Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Sad 22 Tach 2003 5:46 pm
gan nicdafis
RET79 a ddywedodd:Sdim rhaid i Moore drio am arlywydd yn syth, geith o sefyll lecsiwns llai. Dyna'r gwir dest i'w wleidyddiaeth.


Felly yr unig pobl sydd gyda'r hawl i fynegi barn am wleidyddiaeth yw'r rhai sy'n sefyll mewn etholiadau?

Mae gwleidyddiaeth yn rhan o fywyd bob un ohonon ni, yn effeithio ar bob un ohonon ni, ac yn gyfrifoldeb i bob un ohonon ni. Dw i'n gallu meddwl o sawl maes lle mae'n syniad da i'w "adael i'r proffesiynolwyr", ond dydy gwleidyddiaeth ddim yn un ohonyn nhw.

PostioPostiwyd: Sad 22 Tach 2003 8:39 pm
gan RET79
nicdafis a ddywedodd:
RET79 a ddywedodd:Sdim rhaid i Moore drio am arlywydd yn syth, geith o sefyll lecsiwns llai. Dyna'r gwir dest i'w wleidyddiaeth.


Felly yr unig pobl sydd gyda'r hawl i fynegi barn am wleidyddiaeth yw'r rhai sy'n sefyll mewn etholiadau?

Mae gwleidyddiaeth yn rhan o fywyd bob un ohonon ni, yn effeithio ar bob un ohonon ni, ac yn gyfrifoldeb i bob un ohonon ni. Dw i'n gallu meddwl o sawl maes lle mae'n syniad da i'w "adael i'r proffesiynolwyr", ond dydy gwleidyddiaeth ddim yn un ohonyn nhw.


Wnes i ddim dweud hyn o gwbl. Os yw'r boi yma'n wir gredu yn beth mae'n ei ddweud ac yn hynod o gritical o'r system yna pam ddim sefyll yn eu erbyn?

Digon hawdd bod yn yr 'opposition' dy holl fywyd a bod yn gritical o bawb sydd wedi mentro. Efallai os byddai Mr Moore yn cael ei ethol, sy'n anhebygol tu hwnt beth bynnag, yna byddai pawb yn gallu gweld pa mor ddi ddim yw ei syniadau er gwaethaf yr holl swn mae'n wneud.

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 12:11 am
gan Dylan
Mae Michael Moore yn cefnogi Ralph Nader mewn etholiadau. 'Dw i'n cytuno â Nic ei fod o'n llawer mwy effeithiol yn ymgyrchu ac yn gwneud yr un hyn y mae yn ei wneud rwan na fel gwleidydd.

Ond mae dy ddadl yn un od beth bynnag. Fel ddywedodd Nic, oes rhaid sefyll etholiadau er mwyn ennill yr hawl i fynegi barn gwleidyddol?

'dydw i ddim y ffan mwyaf o'r boi chwaith cofia

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 1:10 am
gan Marwolaeth
RET79 a ddywedodd:Os yw'r boi yma'n wir gredu yn beth mae'n ei ddweud ac yn hynod o gritical o'r system yna pam ddim sefyll yn eu erbyn?


Mi fysai fo yn chwarae ar ei termau nhw wedyn. Dwi ddim yn meddwl bod angen i Micheal Moore sefyll etholiad fel ryw fath o brawf i boblogrwydd ei wleidyddiaeth. Mae poblogrwydd ei lyfrau a'i ffilmiau wedi ateb y cwestiwn yna yn barod.

A lle fysa fo'n ceisio am etholeidigaeth? Os fysai fo'n curo mewn man adain chwith, neu colli mewn lle adain dde, be fuasain hynny'n ei brofi?

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 1:21 am
gan RET79
Marwolaeth a ddywedodd: Dwi ddim yn meddwl bod angen i Micheal Moore sefyll etholiad fel ryw fath o brawf i boblogrwydd ei wleidyddiaeth. Mae poblogrwydd ei lyfrau a'i ffilmiau wedi ateb y cwestiwn yna yn barod.


Mae pobl yn darllen ei lyfr a gwylio ffilmiau fel ryw fath o adloniant. Mae lot o bobl yn cefnogi a rhai o'i safiad yn erbyn cwmniau mawr weithiau ond dyw hyn ddim yn golygu buasen nhw eisiau i Moore redeg y wlad.

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 1:25 am
gan Marwolaeth
RET79 a ddywedodd:Mae lot o bobl yn cefnogi a rhai o'i safiad yn erbyn cwmniau mawr weithiau ond dyw hyn ddim yn golygu buasen nhw eisiau i Moore redeg y wlad.


Pwy erioed ddywedodd bod unrhyw un am iddo redeg y wlad? Neb ar Maes-E, beth bynnag.

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 2:26 am
gan mred
Does mond rhaid edrych ar record y Blaid Lafur ers ei hethol i weld y modd mae'r holl broses wleidyddol - democratiaeth un bleidlais bob pum mlynedd a dyna ni, yn ol at y teledu - wedi'i gwyrdroi i wasanaethu corfforaethau a buddiannau busnes.

Barn y bobol? 96% yn erbyn preifateiddio'r gwasanaeth iechyd? Mwyafrif mawr yn erbyn cnydau GM? Amherthnasol.

Un dyn <B>heb ei ethol</B>, ac yn byw yn Mericia - Murdoch - yn mynd i droi tu min? Penawdau negyddol yn y Sun? Tin yn rawyr Tony (cynghanedd?? :) ).

Pam y dylai Michael Moore a phawb sy o ddifrif am weld newidiadau wastraffu amser yn ceisio cymryd rhan mewn proses sy gymaint dan fawd y buddiannau breintiedig maen nhw'n eu gwrthwynebu.

Mae hygrededd ein math ni ar ddemocratiaeth - <B>mae</B> mathau eraill cofier - wedi'i danseilio'n llwyr, ac mi wyr pawb hynny. Dyma pam fod gyn lleied yn pleidleisio bellach - llai nag 20% o'r to iau yn etholiadau'r Cynulliad.

Waeth beth yw lliw'r blaid, yr un yw'r meistr.

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 9:32 am
gan Owain Llwyd
mred a ddywedodd:Does mond rhaid edrych ar record y Blaid Lafur ers ei hethol i weld y modd mae'r holl broses wleidyddol - democratiaeth un bleidlais bob pum mlynedd a dyna ni, yn ol at y teledu - wedi'i gwyrdroi i wasanaethu corfforaethau a buddiannau busnes.

Barn y bobol? 96% yn erbyn preifateiddio'r gwasanaeth iechyd? Mwyafrif mawr yn erbyn cnydau GM? Amherthnasol.

Un dyn <B>heb ei ethol</B>, ac yn byw yn Mericia - Murdoch - yn mynd i droi tu min? Penawdau negyddol yn y Sun? Tin yn rawyr Tony (cynghanedd?? :) ).

Pam y dylai Michael Moore a phawb sy o ddifrif am weld newidiadau wastraffu amser yn ceisio cymryd rhan mewn proses sy gymaint dan fawd y buddiannau breintiedig maen nhw'n eu gwrthwynebu.

Mae hygrededd ein math ni ar ddemocratiaeth - <B>mae</B> mathau eraill cofier - wedi'i danseilio'n llwyr, ac mi wyr pawb hynny. Dyma pam fod gyn lleied yn pleidleisio bellach - llai nag 20% o'r to iau yn etholiadau'r Cynulliad.

Waeth beth yw lliw'r blaid, yr un yw'r meistr.


Wel, dyna grynhoi yn fras sut dw i'n teimlo am bethau ar hyn o bryd hefyd.

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 12:30 pm
gan Cwlcymro
Yn gynta RET, cymera ar ddalld nad Duw y Chwith ydi Micheal Moore.
Ma'n gallu bod yn ddoniol, ma'n gallu bod yn uffernol o effeithiol wrth gael ei safbwynt ar draws, ond mae hefyd 'over the top'.

Mewn rhei ffyrdd mi elli di ei gymharu fo efo Galloway. Ma'r gred yn y petha iawn, weithia, ond ma rhy 'ecstrim' i'r rhan fwya o bobl.

Ma 'Bowling for Comlumbine' yn ffilm dda, ac yn llawn ffeithia, ond wrth ei wylio ma'n RAID cofio pa mor un-ochrog ma di cael ei wneud. 'Selective' ydi ei ffeithia fo, math o bropoganda.

Am y busnas sefyll etholiad, pam? Oes raid i bob aelod o Gymdeithas yr Iaith sefyll am ei cyngor nhw i weld pa mor boblogaidd ydy nhw? Oes raid i Rupert Murdoch sefyll am etholiad cyn cael gwthio ei bropoganda fo arnom ni? Ddylsa Starling (lle ma hwnnw dyddia yma da!) sefyll am etholiad cyn sgwennu ei gachu fo?

Ma na sawl ffordd o fod yn rhan o wleidyddiaeth, ma sefyll am etholiad mond yn un ohonym nhw. Ma na rei pobl yn llawer mwy effeithiol tu allan i'r system.

PostioPostiwyd: Llun 24 Tach 2003 9:25 pm
gan Ffinc Ffloyd
Yn fy marn i mae'r mwyafrif o'r sylwadau uchod yn methu'r pwynt. Beth bynnag da chi'n feddwl o Moore a'i syniadau (a dwi'n digwydd bod yn gefnogwr rhonc - nid syniadau o eithafion yr asgell chwith ydi ei bod hi'n anfoesol ac anghywir i fusnesau mawr gael diswyddo miloedd er mwyn gwaith, na fod rhyfel America ac Irac yn anghyfreithlon), mae o yn gwneud i bobl America feddwl am beth y mae'r llywodraeth yn wneud yn ddiarwybod iddyn nhw (a mae o'n ddiarwybod - mae Fox News a'i gyfoedion yn hollol, hollol shit) a heb eu cefnogaeth. Mae o'n cyflwyno ochr arall y ddadl, a licio fo neu beidio, mae'r boi yn siarad sens. Dwi'm yn gweld rhagrith mewn bod yn aelod o'r NRA a bod yn siarad am reolaeth dynnach ar ynnau - di o ddim am weld gynnau'n cael eu gwahardd. Ond ar y funud yn America, mi allwch chi brynu gynnau peryg iawn (hy, mae pob gwn yn beryglus, ond at assault weapons dwi'n cyfri) efo chydig iawn o drafferth. Sens ydi deud fod angen rheolaeth arnyn nhw, nid rhagrith.

Os ydi hi'n ddewis rhwng Michael Moore a'i debyg a George Bush, Newt Gingrich, Rush Limbaugh, Donald Rumsfeld, Jesse Helms a Dick Cheney, dwi'n gwbod pwy swn i'n ddewis.