei ddweud, a anghytuno llawer hefyd :winc:

Ond - Ret yn trio cyflwyno ffeithiau? Dim gobeth caneri! Dwi heb glywed gair o synnwyr gyda fe erioed. Os mae Ifan yn galw pawb sydd yn ei wrthwynebu yn tori, beth am RET79 yn galw pawb sy'n anghytuno gyda fe (sef pawb ar y Maes - heblaw efallai ti Boris) yn Marxist-anti american- n the dole-scum bags!

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2003 6:05 pm
gan nicdafis
Oedd lot mwy o bobl ar y gorymdaith yn Llundain dydd Mercher nag sy'n byw yn Aberteifi, a llai o drwbl rhyngddyn nhw a'r heddlu na fydd heno tu mas i'r Angel, amser stop tap. Ti'n cydio mewn gwelltyn, RET.

A doedd y protestwyr ddim yn "fandaleiddio" model GWB, oni bai bod hi'n bosibl i fandaleiddio rhywbeth ti'n wedi wneud dy hunan.

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2003 6:59 pm
gan Macsen
Boris a ddywedodd:Duw, sbia Ifan Morgan, dau honedig right wing yn anghytuno!


Gweler:

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Wel, mai yna wastad rhai syn hijackio protestiadau heddwch pobl eraill.


Garnet Bowen a ddywedodd:Ond, yn anffodus, mae 'na rentamob eithafol sy'n mynd i bob protest, ac yn pardduo'r gweddill.


Anghytuno?

Boris a ddywedodd:Dwi'n gwybod nad yw Garnet yn 'right wing' ond dyna ddisgrifiad Ifan o bawb sy'n anghytuno efo fo.


Hah! Lle yn union?

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Os mae Ifan yn galw pawb sydd yn ei wrthwynebu yn tori, beth am RET79 yn galw pawb sy'n anghytuno gyda fe (sef pawb ar y Maes - heblaw efallai ti Boris) yn Marxist-anti american- n the dole-scum bags!


Dyw hynny ddim cweit yn deg chwaith.
Boris a ddywedodd:O leiaf mae Garnet a Ret yn trio cyflwyno ffeithiau ddim gwneud nhw fyny fel Ifan Morgan.


Waw, a tin deud bod fi'n gwneud pethau i fyny allan o ddim? :rolio:

PostioPostiwyd: Sad 22 Tach 2003 1:23 am
gan Newt Gingrich
Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Waw, a tin deud bod fi'n gwneud pethau i fyny allan o ddim? :rolio:


Falle bod Boris wedi darllen dy gachu am 64% o 'journalists'yn left wing a 78% o bapurau newydd yn right wing. Hyd yma ti di cynnig dim mwy mewn cyfiawnhad na dweud fod dy ddarlithydd (ie, dwi'n coelio bob gair ma nhw'n ddeud) wedi dweud wrthyt 'so it must be true'.

Gwneud pethau fyny? Ti'n euog ddywedwn i. Fel ti'n gwybod dwi'n dal i ddisgwyl dy 'ffeithiau'. Cofia, falle dy fod wedi cymysgu rhwng dy ddarlithydd 'newyddiaduraeth' a dy ddarlithydd 'film studies'. Be ti'n ddeud :winc: ?

Yn sicr, mae mwy o ddylanwad ffuglen y cinema na ffeithiau byd papur newydd yn dy gyfraniadau.