Guardian i fi, os oes genna i amser i'w ddarllen - dwi'n tueddu i bori trwy'r erthyglau ar eu gwefan dyddiau hyn, a mond prynu'r fersiwn mawr dydd Sadwrn.
Ond cofiwch, mae'r gwahaniaeth rhwng tabloid a phapur lydan yn dechrau diflannu gan bod pawb eisiau bod yn dabloid erbyn hyn -- yr Independent eisoes yn gwerthu fersiwn tabloid yn Llundain, ac am ehangu, ac mae'r Times yn gwneud yr un peth wythnos yma!
http://media.guardian.co.uk/presspublishing/story/0,7495,1090446,00.html
Hen bryd hefyd -- mae'r tudalennau mawr na'n wirion, a dyw maint y papur ddim byd i wneud efo safon yr adroddiadau. Glywais stori mai'r rheswm fod papurau wedi mynd mor fawr oedd oherwydd bod treth arfer bod ar gyhoeddiadau ar sail nifer y tudalennau -- felly aeth maint y tudalennau'n fwy er mwyn cael llai ohonynt ac felly dalu llai o dreth![/url]