Dylan a ddywedodd:er mai nid fi wnaeth ddechrau'r edefyn yma ('dw i'n cymryd mai Nic wnaeth wahanu hwn o'r edefyn arall wedi i hwnnw fynd off ar dangiad braidd - Saddam, C.G., yr un peth. ahem)....ym, elli di ymhelaethu ychydig bach Boris?
O ni dan yr argraff mae cwestiwn da/drwg oedd yma.
Dwi'n amheus iawn o gynrychiolaeth gyfrannol am sawl rheswm.
1. Arwain at 'deals' tu ôl i'r llenni rhwng pleidiau ac felly democratiaeth ddim yn berthnasol. Enghraifft wych oedd 'breakthrough y Blaid Lafur yn Iwerddon tua 1991 pam gawson nhw tua 25% o'r bleidlais a difrodi Finna Gael a Finna Fail. Be ddaru nhw? Cyfarfodydd dirgel a cadw Finna Fail, sef y blaid oedd wedi denu llid yr etholwyr, mewn grym. Drewi ta be?
2. Agor y drws i belidiau eithafol. Heb Mitterand yn cyflwyno PR fyddai'r Front National erioed wedi dod yn rym yn Ffrainc.
3. Rhoi grym i bleidiau nid pobl. Pan chwalwyd Helmut Kohol(?) gan y Social Democrats nol yn 98/99 fe gollodd Kohol, Prif Weinidog ers deunaw mlynedd, ei sedd. Tebyg i Portillo yn colli yn 97, ond llawer mwy ysgytwol (dychmygwch Blair yn colli Sedgfield). Y bore canlynol 'roedd Kohol yn ôl yn y Senedd. Sut? Achos y fo oedd rhif un ar restr PR ei blaid. Er gwaethaf barn y bobl roedd o'n nol.
4. Aelodau rhestr yma yng Nghymru. I pwy mae nhw'n atebol? Neb ond y pleidiau sy'n eu dewis. Yw hyn yn iawn? Nid etholwyr gogledd Cymru roddodd y sac i Peter Rogers ond aelodau toriaidd y gogledd. Pa fath o berthynas sy'n bodoli felly rhwng yr aelodau 'rhanbarthol' hyn a'r bobl sy'n ei hethol. Mae pawb yn gwybod mae cadw aelodau dy blaid yn hapus yw'r ffordd i gadw dy sedd.
5. PR senedd Ewrop. What's the point? Mae Eurig Wyn MEP eisioes yn cyfaddef fod ei gyfnod ym Mrwsel yn dod i ben haf nesaf ac felly mae wedi mynd i Ynys Mon. Pam y derbyniad yma o'i sefyllfa? Yn syml oherwydd fod Jill Evans wedi ei rhoi yn rhif un ar restr PC o ymgeiswyr.
Dwi'n fodlon dweu 'rwan mae aelodau Ewropeaidd nesaf Cymru fydd (mewn trefn ethol);
1. Glenys Kinnock
2. Jonathan Evans
3. Jill Evans
4. Eluned Morgan
Democratiaeth? Dim ond i aelodau'r pleidiau sy'n dewis.