Tudalen 1 o 2

Chris Bryant

PostioPostiwyd: Maw 02 Rhag 2003 2:01 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Mae hyn jyst yn ddoniol.

Rhydd i bawb wneud beth a fynnont, ond os y'ch chi'n AS, ac yn hala llun o'ch hunan yn eich trons at rywun, wel...

PostioPostiwyd: Maw 02 Rhag 2003 2:46 pm
gan DAN JERUS
ddyle chi weld y rhai o mam y crafwyr sy'n gneud y rounds....

PostioPostiwyd: Mer 03 Rhag 2003 9:05 am
gan Chris Castle
"Rhondda Labour Party members are pleased to have a hard-working MP and fully support him in getting on with his job," she added.

At his end of term briefing on Tuesday, First Minister Rhodri Morgan said he did not know "what all the fuss was about".

Mr Bryant, he added, had never made a secret of being gay, and that it was a private matter for him and his constituency Labour party.

He added that it was "one of those stories that gay people have to put up with from time to time".


Dim byd doniol. Cafodd Chris Bryant ei fradychu gan rhywun oedd yn esgus bod yn ffrind.

PostioPostiwyd: Mer 03 Rhag 2003 9:50 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
OK, nid doniol o reidrwydd, ond mae'n rhaid i ti gyfaddef y dylai rhywun yn ei safle fe fod yn fwy gwyliadwrus, boed fod y person y mae'n anfon y llun ato yn ffrind ai peidio.

PostioPostiwyd: Mer 03 Rhag 2003 11:39 am
gan Chris Castle
dylai rhywun yn ei safle fe fod yn fwy gwyliadwrus, boed fod y person y mae'n anfon y llun ato yn ffrind ai peidio.


Dyw Chris Bryant ddim yn cuddio ei fod e'n dyn hoyw sengl. Felly nid ein busnes ni yw ei fywyd rhywiol.
Trythyll llwyr (prurient) yw'r wasg felen sy'n printio'r fath beth ar gyfer ysglyfaethion rhagfarnllyd sy'n poeri'r papurau am ei cics voyeuriaidd.

Sori os dwi'n bod yn ciljoy ond mae barn cryf 'da fi am bethau fel hyn.

PostioPostiwyd: Mer 03 Rhag 2003 11:54 am
gan eusebio
Ond petai AS wedi gyrru llun ohonnoi'i hun (boed ddyn neu dynes) yn ei (d)dillad isaf, byddai'r papurau yn llawn o'r un math o straeon.

Nid y ffaith ei fod yn hoyw yw'r stori yn fy nhyb i, ond y ffaith ei fod yn gyrru llyniau ohonno'i hun yn ei drons i bobol diarth.

PostioPostiwyd: Mer 03 Rhag 2003 12:16 pm
gan Mr Gasyth
Cytuno'n llwyr Eusebio.
Ges i'r drafodaeth yma efo person hoyw dwi'n adnabod ddoe a roedd o'n meddwl mai rhagfarn hoyw oedd tu ol i'r stori. Ond tase AS hetero-rywiol yn gneud hyn, mi fuase'r stori yn y papurau yn union run fath. Nid ei rywioldeb o di'r stori, ma pawb yn gwbod fod Chris Bryant yn hoyw, ond y ffaith ei fod o'n mynd o gwmpas ffeindio partneriaid mewn ffordd nad yw'n addas i berson yn ei safle fo.

PostioPostiwyd: Mer 03 Rhag 2003 12:39 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
eusebio a ddywedodd:Nid y ffaith ei fod yn hoyw yw'r stori yn fy nhyb i, ond y ffaith ei fod yn gyrru llyniau ohonno'i hun yn ei drons i bobol diarth


Hollol. Paid trio gweud mai'r hyn yw'n gweud yw y dylai fe fod yn wyliadwrus am ei fod e'n hoyw. Dyle fe fod yn wyliadwrus am ei fod e'n AS ac felly'n gorfod ymddangos ei fod yn barchus ac yn arwain drwy esiampl ac ati.

PostioPostiwyd: Mer 03 Rhag 2003 12:51 pm
gan Cardi Bach
C'mon, os rhywun wirioneddol yn gweld hwn fel ymosodiad homoffobaidd?!
Yn amlwg fod yna, ond yn mae'n amlycach nad dyna yw e!
Y Mail - gelyn a 'scourge' y Blaid Lafur nath hyn, a hynny i un o AS's ifanc mwya blaenllaw y llywodreth Blairaidd (sydd yn agosach at fod yn fwy Blair na Blair ei hunan), ac wedi dechre ennill proffeil uchel iw hunan.

Fi'n credu fod Bryant wedi bod yn ffol iawn, ac yn wahanol i beth wyt ti Chris yn awgrymu, oleia yn adroddiade y wasg, ddim ffrind iddo fe nath ei adel e lawr, ond 'dieithrin'.

Ma hala llun hanner porcyn o fe i hunan, gan werthu ei hunan fel twlsyn rhyw, dros y we i rywun dieithr, yn ymylu ar fod yn dwp eithriadol!

PostioPostiwyd: Mer 03 Rhag 2003 2:31 pm
gan Chris Castle
eusebio a ddywedodd:Ond petai AS wedi gyrru llun ohonnoi'i hun (boed ddyn neu dynes) yn ei (d)dillad isaf, byddai'r papurau yn llawn o'r un math o straeon.


Byddai fy ymateb wedyn yn union fel yr oedd yn yr achos yma.

aled a ddywedodd:fod o'n mynd o gwmpas ffeindio partneriaid mewn ffordd nad yw'n addas i berson yn ei safle fo.


Pam y mae rhaid i rwyioldeb aelod seneddol bod yn fwy addas nag yw rhwyioldeb unrhywun arall?
Dyna'r pwynt dwi'n trial gwneud nid jyst y homoffobia y tu ôl i'r erthyglau yn y wasg felen. Sydd yna beth bynnag mae cardi'n dweud. Ond soniais am ei rywioldeb mewn ysytyr manwl (anfon lluniau), nid jyst ei rywioldeb hoyw.

Wnes i bwyntiau tebyg wedi marwolaeth Phil Williams. Dyw rhyioldeb y dyn (hoffi puteinio yn achos Phil) ddim yn gytbwys i'w fywyd na'i gyrfa.

cardi bach a ddywedodd:ddim ffrind iddo fe nath ei adel e lawr, ond 'dieithrin'


Neges inni i gyd peidio ymddyried ym mhobl ar y we wrth gwrs. Ffolindeb yw'r fath ymddygiad gan rhywun a ddylai fod wedi gwbod i fod e'n darged amlwg i'r fath sgam, ond eto mae'n gas 'da fi'r safonau dwbl sy'n lambastio'r dyn gan fwynhau'r lluniau.

Camgymeriad yw ymddygiad rhywiol gyda dieithrin llwyr yn fy marn i. Ond dwi'n gwrthod beirniadu'r pobl sy'n i'w gwneud. (onibai eu bod nhw'n ofalus dros salwch rhywiol). Mae hawl 'da Chris Bryant ymddwyn fel y mae fe; onibai ei fod e'n peidio â dweud wrth erill beth i'w gwneud.