Gwisg ysgol
Postiwyd: Gwe 19 Rhag 2003 10:50 pm
Beth yw barn eraill ar wisg ysgol. Roeddwn yn sbio ar lyniau dosbarth o fi a fy mrawd a fy chwaer yn ein blynyddoedd cyntaf yn yr ysgol gynradd yn ddiweddar a sylweddolais nad oedd yr un ohonant yn gwisgo gwisg ysgol tra bod pawb arall yn y dosbarth yn gwneud. Gofynais i fy mam pam nad oeddent yn gwisgo gwisg ysgol a dywedodd oherwydd bod ein tad yn teimlo bod yr unigolun mewn addysg yn bwysig. Ydych chi yn cytuno efo hyn? Dwi' n meddwl bod yr unigolun mewn addysg yn holl bwysig on dwi' m yn deall syd mae be ti' n wysgo yn adlewyrchu y ffaith bod ti' n unigolun. Wedi' r cwbwl pam ti' n yr ysgol gynradd ti gwysgo y dillad mae dy rieni yn roi i ti a felly mae dy ddillad dim ond yn adlewyrchiad ar sdeil dy rieni. Hefyd os gyna chdi wisg ysgol mae' n siwr bod ti' m yn cystadlu efo eraill am pwy sydd efo dillad gorau. Ond wedyn ella bod gwisg ysgol yn gor gymdeithasu pobl ac yn cymerud yr unigolun allan o' r person