pogon_szczecin a ddywedodd:
Maes o ddiddordeb, fuaset ti wedi bod yn heddychwr yn y Ghetto Rising, Warszawa, 1943. Hynny yw, taset ti'n cael y dewis rhwng fynd i'r gas chambers neu ymladd yn ol, baset ti wedi dewis mynd i'r gas chambers?
Baset ti'n beirniadu'r rhai a ddewisodd ymladd yn ol?
Gellir fod wedi trin bygythiad Hitler llawer ynghynt.
Cytunaf. Ond trwy ddefnyddio trais neu fygwth defnyddio trais.
Fel heddychwr sut byddet ti'n gwrthwynebu Hitler heb ddefnyddio trais?
Dim ond dau opsiwn oedd. Defnyddio trais, neu gwneud dim. Os oes opsiwn arall gyda ti plis gweud wrthon ni.
Dyma graidd y ddadl am heddychiaeth (er 1944 oedd y Warsaw raising). Nid ymosod ar Cardi ydi bwrdwn fy neges, ond fel heddychwr mae'n rhaid i ti allu cynnig ateb fan hyn.