Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Mer 26 Tach 2003 2:43 pm
gan Cwlcymro
Ma hunna yn wir Ffinc. Ma'n cal gymaint o sylw ma'i negas o yn cyrraedd llawer mwy o glustiau na unrhyw 'leftie' arall yn America.
Ella ei fod o'n gwneud ffwl o'i hyn ar adega, ond weithia dyna'r unig ffordd o gael sylw.
Yr unig broblem ydi ei fod o'n gocyn hitio hawdd i unrhywun sydd eisiau dadla yn erbyn chwith America.

PostioPostiwyd: Mer 03 Rhag 2003 9:28 am
gan Chris Castle
Os yw'r boi yma'n wir gredu yn beth mae'n ei ddweud ac yn hynod o gritical o'r system yna pam ddim sefyll yn eu erbyn?

Prif beirniadaeth Moore o'r sustem America yw'r diffyg siawns cael eich clywed petaech chi yn erbyn y drefn.

Dyw cwmniau mawr ddim yn fodlon rhoi gwrandawiad ar "Radicaliaid" ("comiwnyddion ydynt i gyd") ar y rhwydweithiau teledu a Radio. Mae newyddion yn adlewyrchu safbwynt y Llywodraeth. Dyw ran fwyaf o gyfryngau America ddim yn cynnig Newyddion fel rhan o'u amserlennau er enghraifft.

Dewis rhydd ichi:
Republican/DEmocrat
Pepsi/Coke
Nike/Adidas
Christina/Britney
General Motors/Ford
ayyb

PostioPostiwyd: Mer 10 Rhag 2003 9:53 pm
gan Madrwyddygryf
Chris Castle a ddywedodd:

Wek mae hynny yn gorddeud hi. Mae America yn wlad ceidwadol iawn.

PostioPostiwyd: Mer 24 Rhag 2003 8:52 am
gan Smyrffen
mae'n haws i Mr Moore feirniadu system gyfredol na gweithredu i newid pethe drwy sefyll etholiad.

O leia mae e wedi annog mwy o bobl America i ddarllen llyfre - pobl yn fwy tebygol o ddarllen llyfre ar ol gweld ei ffilm e.

Addysgu pobl America yn gam i'r cyfeiriad iawn, nagyw e?

PostioPostiwyd: Mer 24 Rhag 2003 10:02 am
gan pogon_szczec
Chris Castle a ddywedodd:
Prif beirniadaeth Moore o'r sustem America yw'r diffyg siawns cael eich clywed petaech chi yn erbyn y drefn.

Ond y ffaith mae Moore yn fyd-enwog yn gwrthbrofi ei theori ei hun.

PostioPostiwyd: Mer 24 Rhag 2003 10:27 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
pogon_szczecin a ddywedodd:Ond y ffaith mae Moore yn fyd-enwog yn gwrthbrofi ei theori ei hun.

Ffycin chwerthinllyd, Pogon. Dyw'r ffaith fod un person wedi dod yn enwog ddim yn golygu nad yw hyn yn gyffredinol wir. Mae Moore wedi llwyddo drwy ei waith ei hun. Edrych ar y bobl sydd wedi cael y sac gan NBC, Disney ac ati am leisio barn amgen.

PostioPostiwyd: Mer 24 Rhag 2003 10:49 am
gan Owain Llwyd
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
pogon_szczecin a ddywedodd:Ond y ffaith mae Moore yn fyd-enwog yn gwrthbrofi ei theori ei hun.

Ffycin chwerthinllyd, Pogon. Dyw'r ffaith fod un person wedi dod yn enwog ddim yn golygu nad yw hyn yn gyffredinol wir. Mae Moore wedi llwyddo drwy ei waith ei hun. Edrych ar y bobl sydd wedi cael y sac gan NBC, Disney ac ati am leisio barn amgen.

Mae hanes cyhoeddi Stupid White Men yn tueddu i ategu barn Moore am ddiffyg llais os wyt ti'n tynnu'n groes i'r drefn. Mae rhyw gymaint o gefndir yma.

Gwaith grassroots caled gan Moore oedd wedi rhoid yr hwb cychwynnol i lwyddiant Bowling for Columbine hefyd.

Wrth gwrs, mi oedd y ddau wedi codi stêm yn reit sydyn, a wedyn dyna rym elw yn agor drysau iddo fo, ynde.