gan Owain Llwyd » Mer 24 Rhag 2003 10:49 am
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:pogon_szczecin a ddywedodd:Ond y ffaith mae Moore yn fyd-enwog yn gwrthbrofi ei theori ei hun.
Ffycin chwerthinllyd, Pogon. Dyw'r ffaith fod un person wedi dod yn enwog ddim yn golygu nad yw hyn yn gyffredinol wir. Mae Moore wedi llwyddo drwy ei waith ei hun. Edrych ar y bobl sydd wedi cael y sac gan NBC, Disney ac ati am leisio barn amgen.
Mae hanes cyhoeddi
Stupid White Men yn tueddu i ategu barn Moore am ddiffyg llais os wyt ti'n tynnu'n groes i'r drefn. Mae rhyw gymaint o gefndir
yma.
Gwaith
grassroots caled gan Moore oedd wedi rhoid yr hwb cychwynnol i lwyddiant
Bowling for Columbine hefyd.
Wrth gwrs, mi oedd y ddau wedi codi stêm yn reit sydyn, a wedyn dyna rym elw yn agor drysau iddo fo, ynde.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.