Cardi a Sioni,
Os yw ateb Cardi wedi fy rhoi yn fy lle, sef bwdwn neges Sioni, yna hir y pery.
Mae posib parchu heddychiaeth Cardi Bach, ond mae wedyn yn anghenrhaid i ofyn beth fyddai canlyniadau heddychiaeth mewn achosion penodol.
Mae Cardi yn nodi fod fy safbwynt yn awgrymu mae lladd miliynnau o bobl ddi-niwed yw craidd fy nadl fod yr ail ryfel byd yn gyfiawn - ond beth fyddai wedi digwydd heb yr ail ryfel byd? Lladd miliynau a sefydlu trefn Natsiaidd trwy Ewrop? Wedi'r cyfan, beth ddigwyddodd i wledydd niwtral megis Rwsia, Denmarc, Norwy, Iseldiroedd? Doedd y gwledydd hyn ddim wedi cychwyn rhyfel nac sicrhau ffiniau Gwlad Pwyl ond fe wnaeth Hitler ymosod beth bynnag. Gyda pob parch at heddychiaeth, beth fyddai well? Derbyn y drefn ta amddiffyn dy wlad, dy gymuned a dy deulu?
Os yw crefydd / cred Cardi yn dweud troi y foch arall yna iawn dwi'n parchu hynny, ond ni all neb wadu hawl y gwledydd hynny fu'n destun ymosodiadau di-rybudd rhag amddiffyn eu hunain. Mae Cardi hefyd yn awgrymu fod rhyfel i gael gwared o un dyn (a Hitler sydd dan sylw fan hyn) yn beth od. Wel i mi mae unrhyw un sy'n gallu dweud peth fel hyn yn od.
Am y tro cyntaf dwi hefyd yn gweld dicter a chryn dipyn o falais mewn neges gan Cardi oherwydd fy mod yn awgrymu mae gwrth Brydeindod / Seisnigrwydd sy'n gyrru ei dadl. Wel, dwi'n dal i gredu hynny. Mae ensyniadau am Brydain y 30au yn derbyn y Status Quo yn hynod od gan un sydd ei hun yn dadlau y DYLEM fod wedi derbyn y status quo. Dadl Cardi yw na ddylid fod wedi cael WW2 - ond mae Cardi hefyd yn dadlau fod Prydain yn ddrwg gan eu bod yn gwybod fod Hitler yn ail arfogi. Wel beth oedd i fod i ddigwydd? Cais dymunol ar i Adolf Hitler ymatal rhag ail arfogi, a hynny gyda bygythiad o awr yng nghwmni heddychwr i berswadio Mr Hitler y dylai fihafio? Mae'r sgwarnog yma yn arddangos 'institutional racism' gwrth Seisnig. Piti.
O ran fy eilun addoliaeth o Brydeindod. Wel mae'na fwy o brawf o ddallineb cenedlaetholdeb Cymreig yn agweddau Cardi nac sydd yna o Brydeindod yn fy sylwadau i. Ond o ran yr ail ryfel byd gallaf ddweud y byddai cael fy ngalw yn amddiffynwr gweithredoedd llywodraeth Prdain o 1939 hyd 1945 yn gyhuddiad y byddwn yn dderbyn gyda balchder. Efallai fod Plaid Cymru oherwydd cymysgedd o wrth Seisnigrwydd, gwrth semitiaeth ac heddychiaeth wedi gwrthod cefnogi y rhyfel yn 1939/40 ond o leiaf yr oedd yna ambell aelod yn ddigon call i ymddiswyddo oherwydd fod natur y bygythiad Natsiaidd mor amlwg.
Dwi hefyd yn credu fod dadl Cardi re. HESS yn anhygoel. Beth ddylai Prydain fod wedi wendu yn 1941. Derbyn gwahoddiad Hess i ddod ar rhyfel i ben a rhoi rhwydd hynt i Hitler yn Rwsia??? Dyna oedd bwriad Hess. Os oedd y rhyfel yn Rwsia yn 'siwtio' Prydain fel mae Cardi yn ddweud yna pam ddim ymuno efo'r Almaen yn erbyn y Wladwriaeth Gomiwnyddol? Oherwydd egwyddorion efallai?
Yn olaf nol at y pwynt craidd. Oes modd cyfiawnhau rhyfel? Wel debyg ddim os ti'n heddychwr. Ond i 99% o bobl sydd ddim yn arddel heddychiaeth yna'r ateb yw oes. Os oedd Mandela yn iawn i arddel rhyfel yn Ne Affrica yna siawns fod cyfiawnhad hefyd dros WW2.