Tudalen 1 o 2

Hamiltons

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2003 12:47 am
gan RET79
Beth yw eich barn am y cwpl hyn?

Yn bersonol sgen i ddim llawer o amser i'r ddau a mae nhw ym mhobman dyddie yma. :x

Roeddwn i'n meddwl fod nhw'n bankrupt? Yw nhw nol yn y du ar ol yr holl jobs teledu eto?

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2003 2:48 am
gan Macsen
Wn i ddim byd amdanyn nhw, heblaw am yr enw cyfarwydd.

Fyset ti'n fodlon fy llenwi i mewn?

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2003 2:48 am
gan mred
Be 'di 'i pwynt nhw? Be ma nhw'n neud? Pam mae nhw'n bod? Atebwch fi!!! Arrghh!!! Ditto pob selebriti, 'blaw rheini efo pen-ola del a nain o Stiniog.

PostioPostiwyd: Maw 25 Tach 2003 2:56 am
gan Macsen
Ond dwi i ddim yn meddwl mai cwyno am celebrities mae RET. Mae o'n darllen y tabloids. "Llawer mwy diddorol"

Mred, pam fod genti lun o Tom Bombadil yn dy rithffurf?

Ring ding a dillo!

PostioPostiwyd: Mer 26 Tach 2003 12:34 am
gan RET79
mred a ddywedodd:Be 'di 'i pwynt nhw? Be ma nhw'n neud? Pam mae nhw'n bod? Atebwch fi!!! Arrghh!!! Ditto pob selebriti, 'blaw rheini efo pen-ola del a nain o Stiniog.


Mae nhw'n embaras i nhw eu hunain a dwi'n siwr fod llawer yn y blaid doriaidd yn teimlo embaras mawr yn eu gweld mewn rhaglenni teledu cheap ar y diawl byth a beunydd.

PostioPostiwyd: Mer 26 Tach 2003 12:47 am
gan Newt Gingrich
Ac yn waeth na hyn oll mae Neil Hamilton yn Gymro ac yn raddiedig o Brifysgol Aberystwyth.

Ych a fi.

PostioPostiwyd: Mer 26 Tach 2003 10:41 am
gan nicdafis
Ifan, oedd <a href="http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk_politics/572559.stm">Neil Hamilton</a> yn Aelod Seneddol dros rhan o Swydd Gaer, ond collodd ei sedd i Martin Bell (cyn-ohebedd y BBC, y "dyn yn i siwr gwyn") yn etholiad 1997, ar ôl sgandal mawr ynglyn â derbyn arian oddi wrth Mohamed al-Fayed. Ers hynny, mae e a'i wraig wedi mynd ati i adeiladu gyrfa fel personaliaethau teledu, gan ymddangos ar unrhyw rhaglen teledu a fydd yn eu cymryd.

PostioPostiwyd: Mer 26 Tach 2003 2:40 pm
gan mred
Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Mred, pam fod genti lun o Tom Bombadil yn dy rithffurf?

Ring ding a dillo!

Dewis rhwng Tom Bombadil a Lloyd George oedd hi, ond do'n i ddim isio brolio... Beth bynnag, wnest ti ddim gadael i'r Saeson losgi dy dŷ a chymryd mantais ar dy wraig? :)

Y gwaethaf o'r gwaethaf - ac mae hynny'n deud llawer yn wyneb safonau 'poblogaidd' y BBC - oedd Christine Hamilton yn fflyrtian ac eistedd ar lin Louis Theroux <A HREF=http://news.bbc.co.uk/1/hi/entertainment/tv_and_radio/1488549.stm>http://news.bbc.co.uk/1/hi/entertainment/tv_and_radio/1488549.stm</A>. Codi pwys ddigon i gynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad.

PostioPostiwyd: Mer 26 Tach 2003 2:40 pm
gan Cwlcymro
A rwan ma'r hen Major Ingram a'i wraig efo blys ar fod yn y Hamiltons newydd.
Ma gyrfa Neil Hamilton a Ingram drosodd, ma nhw yn enwog am y rhesyma anghywir (twyllo) a rwan ma nhw dros ein teledu ni gyd ar raglenni sydd yn gwneud ffwl llwyr ohonynt. Pam ma pobl yn hapus i fod yn gymaint o embarass dwni ddim!

PostioPostiwyd: Mer 26 Tach 2003 3:16 pm
gan Geraint
Cwlcymro a ddywedodd:Pam ma pobl yn hapus i fod yn gymaint o embarass dwni ddim!


Mae o gyd am y Benjamins