Tudalen 1 o 3

Michael Moore

PostioPostiwyd: Sad 22 Tach 2003 1:34 am
gan RET79
Felly mae'r boi yma'n anghytuno'n chwyrn a Bush a'r ffordd mae America'n cael ei redeg. Iawn, felly pam na wnei di sefyll etholiad Michael?

PostioPostiwyd: Sad 22 Tach 2003 1:41 am
gan Macsen
Am nad oes ganddo ddigon o bobl cyfoethog Americ ar ei ochor. Mae'n boblogaidd gyda'r tlawd, ond mae nhw yn meddwl shit, nadydyn?

Rheswm arall yw na fysai fo'n fodlon rhedeg fel Democrat nag Republican, felly does ganddo ddim gobaith yn rhedeg fel trydydd parti.

A pam yn union ti'n dod a Micheal Moore fyny trwy'r amser, beth bynnag? Wyt ti'n meddwl ei fod o'n ryw fath o arwr i'r adain chwith ta be?

PostioPostiwyd: Sad 22 Tach 2003 2:02 am
gan RET79
Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Am nad oes ganddo ddigon o bobl cyfoethog Americ ar ei ochor. Mae'n boblogaidd gyda'r tlawd, ond mae nhw yn meddwl shit, nadydyn?

Rheswm arall yw na fysai fo'n fodlon rhedeg fel Democrat nag Republican, felly does ganddo ddim gobaith yn rhedeg fel trydydd parti.

A pam yn union ti'n dod a Micheal Moore fyny trwy'r amser, beth bynnag? Wyt ti'n meddwl ei fod o'n ryw fath o arwr i'r adain chwith ta be?


Pwy yn union yw'r bobl gyfoethog ti'n gyfeirio at - y bobl sydd yn rhedeg busnesau mwyaf llwyddianus America? Wel efallai y rheswm mae nhw ddim yn ffan o Moore yw mae nhw'n gallu gweld effaith uffernol fyddai polisiau Moore yn cael ar eu busnesau, ac felly economi y wlad.

PostioPostiwyd: Sad 22 Tach 2003 2:05 am
gan Macsen
ret a ddywedodd:Wel efallai y rheswm mae nhw ddim yn ffan o Moore yw mae nhw'n gallu gweld effaith uffernol fyddai polisiau Moore yn cael ar eu busnesau, ac felly economi y wlad.


Yn union. Fyswn i ddim eisiau fo fel arlywydd.

PostioPostiwyd: Sad 22 Tach 2003 8:03 am
gan nicdafis
Mae mwy nag un ffordd i weithredu yn wleidyddol o fewn cyfundrefn democratiaeth.

Anhebyg iawn byddai rhywun mor adain chwith รข Michael Moore yn cael ei ethol yn America, lle mae'r gair "liberal" yn rhegair. Gweler beth digwyddodd i Ralph Nader y tro diwetha. Yr unig effaith byddai Moore yn cael yw i dynnu digon o bleidleisiau o'r Democratiaid i wneud yn siwr bydd y Republicans yn "ennill" eto.

Gall Moore fod yn llawer mwy effeithiol i'r proses democratiaeth yn America gan sefyll ble mae e, tu allan i'r sustem etholiaedig, a bod yn ddilanwad ar y rhai o fewn y blaid Democrataidd sy'n debyg i weithredu polisiau mwy radicalaidd (yn y cydestun yma, llai ceidwadol). Mae'n bosib ein bod ni'n gweld hyn yn digwydd eisioes gyda Howard Dean.

PostioPostiwyd: Sad 22 Tach 2003 12:11 pm
gan Owain Llwyd
nicdafis a ddywedodd:Yr unig effaith byddai Moore yn cael yw i dynnu digon o bleidleisiau o'r Democratiaid i wneud yn siwr bydd y Republicans yn "ennill" eto.


Digon gwir bod llawer o bobl wedi pleidleisio dros Nader a fyddai wedi cefnogi Gore fel arall, ond, yn gyffredinol, mi ges i fod hwn yn esgus rwydd i'r Democratiaid. Tasen nhw wedi rhedeg gwell ymgyrch, digon posibl gallsen nhw fod wedi ennill cefnogaeth rhai o'r 50% neu'i gilydd o'r etholwyr wnaeth ddim ymdrafferthu i fwrw pleidlais yn y lle cyntaf. Hen rawnwin surion ydi dweud bod Nader yn gyfrifol am y methiant yma.

PostioPostiwyd: Sad 22 Tach 2003 12:34 pm
gan RET79
Sdim rhaid i Moore drio am arlywydd yn syth, geith o sefyll lecsiwns llai. Dyna'r gwir dest i'w wleidyddiaeth.

PostioPostiwyd: Sad 22 Tach 2003 1:17 pm
gan Macsen
Mi fysai gan Moore hefyd nifer iawn o'r media Americanaidd yn ei erbyn. Mae nhw'n adain dde iawnb yno, ac felly go debyg y buasai nhw yn tueddu i ddangos yr ochor waethaf ohono.

Esiampl o farn Fox News tuag at yr awdur: http://www.foxnews.com/story/0,2933,48562,00.html

PostioPostiwyd: Sad 22 Tach 2003 1:52 pm
gan RET79
Mae'r linc yna'n dangos ei fod o'n enghraifft arall o ragrith y chwith.

PostioPostiwyd: Sad 22 Tach 2003 2:00 pm
gan Macsen
RET a ddywedodd:Mae'r linc yna'n dangos ei fod o'n enghraifft arall o ragrith y chwith.


Digon teg. Dw i ddim yn hoffi'r boi llawer. Ond dw i hefyd wedi dysgu i beidio cymeryd o ddifri unrhywbeth mae Fox News yn ei ddweud.