Tudalen 1 o 3

Pa Fath o Bapur Newydd?

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 1:11 am
gan Macsen
Broadsheet, Tabloid neu'r Financial Times?

Ar ol fotio rhowch eich fot isod, os yn bosib.

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 9:29 am
gan cymro1170
Tabloid

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 10:25 am
gan Cardi Bach
yr hen frodshit (to bach ar yr 'i'). er mod i'n pyrnnu tabloids yn achlysurol hefyd.

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 10:54 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Papur dalen lydan (diolch Bruce). Byddwn i ddim yn sychu mhen ol gyda'r sothach sy'n cael ei sgwennu gan Sun, Mirror, Daily Mail (sydd dal ishe bod yn bapur dalen lydan), ac ati.

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 11:36 am
gan Macsen
Dw i'n darllen y broadsheets fel arfer, ond mae rhaid i fi brynu tabloid i'w astudio ar fy nghwrs bob hyn a hyn.

Avarage incwm bois sy'n darllen y Financial Times ydi £105,000 y flwyddyn. Felly os dwi'n ei ddarllen o am ddigon, gobeithio wneith fy nhal gynyddu yn sylweddol. :winc:

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 4:23 pm
gan nicdafis
Guardian, natch.

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 4:34 pm
gan Hedd Gwynfor
Western Mail! - Llawer o bobl yn ei feirniadu, ond os am gynnwys Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol, hwn yw'r boi! Wedi gwella rhywfaint yn ddiweddar hefyd. Piti fod dim mwy o features. Carolyn Hitt yn wych!

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 9:55 pm
gan Rhys Llwyd
Mae fy rhieni yn cal y Telegraph bob dydd Sadwrn, Times bob dydd Sul a Guardian yn ystod yr wythnos.

Yn bersonol, yn enwedig ers gwennwyn dwetha (Irac) dwi di bod yn darllen mwy a mwy or Independant.

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 10:08 pm
gan Macsen
Rhys Llwyd a ddywedodd:Independant


Gwylia alln. Dyw'r Independant ddim yn Independant rhagor. Mae'r pobl sy'n cynhyrchu y Mirror wedi ei brynu fo.

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 10:28 pm
gan Rhys Llwyd
dwi ddim di brynnu fod ers symud i coleg actully