Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Mer 03 Rhag 2003 4:10 pm
gan Mr Gasyth
Mae hon felly'n ddadl ehangach am hawl gwleidyddion i breifatrwydd yn eu bywyd personnol. Mae sawl gwleidydd hetero-rywiol yn y gorffennol wedi canfod eu hunain yn y wasg o achos eu rhywioldeb, unai am gael 'affair', mynd efo putain, neu bob math o bethau eraill.
Y pwynt ydi nad am ei fod o'n hoyw ma Bryant wedi canfod ei hun yn destun y stori yma, ond am ei fod o wedi gwneud peth gwirion. Cyd-ddygwyddiad ydi ei fod o'n hoyw yng nghyd-destun y stori.

Chris Castle a ddywedodd:Pam y mae rhaid i rwyioldeb aelod seneddol bod yn fwy addas nag yw rhwyioldeb unrhywun arall?


Does dim rhaid iddo fo fod. Mi fase unrhywun yn wirion ac anghyfrifol i wneud y fath beth, beth bynnag fo'u swydd neu eu rhywioldeb.