Tudalen 1 o 2

Dde V. Chwith: Pa un sydd orau i Brydain ar y funud?

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 9:30 pm
gan Macsen
Dde: those who support political or social or economic conservatism; those who believe that things are better left unchanged

Chwith: those who support varying degrees of social or political or economic change designed to promote the public welfare


Pa un, ar y cyfan, sy'n tueddu o fod orau i Brydain? 'If it ain't broke, don't fix it', yntau 'nothing's perfect'?

Dwi probabli yn centre left ar y funud, ond efallai fy mod i'n anghywir. Mi oeddwn i unwaith. :winc:

PostioPostiwyd: Iau 20 Tach 2003 9:58 pm
gan Rhys Llwyd
Dwi'n sosialydd sydd hefyd yn credu mewn rhyddid, felly dwi ddim yn chith eithafol ond yn 'chwith'

PostioPostiwyd: Sul 23 Tach 2003 9:19 pm
gan Marwolaeth
Cymysgedd o'r ddau. Mae rhai pethau yn well fel mae nhw, a rhai pethau angen ei newid.

PostioPostiwyd: Sul 23 Tach 2003 10:16 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Chwith eithafol, ar hyn o bryd i unioni a gwrthbwyso'r difrod sydd wedi'i achosi gan gyfalafiaeth.

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 12:14 am
gan Dylan
amhosibl ateb

'Dydw i ddim yn hoff iawn o'r sbectrwm dde-chwith yma o gwbl. Lot rhy syml. Mae'n [url=www.politicalcompass.org[/url]gwmpas[/url] o leiaf neu hyd yn oed yn sffer. Dylid beirniadu pob dadl yn unigol yn hytrach na'u rhoi i gyd o dan rhyw label enfawr.

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 12:51 am
gan RET79
Dwi newydd wneud y political compass.

Your political compass
Economic Left/Right: 2.62
Libertarian/Authoritarian: 2.21


Ddim gymaint i'r dde ac roeddwn yn meddwl!

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 12:54 am
gan Marwolaeth
Ddim yn meddwl bod y political compass yna yn effeithiol iawn. Mi fysai Hitler ar y chwith os fysai'r cwmpawd yn cael ei ffordd.

Mi fyswn i'n dweud dy fod ti ar y chwith, Dylan.

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 9:22 am
gan Owain Llwyd
Marwolaeth a ddywedodd:Ddim yn meddwl bod y political compass yna yn effeithiol iawn. Mi fysai Hitler ar y chwith os fysai'r cwmpawd yn cael ei ffordd.

Mi fyswn i'n dweud dy fod ti ar y chwith, Dylan.


Mi o'n i'n darllen ddoe (ac mi ydw i yn methu yn llwyr â chofio lle, ond felly mae hi wrth heneiddio) fod rhai o'n cyfeillion ar y dde yn sôn am Hitler fel gwrth-gyfalafwr (pardduo gwrth-gyfalafwyr eraill drwy ensyniad, mae'n debyg, fatha pobl eraill yn bachu yn y ffaith bod Hitler ddim yn bwyta cig :ofn:). (Mi oedd o'n 'wrth-gomiwnyddol' pan oedd hynny'n gyfleus i rai o elites cyfalafol y Gorllewin yn y 30au, wrth gwrs, ac yn rheswm dros iddyn nhw ei gefnogi ar y pryd.)

Ta waeth am resymau cyfalafwyr dros dynnu sylw at hynny, ella, yn economaidd, doedd Hitler ddim mor bell â hynny i'r dde. Wrth gwrs, mi oedd o'n sgorio marciau llawn ar yr echelin 'awdurdodaidd', fel sy'n gweddu i unben.

Dw i'n cael yr ailfeddwl gan Political Compass ar ddulliau dosbarthu gwleidyddol yn reit ddifyr. Trueni bod chdi'n gweld yr hen batrwm de/chwith-a-dyna-ni yn ddigonol o hyd.

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 6:48 pm
gan RET79
Dwi yn cytuno a'r political compass, mae'n gwneud synnwyr, mwy o synnwyr na de a chwith i fi. Ond sylwer doedd dim enghreifftiau o libertarian ar y dde ar y cwmpawd.

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 9:27 pm
gan Ffinc Ffloyd
Pa bynnag un dydi <spit> Llafur ddim ydy'r gorau i Brydain ar y funud. Hold on - mi fysa hynny'n gwneud Michael Howard yn Brif Weinidog.

AAARGH!!

Son am caught between the devil and the deep blue sea.