Marwolaeth a ddywedodd:Ddim yn meddwl bod y political compass yna yn effeithiol iawn. Mi fysai Hitler ar y chwith os fysai'r cwmpawd yn cael ei ffordd.
Mi fyswn i'n dweud dy fod ti ar y chwith, Dylan.
Mae na haneswyr di-ri yn dadlau yn gryf mai mudiad y chwith oedd y Natsiaid yn greiddiol, chith mewn cyd-destun cenedl wladwriaeth gref.
Os ti'n sbio ar ei record fewnol - 'Public Works', pwyslais ar addysg a iechyd a gwrthwynebiad i gyfalafiaeth ryngwladol mae yna le i dderbyn fod elfennau cryf o sosialaeth yn perthyn i'r 'National Socialists'.
I ddod yn ôl at y cwestiwn gwreiddiol, dwi'n credu mae polisiau y dde fyddai orau, ond dwi ddim yn derbyn diffinaid Ifan yn y cwestiwn gwreiddiol felly dwi heb fwrw pleidlais. Wedi'r cyfan, mae fy nealltwriaeth o waith Hayeck, Marsland neu Minford yn golygu fod yn rhaid newid y drefn - sy'n groes i geidwadaeth draddodiadol dyfyniad Ifan.
Dwi hefyd yn derbyn yn llwyr fod labels yn gor symleiddio dadl. Ar faterion megis economi a threthi dwi a RET yn cytuno ond rho ddadl i ni am hawliau pobl hoyw a dwi yn ffyrnig wrthwynebus i safbwynt RET. So be ydw i? A be di RET?
De a chwith - fel y dywedodd llawer, rhy syml.