Cynrychiolaeth Gyfrannol - Da neu Ddrwg?

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Iau 18 Rhag 2003 11:55 am

Chwadan a ddywedodd:Fel ma petha, ma system Prydain yn cael ei edmygu gan wledydd sydd â chynrychiolaeth gyrfannol gan ei bod yn arwain at lywodraethau cryf - sbiwch ar system Ffrainc ac mi welwch pam.


Chwadan a ddywedodd:Ddudwn ni fod Llafur a'r Lib Dems yn ffurfio llywodraeth a gwrthblaid o dan gynrychiolaeth gyfrannol. Wyt ti'n meddwl fod consensws llwyr rhwng prif bleidia yn beth da?


Trio ffeindio cydbwysedd ydi'r peth anodd. A dwi'n derbyn dy ddadl di fod y system Gymreig yn un eithaf effeithiol ar wneud hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 18 Rhag 2003 12:20 pm

Dw i'm yn hoff o'r sustem FPTP presennol, ond fel sy wedi'i ddeud, digon tebyg na fyddai na ddigon o gonsensws rhwng y pleidiau mewn sustem gyfrannol i ffurfio llywodraeth ... hynny neu flynyddoedd maith o glymblaid Llafur-Dem Rhydd!!

Hoffwn i weld cymysgedd o'r ddau sustem. Beth am rhywbeth fel 50% yn seddau ffyrst past ddy post, a'r 50% arall yn rhai cyfrannol (y nifer o seddau yn cael ei benderfynu gan nifer o bleidleisiau a gaed yn y bleidlais FPTP)?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Boris » Gwe 19 Rhag 2003 7:21 pm

Drwg.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Dylan » Sad 20 Rhag 2003 7:34 am

er mai nid fi wnaeth ddechrau'r edefyn yma ('dw i'n cymryd mai Nic wnaeth wahanu hwn o'r edefyn arall wedi i hwnnw fynd off ar dangiad braidd - Saddam, C.G., yr un peth. ahem)....ym, elli di ymhelaethu ychydig bach Boris?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Boris » Llun 22 Rhag 2003 11:27 am

Dylan a ddywedodd:er mai nid fi wnaeth ddechrau'r edefyn yma ('dw i'n cymryd mai Nic wnaeth wahanu hwn o'r edefyn arall wedi i hwnnw fynd off ar dangiad braidd - Saddam, C.G., yr un peth. ahem)....ym, elli di ymhelaethu ychydig bach Boris?


O ni dan yr argraff mae cwestiwn da/drwg oedd yma.

Dwi'n amheus iawn o gynrychiolaeth gyfrannol am sawl rheswm.

1. Arwain at 'deals' tu ôl i'r llenni rhwng pleidiau ac felly democratiaeth ddim yn berthnasol. Enghraifft wych oedd 'breakthrough y Blaid Lafur yn Iwerddon tua 1991 pam gawson nhw tua 25% o'r bleidlais a difrodi Finna Gael a Finna Fail. Be ddaru nhw? Cyfarfodydd dirgel a cadw Finna Fail, sef y blaid oedd wedi denu llid yr etholwyr, mewn grym. Drewi ta be?

2. Agor y drws i belidiau eithafol. Heb Mitterand yn cyflwyno PR fyddai'r Front National erioed wedi dod yn rym yn Ffrainc.

3. Rhoi grym i bleidiau nid pobl. Pan chwalwyd Helmut Kohol(?) gan y Social Democrats nol yn 98/99 fe gollodd Kohol, Prif Weinidog ers deunaw mlynedd, ei sedd. Tebyg i Portillo yn colli yn 97, ond llawer mwy ysgytwol (dychmygwch Blair yn colli Sedgfield). Y bore canlynol 'roedd Kohol yn ôl yn y Senedd. Sut? Achos y fo oedd rhif un ar restr PR ei blaid. Er gwaethaf barn y bobl roedd o'n nol.

4. Aelodau rhestr yma yng Nghymru. I pwy mae nhw'n atebol? Neb ond y pleidiau sy'n eu dewis. Yw hyn yn iawn? Nid etholwyr gogledd Cymru roddodd y sac i Peter Rogers ond aelodau toriaidd y gogledd. Pa fath o berthynas sy'n bodoli felly rhwng yr aelodau 'rhanbarthol' hyn a'r bobl sy'n ei hethol. Mae pawb yn gwybod mae cadw aelodau dy blaid yn hapus yw'r ffordd i gadw dy sedd.

5. PR senedd Ewrop. What's the point? Mae Eurig Wyn MEP eisioes yn cyfaddef fod ei gyfnod ym Mrwsel yn dod i ben haf nesaf ac felly mae wedi mynd i Ynys Mon. Pam y derbyniad yma o'i sefyllfa? Yn syml oherwydd fod Jill Evans wedi ei rhoi yn rhif un ar restr PC o ymgeiswyr.

Dwi'n fodlon dweu 'rwan mae aelodau Ewropeaidd nesaf Cymru fydd (mewn trefn ethol);

1. Glenys Kinnock
2. Jonathan Evans
3. Jill Evans
4. Eluned Morgan

Democratiaeth? Dim ond i aelodau'r pleidiau sy'n dewis.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan RET79 » Llun 22 Rhag 2003 7:02 pm

Cytuno 100% boris.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Chris Castle » Maw 23 Rhag 2003 11:18 am

Gyda'r systemau pleidiau sydd 'da ni peth drwg yw e - yn anffodus.

Hoffwn i weld llywodraethau consensws fel roedd Ron Davies yn trio creu. Ond rhy anaeddfed yw'r cyfundrefn/poblogaeth Prydeinig.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Boris » Maw 23 Rhag 2003 11:33 am

Chris Castle a ddywedodd:Hoffwn i weld llywodraethau consensws fel roedd Ron Davies yn trio creu. Ond rhy anaeddfed yw'r cyfundrefn/poblogaeth Prydeinig.


Onid agwedd Stalinaidd sy'n dweud nad yw'r bobl yn ddigon aeddfed i ddeall? Y cam cyntaf i system unbeniaethol. Twt twt Chris.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Nôl

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron