Tudalen 1 o 1

y rheithgor a ffeindiodd Ian Huntley yn ddieuog

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2003 12:35 am
gan Lowri Fflur
Pwy sy' n cytuno efo fi bod yr 1 rheithgor allan o 11 a ffeindiodd Ian Huntley yn ddieuog o murder yn gyrfod bod yn un o' r pobl mwyaf dwl ar y ddaear yma a nath o ddal i dir a ffraeo dros hyn am dri diwrnod!!!!!! :x

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2003 12:49 am
gan Newt Gingrich
Falle fod o'n fan o Henry Fonda

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2003 10:36 am
gan Barbarella
Dio ddim yn golygu bod y person yna ddim yn meddwl bod ian huntley wedi lladd y ferched -- y cwestiwn oedd a nath e <i>lofruddio</i> nhw. Cofiwch nad y'n ni wedi gweld yr holl dystiolaeth, a doedd gan y rheithgor ddim hawl i wybod am y cyhuddiadau blaenorol yn ei erbyn. O be wela i, prin oedd y tystiolaeth bod e wedi eu lladd nhw'n <i>fwriadol</i> -- roedd ei stori e'n hollol wirion, oedd, ond dyw hynny ddim yn <i>dystiolaeth</i>. Yn y cyd-destun yna, alla i weld rywfaint o gyfiawnhad dros rywun yn feddwl mai dim ond dyfarniad o ddynladdiad gellid ei rhoi.

Barbella

PostioPostiwyd: Mer 24 Rhag 2003 12:55 am
gan Lowri Fflur
Pwyn digon teg Barbella. Nes i ddim sbio arna fo fela o blaen

PostioPostiwyd: Gwe 09 Ion 2004 12:02 am
gan ceribethlem
a doedd gan y rheithgor ddim hawl i wybod am y cyhuddiadau blaenorol yn ei erbyn.

Mae 'na reol rhyfedd ynglyn a hyn, ac yn achos Ian Huntley fe gafodd y rheithgor glywed am ei gyhunddiadau blaenorol.
Ddigwyddodd yr un peth i'r "Clydach Murderer" ger Abertawe, oherwydd y rheol od yma fe glywodd y rheithgor am ei gyhuddiadau blaenorol, ac felly yn fwy tebygol o'i ddedfrydu.


Allan o ddiddordeg y rheol yw (yn Saesneg, sori, sdim clem gyda fi am dermau cyfreithiol yn y GYmraeg):
If the defence question the character of a prosecuting witness, this allows the prosecution in turn to question the character of the accused.
Mae cwesitynnu cymeriad rhywun yn golygu bod hawl defnyddio cyhuddiadau blaenorol yn y llys.


(Fy nhad ddywedodd hyn wrthai ac mae'n gyfreithiwr)

PostioPostiwyd: Maw 27 Ion 2004 10:02 am
gan Cwlcymro
Glywodd y rheithgor am un o'i hen "drosedda" (cofiwch dodd o heb ei ffendio yn euog o ddim un.
Y rheswm am hyn ydi fod Maxine Carr wedi ei ddefnyddio fel rhan o'i hamddiffyn, ac mewn ffordd, fel amddiffyn Huntley.
Ma gen yr ochr Amddiffyn hawl i ddod a unrhyw hen drosedd i fynnu, yr Erlynydd sydd heb hawl. Dim ond wedyn, eiliada ar ol y dyfarniad, y gwnaeth yr Heddlu gyfadde fod ganddo restr o achosion.
Ma'r barnwr o hyd yn gwybod y rhestr llawn, i'w helpu efo defrydu.

Am yr un rheithgor arall Lowri, dodd o ddim mor wirion a ti'n feddwl. I ffendio boi yn euog, ma raid i chdi fod yn siwr, heb unrhyw doubt, fod o'n euog. Ma gen pawb ei barn ei hyn am be ydi 'without reasonable doubt'. I fi ma'n 99% shwr, i rei man 100%, i eraill 75%. Doddna ddim prawf pendant o be ddigwyddodd yn ty Huntley, a fyswn i heb gal heart attack os sa fo heb ei ffendio'n euog (er mor amlwg odd ei euogrwydd!)

PostioPostiwyd: Gwe 06 Chw 2004 2:03 am
gan Macsen
Ysgwni faint o bwysau oedd ar y rheithgor i ffeindio fo'n euog? Wn i fod 'jury nobbling' yn illegal, ond maen siwr bod rhan or ffws ar ffwdan wedi suddo mewn.

PostioPostiwyd: Gwe 06 Chw 2004 2:55 pm
gan Cwlcymro
Mai'n siwr bo hi'n aruthrol o annodd arny nhw. Meddylia faint o bapura newydd yr oeddy nhw wedi darllen! Dwi'n gwbod boent yn cael ei gorcymun i beidio neud yn ystod yr achos, ond man siwr fod pawb wedi darllen digon CYN cael ei dewis fel rheithgor, ac swn i'n eitha sypreisd os nath na run o'r deuddeg ddarllen papur yn ystod yr achos!

PostioPostiwyd: Sul 08 Chw 2004 7:21 pm
gan balls moch
Guto....dim Covi ti....tynna'r ffocin Dre na off dy enw y SLAG!