Postiwyd: Mer 07 Ion 2004 11:30 am
Gynta at galon neges Pogon.
Nid yw pawb sydd yn rhannu dy farn di ar un peth yn mynd i rannu dy farn ar bopeth - treia ddeall hynny.
Heddychwr ydw i, ond bach iawn o aelodau eraill y Maes yma sydd wedi datgan eu bont yn heddychwyr. rhys Llwyd yn unig yw'r llall, am wn i.
Yn bersonol alla i ddim gweld cyfiawnhad i unrhyw ryfel.
Gafodd Hitler gario ymlaen ai gynlluniau ffiaidd am flynyddoedd ac awdurdodau Prydeinig yn gwybod am beth oedd e'n wneud.
Gellir fod wedi trin bygythiad Hitler llawer ynghynt.
Cyn fod unrhyw un yn dweud mai'r 'appeasers' olygodd fod Hitler wedi mynd mor bell, mae'n rhaid yn gyntaf edrych ar bolisiau Prydain (a gwledydd eraill) tuag at yr Almaen yn wreiddiol, a thuag at Hitler yn benodol, olygodd fod Hitler wedi cyrraedd y fath safle a sefyllfa. Os na fyddai pethau wedi siwtio Prydain, yna mae'n dra anhebygol y byddai llywodraeth Prydain wedi goddef Hitler cyhyd (yn yr un modd gweddill gwledydd Ewrop).
Dyna lle fi'n gyson yn dadlau nad ydym ni wedi dysgu o hanes ac fod yr un camgymeriadau yn cael eu gwneud.
Irac a Saddam - Isteddodd Prydain yn ol a rhanol arfogi Saddam gan wybod yn iawn beth oedd e'n neud. Dim ond pan oedd e'n bygwth materion economaidd Prydain (ac America ac eraill) y penderfynodd y 'coalishwn' i ymyrryd. felly gyda jyst a bod pob rhyfel - hunanol llwyr yw'r cymhellion. Felly peidied neb ag esgus mai er lles eraill mae e.
Yn yr un modd y Rhyfel Byd Cyntaf - Prydain yn mynd mewn i warchod cenhedloedd Bychain (Belg) tra mai Prydain oedd yr ymerodraeth fwyaf gyda llu o genhedloedd bychain yn cael eu gorfodi i roi eu chyfoeth a'i phobl i ymladd eu rhyfeloedd - rhagrith.
Arian, a hunanoldeb a balchder - oll ynghlwm - yw gwraidd drygioni a felly rhyfeloedd.