Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2003 12:21 am
gan RET79
Tabloids yn fwy o hwyl.

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2003 12:47 am
gan Macsen
Hwyl? Ie.

Newyddion? Na.

Dim rhyfedd bod dy perception of reality di mor skwered.

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2003 10:38 am
gan Ifan Saer
Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Dim rhyfedd bod dy perception of reality di mor skwered.


Ar ol darllen mewn edefyn arall dy fod wedi cael cam a fod pobol yn bod yn ffiaidd tuag atot, sut alli di wedyn ddeud rwbath fel'ma mor ffwrdd a hi? efallai fod 'perception of reality' RET yn wahanol i dy un di, yn wir, mae'n wahanol i fy un i, ond mae ganddo'r hawl i'w farn.

Dim pwynt cwyno am beidio cael chwara' teg os nad wyt ti'n fodlon glynu at yr un rheolau.

A cofia, mae newyddiadurwyr fod i gynnig safbwynt balanced

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2003 11:23 am
gan Jacfastard
Telegraph yw'r boi.
Westyrn Mel ddim yn bad chwaith ond gormod o Zeta Jones a Sian Lloyd at yn nant i.

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2003 11:30 am
gan Garnet Bowen
Jacfastard a ddywedodd:Telegraph yw'r boi.


Mi nes i drio darllen y Telegraph am dipyn, ond mi on i'n ei weld o'n syrffedus. Dim oherwydd y gwleidyddiaeth, ond oherwydd ei fod o mor hen-ffasiwn. Dyna ydi rhinwedd mwya'r Guardian, i mi yn bersonol - y faith ei fod o'n ifanc ei naws. Mae cerddoriaeth boblogaidd a theledu yn cael gwell sylw yn y Guardian, ac mae'r adrannau llenyddiaeth yn ffantastic, yn enwedig y Saturday Review.

Dwi'n meddwl fod y Spectator yn lot gwell na'r Telegraph os wyt ti ishio darllen wbath difyr asgell-dde.

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2003 11:45 am
gan Jacfastard
O ni yn darllen yr Independent ond ma fe wedi mynd bach yn rhy soppy ers rhyfel Irac. Odd y rhyfel yn beth uffernol ond ath y papur yna bach dros y top.

PostioPostiwyd: Mer 26 Tach 2003 2:41 pm
gan Cwlcymro
Di'r Express a'r Mail ddim yn bapurau wirioneddol tabloid na broadsheet, felly dylent gael categori eu hunain, y "tabsheet". Be dach chi'n ei feddwl?


Oes ma gan y Mail gategori ei hyn. Cachu.