Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2003 11:00 am
gan Garnet Bowen
Y Guardian, o glawr i glawr, drwy'r wsnos (ac Observer ar ddydd Sul).

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2003 2:47 pm
gan Cwlcymro
Western Mail

PostioPostiwyd: Gwe 21 Tach 2003 4:08 pm
gan Fatbob
Beano.

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 12:16 am
gan Dylan
Guardian fel arfer. Er ei fod o'n ddiawl o beth i'w ddarllen ar y bws.

Papur o safon brôdshîts mewn maint tabloid fyddai'n ddelfrydol.

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 12:51 am
gan Marwolaeth
Ychydig o bopeth. Cadw meddwl agored. Yr Guardian ydw i'n cytuno fwyaf ag o, ond dyna ni.

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 9:27 am
gan Barbarella
Guardian i fi, os oes genna i amser i'w ddarllen - dwi'n tueddu i bori trwy'r erthyglau ar eu gwefan dyddiau hyn, a mond prynu'r fersiwn mawr dydd Sadwrn.

Ond cofiwch, mae'r gwahaniaeth rhwng tabloid a phapur lydan yn dechrau diflannu gan bod pawb eisiau bod yn dabloid erbyn hyn -- yr Independent eisoes yn gwerthu fersiwn tabloid yn Llundain, ac am ehangu, ac mae'r Times yn gwneud yr un peth wythnos yma!

http://media.guardian.co.uk/presspublishing/story/0,7495,1090446,00.html

Hen bryd hefyd -- mae'r tudalennau mawr na'n wirion, a dyw maint y papur ddim byd i wneud efo safon yr adroddiadau. Glywais stori mai'r rheswm fod papurau wedi mynd mor fawr oedd oherwydd bod treth arfer bod ar gyhoeddiadau ar sail nifer y tudalennau -- felly aeth maint y tudalennau'n fwy er mwyn cael llai ohonynt ac felly dalu llai o dreth![/url]

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 5:35 pm
gan Geraint Edwards
Di'r Express a'r Mail ddim yn bapurau wirioneddol tabloid na broadsheet, felly dylent gael categori eu hunain, y "tabsheet". Be dach chi'n ei feddwl?

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 9:06 pm
gan Hogyn o Rachub
Tabloid i mi. Fydda i'm yn cael llawer o fwynhad o ddarllen rhyw frôd-shîts mawr ocward. Braidd yn sych di nhw 'fyd.

(Ond mae'r Sun y peth gwaetha dan haul)

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 10:16 pm
gan RET79
Ohhh rydych chi'n darllen papurau diflas.

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 10:57 pm
gan Chwadan
Swn i wrth fy modd tasa'r Guardian yn faint tabloid achos ma mreichia i'n rhy dena i'w ddal o fyny am hir ar hyn o bryd :rolio: