Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 9:57 pm
gan Marwolaeth
Neu yr Lib Dems.

Son am caught between the devil and a sea of cheap whisky.

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 10:05 pm
gan Owain Llwyd
RET79 a ddywedodd:Dwi yn cytuno a'r political compass, mae'n gwneud synnwyr, mwy o synnwyr na de a chwith i fi. Ond sylwer doedd dim enghreifftiau o libertarian ar y dde ar y cwmpawd.


Ar un adeg, mi oedd Milton Friedman, un o gurus mawr neo-ryddfrydaeth, wedi'i nodi fel boi adain dde (iawn) libertaraidd, ond mae'r cwmpawd wedi cael ei ailwampio ers hynny.

PostioPostiwyd: Mer 26 Tach 2003 7:20 pm
gan Dylan
Dangos enghraifft o'r syniad oeddwn i'n ei wneud efo politicalcompass.org. 'Dw i ddim yn meddwl ei fod o'n wefan da iawn i ddweud y gwir. Hyd yn oed wrth roi yr atebion mwya ceidwadol 'dach chi dal yn dod allan rhywle wrth ymyl Gandhi. Sbiwch ar y cwestiynnau cyntaf yna. Buaswn i'n meddwl fyddai Ret hyd yn oed wedi dewis yr opsiynnau "chwith" i'r rheiny. :)

PostioPostiwyd: Mer 26 Tach 2003 8:01 pm
gan Boris
Marwolaeth a ddywedodd:Ddim yn meddwl bod y political compass yna yn effeithiol iawn. Mi fysai Hitler ar y chwith os fysai'r cwmpawd yn cael ei ffordd.

Mi fyswn i'n dweud dy fod ti ar y chwith, Dylan.


Mae na haneswyr di-ri yn dadlau yn gryf mai mudiad y chwith oedd y Natsiaid yn greiddiol, chith mewn cyd-destun cenedl wladwriaeth gref.

Os ti'n sbio ar ei record fewnol - 'Public Works', pwyslais ar addysg a iechyd a gwrthwynebiad i gyfalafiaeth ryngwladol mae yna le i dderbyn fod elfennau cryf o sosialaeth yn perthyn i'r 'National Socialists'.

I ddod yn ôl at y cwestiwn gwreiddiol, dwi'n credu mae polisiau y dde fyddai orau, ond dwi ddim yn derbyn diffinaid Ifan yn y cwestiwn gwreiddiol felly dwi heb fwrw pleidlais. Wedi'r cyfan, mae fy nealltwriaeth o waith Hayeck, Marsland neu Minford yn golygu fod yn rhaid newid y drefn - sy'n groes i geidwadaeth draddodiadol dyfyniad Ifan.

Dwi hefyd yn derbyn yn llwyr fod labels yn gor symleiddio dadl. Ar faterion megis economi a threthi dwi a RET yn cytuno ond rho ddadl i ni am hawliau pobl hoyw a dwi yn ffyrnig wrthwynebus i safbwynt RET. So be ydw i? A be di RET?

De a chwith - fel y dywedodd llawer, rhy syml.