gan Cwlcymro » Maw 27 Ion 2004 10:02 am
Glywodd y rheithgor am un o'i hen "drosedda" (cofiwch dodd o heb ei ffendio yn euog o ddim un.
Y rheswm am hyn ydi fod Maxine Carr wedi ei ddefnyddio fel rhan o'i hamddiffyn, ac mewn ffordd, fel amddiffyn Huntley.
Ma gen yr ochr Amddiffyn hawl i ddod a unrhyw hen drosedd i fynnu, yr Erlynydd sydd heb hawl. Dim ond wedyn, eiliada ar ol y dyfarniad, y gwnaeth yr Heddlu gyfadde fod ganddo restr o achosion.
Ma'r barnwr o hyd yn gwybod y rhestr llawn, i'w helpu efo defrydu.
Am yr un rheithgor arall Lowri, dodd o ddim mor wirion a ti'n feddwl. I ffendio boi yn euog, ma raid i chdi fod yn siwr, heb unrhyw doubt, fod o'n euog. Ma gen pawb ei barn ei hyn am be ydi 'without reasonable doubt'. I fi ma'n 99% shwr, i rei man 100%, i eraill 75%. Doddna ddim prawf pendant o be ddigwyddodd yn ty Huntley, a fyswn i heb gal heart attack os sa fo heb ei ffendio'n euog (er mor amlwg odd ei euogrwydd!)
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?